Teitl y prosiect: 'The life of Thomas Edward Ellis, MP for Merioneth 1866-1899 and his contribution to the political life of Wales'
Ymchwilydd Doethurol: Ieuan Wyn Jones
Goruchwylir gan: Dr Mari Wiliam a Dr Lowri Ann Rees
Bydd prosiect ymchwil Ieuan yn asesu cyfraniad Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd 1866-1899, i fywyd gwleidyddol Cymru. Bydd yn edrych o'r newydd ar ei fywyd trwy astudio deunydd nad oedd ar gael i fywgraffwyr blaenorol neu na ddefnyddir ganddynt. Bydd yn taflu llygad gwrthrychol ar ei gyfraniad i ail-ddeffro ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd Ieuan yn ystyried effaith Brad y Llyfrau Gleision (1847), diwygiad crefyddol 1859, cwestiwn y tir, ymrysonau mewn addysg, lle’r Gymraeg, diffyg sefydliadau cenedlaethol, Datgysylltiad Eglwysig, a’r syniadau eginol ar Senedd neu Gynulliad Cymreig. Edrychir yn feirniadol ar rôl Tom Ellis yng nghreadigaeth mudiad Cymru Fydd a'i rinweddau arweinyddol a arweiniodd at y sobriquet 'Parnell Cymru' a dylanwad cenedlaetholwyr Gwyddelig megis Michael Davitt a chenedlaetholwyr Eidalaidd megis Giuseppe Mazzini ar ei syniadau wleidyddol.
Bydd ymchwil Ieuan hefyd yn edrych ar y berthynas agos rhwng anghydffurfiaeth a radicaliaeth Ryddfrydol ym mywyd a gwaith Tom Ellis ac i ba raddau y dylanwadodd sosialaeth Gristnogol ar ei feddwl yn dilyn ei gyfnod yn New College Rhydychen fel myfyriwr israddedig. Bydd Ieuan hefyd yn archwilio ei ddull cynnar a chyson o ymestyn yr etholfraint i fenywod. Bydd yr ymchwil hefyd yn edrych ar ei benderfyniad dadleuol i dderbyn swydd yn y Llywodraeth Ryddfrydol fel chwip o’r etholiad yn 1892, yn edrych ar ei resymau dros wneud hynny ac a oedd y feirniadaeth a ddenodd yn deg a chytbwys. Bydd ei gyfeillgarwch gyda’r gwleidydd dadleuol o Dde Affrica, Cecil Rhodes, a’i syniadau am Senedd Gymreig oedd yn israddol i’r Senedd Ymerodrol ar y llinellau a hyrwyddir gan Rhodes yn cael eu hasesu o’r newydd. Bydd traethawd ymchwil Ieuan yn ystyried y ddadl bod etifeddiaeth Tom Ellis wrth ailddeffro ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru wedi arwain at gyfnod pan oedd dyfodol Cymru fel cenedl yn rhan o’r disgwrs gwleidyddol am y tro cyntaf ers canrifoedd. Yn wir, bydd hefyd yn ystyried i ba raddau y dylanwadodd ei weithredoedd ar wleidyddion diweddarach ac a arweiniodd y disgwrs hwnnw at newidiadau cyfansoddiadol diwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Gweithgarwch diweddar: Papur a gyhoeddwyd yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn ar hanes ASau Môn rhwng 1800-1945 a chymryd ran mewn seminar Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar effaith etholiad 1868.