O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Cefais fy ngeni a'm magu yn Swydd Nottingham, ond rydw i wedi bod yng Nghanolbarth Cymru ers diwedd y 1960au. Ers 1981 rwyf wedi byw yn y Drenewydd, Powys.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Perchnogion, pobl, trawsnewid a newid ar ystad yng Nghymru: Neuadd Gregynog, Sir Drefaldwyn, 1750-1900. Ymunais â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym mis Ionawr 2018 i wneud cwrs PhD rhan amser.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Rôl stadau tirfeddiannol Cymru a’u perchnogion mewn cymdeithas dros y pedair neu bum canrif ddiwethaf, a’r rhan y maent wedi’i chwarae yn esblygiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cymunedau.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Ar ddiwedd y 1960au, ymgymhwysais fel Llyfrgellydd Siartredig ar ôl cwblhau diploma dwy flynedd yn yr hyn a oedd ar y pryd yn Goleg Llyfrgellyddiaeth Cymru, Aberystwyth (yn ddiweddarach daeth yn Adran Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth, CPC Aberystwyth).
Ym 1969 symudais i'r Drenewydd, Sir Drefaldwyn, i gymryd swydd Llyfrgellydd Ysgolion gwasanaeth Llyfrgell y Sir, ac yn ystod y cyfnod hwnnw y deuthum i adnabod Neuadd Gregynog am y tro cyntaf. Ym 1972 symudais i'r un swydd yn Sir Ddinbych. Rhwng 1974 a 1977 roeddwn yn fyfyriwr yn y London School of Economics (hunan-gyllidol am ddwy o'r tair blynedd) lle astudiais am radd B.Sc (Econ) mewn Llywodraeth a Hanes.
Wedi hynny bûm yn gweithio fel Swyddog Gwybodaeth i Gorfforaeth Ddur Prydain yn ystod blynyddoedd anodd cau gweithfeydd dur. Yn ystod y cyfnod hwn mi wnes i gwblhau fy ail nofel i blant (roedd 'llyfr merlod' cyntaf wedi'i gyhoeddi gan Harrap yn 1968. Roedd hefyd wedi ymddangos yn America ac yn yr Almaen) a dderbyniwyd gan gyhoeddwr Americanaidd fy llyfr cyntaf.
Gan fod fy swydd gyda Dur Prydain ar fin cael ei dileu, roeddwn i’n teimlo bod yr amser yn iawn i symud yn ôl i Gymru i weithio ar fy ngyrfa fel awdur. Roeddwn i eisoes wedi llwyddo i brynu’r bwthyn teras lle rwy’n dal i fyw yn y Drenewydd (ar ôl methu â dod o hyd i unrhyw beth fforddiadwy yn Llundain, ar ôl gwario fy holl gynilion ar fy ngradd), felly symudais yno’n barhaol yn nechrau 1981. Cyhoeddwyd fy llyfr 'The White Pony' yn America y flwyddyn honno a chafodd adolygiadau da, ond aeth y cyhoeddwr yn fethdalwr, yn dal heb dalu'r blaenswm o $1,000 dan gontract.
Cafwyd ychydig o flynyddoedd anodd yn dilyn hynny (nid yn unig i mi, yn hanner cyntaf yr wythdegau!) ond ym 1987 cymerais swydd ran amser fel Gweinyddwr yng Ngwasg Gregynog, ac yn dilyn hynny gofynnwyd i mi wneud ychydig o waith yn Llyfrgell Gregynog. 37 mlynedd yn ddiweddarach dwi’n dal yno, ond yn y cyfamser, treuliais wyth mlynedd fel Llyfrgellydd Ysgolion yn Ysgol Uwchradd Y Trallwng. Cyhoeddais dair nofel arall i bobl ifanc hefyd, y tro hwn gyda chefndir Cymreig penodol.
Ers 1987 mae Gregynog wedi’i reoli’n olynol gan dri warden academaidd, pedwar cyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol dros dro a dau Brif Swyddog Gweithredol, a’r diweddaraf yw’r Prif Weithredwr presennol, David Chell. Pan ddaeth y newid i Gyfarwyddwyr, dechreuais orfod adrodd stori Gregynog i bob un ohonynt, a gwneud fy ngorau i'w darbwyllo bod y stori yn un ddiddorol a phwysig. Dechreuais deimlo bod angen hanes llawnach o Gregynog i helpu i gynnal ei le a’i hunaniaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid arweinlyfr yn unig, ond hanes academaidd barchus a fyddai’n mynd ati i archwilio lle Gregynog fel stad diriog yn hanes economaidd a chymdeithasol Cymru. Yn ffodus, cytunodd ymddiriedolwyr Gregynog â mi, a chytunwyd i noddi fy ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae’r Sefydliad – y staff, fy ngoruchwylwyr, a’m cyd-ymchwilwyr – wedi fy ngalluogi i droi fy awydd i ymchwilio i hanes Gregynog yn broject sydd wedi arwain at fy nhraethawd ymchwil a gwblhawyd yn ddiweddar. Maent wedi beirniadu, herio, annog ac yn anad dim wedi fy helpu i ganolbwyntio. Fel llyfrgellydd rwy'n mwynhau'r prosesau ymchwil, olrhain ffynonellau, y teithiau i lyfrgelloedd ac archifau pell, ond rwyf hefyd wedi cael bod yn rhan o gymuned academaidd yn hynod werth chweil.
Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Gorffen fy nhraethawd ymchwil, a chael ei dderbyn gan fy arholwyr yn fy arholiad llafar ym mis Chwefror eleni gyda dim ond ychydig o fân newidiadau.
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Yn bendant y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg – y canrifoedd y ganed y byd modern ynddynt. Oes yr Ymoleuo! Oes y Chwyldroadau! Oes Cynnydd – a’r canrifoedd mwyaf ar gyfer pensaernïaeth, llenyddiaeth a cherddoriaeth.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Rwyf wrth fy modd â’r daith yn y car o’m cartref yn y Drenewydd i Gregynog – teimlaf mae’n rhaid bod gen i un o’r teithiau cymudo harddaf ym Mhrydain. Ond dwi hefyd yn hoff iawn o rai o’r hen gestyll – mae ein castell lleol ni, Dolforwyn yn wych ond fy ffefryn yw Castell Carreg Cennen yn Sir Gaerfyrddin.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Rwy'n ailddarllen 'The Victorious Century' gan David Cannadine ar hyn o bryd. Mae'n hanes gwleidyddol trwchus am y Brydain Fictoraidd ac mae wir yn ardderchog.
Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Rwyf wedi bod yn aelod o’r Powysland Club ers symud yn ôl i Gymru yn yr 1980au. Fi yw ei Ysgrifennydd Gwibdeithiau ac rwyf newydd gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Rhaglen, felly rwy’n meddwl y bydd hynny’n fy nghadw’n eithaf prysur hyd y gallaf ragweld. Serch hynny, dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth, yn enwedig opera, ac eleni fe wnes i ganu ym mherfformiad Meseia Handel yng Ngŵyl Gerdd Sir Drefaldwyn.