
O ble ydych chi'n dod? Dw i’n dod yn wreiddiol o Lundain, ond wedi byw yng ngogledd Cymru ers 1971.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Etholiadau yn etholaethau Môn a Sir Gaernarfon rhwng 1689 a 1832.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Rwyf wedi bod yr au pair hynaf yn y byd, yn gogydd proffesiynol, wedi rhedeg bwyty ac wedi treulio blynyddoedd lawer fel Nyrs Seiciatrig cyn ymddeol.
Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono? Bod yn rownd derfynol Mastermind.
Eich hoff le yng Nghymru? Portmeirion.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Meditations gan Marcus Aurelius.
Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Rwy’n coginio bwyd hanesyddol, ‘Pioneer Food’ Americanaidd o’r ddeunawfed ganrif, yn ail-greu prydau Carême, yn gwneud fy nghaws, menyn a chig eidion corn fy hun. Rwyf hefyd yn brodio, gwneud dillad a chwilt. Ac rwy'n mwynhau chwarae poker ar-lein.
Cysylltwch â Lynn:
hiu802@bangor.ac.uk