Neuadd Gregynog

Dr Mary Oldham

Teitl y prosiect: 'Proprietors, people, transition and change on a Welsh estate: Gregynog Hall, Montgomeryshire, 1750-1900'

Ymchwilydd Doethurol: Mary Oldham

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Lowri Ann Rees

Cefnogir yr ymchwil gan: Cefnogir yn hael gan Ymddiriedolaeth Gregynog

Mae Neuadd Gregynog yn enwog fel cyn-gartref y casglwyr celf Gwendoline a Margaret Davies, ac fel canolfan gynadledda Prifysgol Cymru.  Hyd at 1913 bu’n bencadlys i un o'r ystadau tiriog hynaf yn Sir Drefaldwyn: yng nghanol rhwydweithiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol a ymestynnai dros plwyfi cyfagos a thros y ffin i Swydd Amwythig a Swydd Gaerloyw; rhwydweithiau a greai ymdeimlad cryf o hunaniaeth a chyswllt â Gregynog.

Ffotograff o Neuadd Gregynog, plasdy du a gwyn

Mae'r astudiaeth hon o hynt a helynt Gregynog mewn cyfnod o newid cymdeithasol a gwleidyddol yn ceisio cyfoethogi ei hanes a chynnig safbwyntiau newydd ar hunaniaeth a chymdeithas mewn sir wledig yng Nghymru.  Mae’r prif themâu yn cynnwys:

  • Perchnogaeth tir a’r olyniaeth linachyddol, gan gynnwys rôl merched mewn olyniaeth ystadau;
  • Lleoliad daearyddol a diwylliannol ar Ororau Cymru; twf, rheolaeth a rôl yr ystad yn yr economi leol; y newid o landlordiaid preswyl i landlordiaid dibreswyl; rôl asiantau;
  • Gwleidyddiaeth, bywyd cyhoeddus a diwylliant Cymru: landlordiaid Gregynog a thwf Rhyddfrydiaeth Sir Drefaldwyn mewn oes o newid cymdeithasol a gwleidyddol ac adfywiad yr ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig.

Mae ffynonellau archifol sy'n ymwneud â hanes yr ystad ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Powys, Archifau Swydd Gaerloyw, ac yng Ngregynog ei hun.  Cefnogir y cofnodion hyn gan astudiaethau hanesyddol pwysig, yn arbennig 'Melvin Humphreys' The Crisis of Community: Montgomeryshire 1680-1815 (Caerdydd, 1996).

 

Gweithgarwch diweddar: Mae Mary wedi cwblhau’r prosiect ymchwil doethurol hwn yn ddiweddar. Gallwch ddarllen mwy amdano yma.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?