
Teitl y prosiect: Llanarthne: Nodweddiad Plwyf Cymreig Gwledig 1609-1920
Ymchwilydd Doethurol: Hannah Jones
Goruchwylir gan: Dr Lowri Ann Rees a Dr Shaun Evans
Yn hanes tirwedd Cymru, nad oes digon o ymchwil wedi’i wneud i mewn i blwyfi a threfi. Nod y prosiect hwn yw mynd i'r afael â'r ffaith hon trwy nodweddiad cynhwysfawr o blwyf gwledig yn Sir Gaerfyrddin o 1609 hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y prosiect yn defnyddio techneg Mapio Dwfn i olrhain newidiadau mewn tirwedd a defnydd tir. Bydd yn sefydlu ffiniau'r drefgordd ac yn archwilio arwyddocâd yr unedau tiriogaethol a gweinyddol hyn sydd wedi'u hesgeuluso. Bydd yn dadansoddi effaith y stadau tir sy'n croesi drwy'r plwyf ar y dirwedd a defnydd tir. Yn olaf, archwilir ymateb y boblogaeth leol i'r newidiadau yn y dirwedd y maent yn perthyn iddi.
Datblygiadau diweddar: Hannah Jones, 'Middleton Hall in the Landscape', Carmarthenshire Antiquary 60 (2024), 39-54.