Fy ngwlad:

Ieuan Wyn Jones

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Ganwyd yn Ninbych, a fagwyd yng Ngarnswllt, ger Rhydaman a Chorwen. Yn byw ar Ynys Môn ers 1985.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Hanes bywyd Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd 1866-1899 a'i gyfraniad i fywyd gwleidyddol Cymru. Rwy’n ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym mis Mawrth 2024.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Bywydau unigolion a chwaraeodd ran allweddol ym mywyd gwleidyddol Cymru yn ail hanner y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. 

Llun o Ieuan Wyn Jones

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Cymhwysais fel cyfreithiwr yn 1973 ar ôl graddio yn y gyfraith (LLB) yn 1970. Wedi treulio 13 mlynedd yn ymarfer fel cyfreithiwr, cefais fy ethol yn AS Ynys Môn yn 1987, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, ac yn arweinydd Plaid Cymru yn 2000. Yn 2007 cefais fy ethol yn Ddirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru. Ar ôl gadael y Cynulliad yn 2013, sefydlais Barc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc) a fi oedd ei Gyfarwyddwr Gweithredol cyntaf tan 2018. Yn ystod fy ngyrfa amrywiol, rwyf bob amser wedi darllen yn eang i hanes Cymru, yn enwedig yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Ym 1998 cyhoeddwyd fy nghofiant ar y titan gwleidyddol Thomas Gee. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu papurau ymchwil ar hanes ASau Môn a phwysigrwydd etholiad 1868 yng Nghymru. Roeddwn bob amser wedi bwriadu dilyn fy nghofiant i Thomas Gee gydag ymchwil i fywyd Tom Ellis. Ond rhwystrodd fy ngyrfa wleidyddol fi rhag gwneud hynny, ac yn nawr edrychaf ymlaen at gwblhau’r genhadaeth honno.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Cyfarfod ag ymchwilwyr eraill, sboncio syniadau, cael yr amser a'r lle ar gyfer fy ymchwil fy hun, a chael budd aruthrol o arweiniad a mentora fy ngoruchwylwyr.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru, cyfnod o radicaliaeth ac ail-ddeffro ymwybyddiaeth genedlaethol.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Llanddyfnan, plwyf ym Môn lle trigai fy hynafiaid mamol. Mae gennyf rai dyddiaduron a ysgrifennwyd gan un o’m perthnasau sy’n rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar y cyfnod mewn hanes y mae gennyf ddiddordeb pennaf ynddo. 

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Wedi bod yn gwylio ‘The Durrells’ mewn pyliau o ddrama ITV yn ymwneud â bywydau’r teulu Durrell yn Corfu, gan gynnwys yr awduron Lawrence a Gerald Durrell. 

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Fy mhrif ddiddordeb y tu allan i hanes yw chwaraeon. Mewn pel droed dwi'n dilyn Lerpwl. ac mewn rygbi tîm cenedlaethol Cymru a thîm rhanbarthol y Dreigiau.

Cysylltwch â Ieuan: 

i.w.jones@bangor.ac.uk