Sgyrsiau ISWE … Dr David Gwyn ar Tirweddau Llechi Gwynedd
I ddathlu lansio’r wefan newydd, rydym yn gwahodd nifer o’n partneriaid a’n ffrindiau i drafod eu gwaith, eu hoffterau a’u diddordebau. Heddiw rydym yn sgwrsio gyda Dr David Gwyn am Dirweddau Llechi Gwynedd.
Mae David yn archeolegydd, yn hanesydd ac yn ymgynghorydd treftadaeth o fri. Bu’n angerddol dros dreftadaeth ddiwydiannol gogledd Cymru trwy gydol ei oes ac yn arbenigwr arni. Yn benodol, mae’n arbenigwr blaenllaw ar archaeoleg diwydiant llechi Gwynedd, diwydiant sy’n gyfystyr â hanes economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y rhanbarth.
Chwaraeodd David ran ganolog yn yr ymdrech hirdymor i ddynodi ‘Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru’ yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac roedd ennill y statws hwnnw yn 2021 yn bennaf diolch i egni, gweledigaeth a chyfraniad deallusol David. Ei lyfr, Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes, a gyhoeddwyd yn Saesneg fel Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry (2015), yw’r gyfrol sylfaenol ar y ‘diwydiant Cymreiciaf o ddiwydiannau Cymru’, a’r effaith sylweddol a gafodd ar sawl agwedd ar fywyd y Cymry.
Mewn sgwrs hynod ddiddorol, mae David yn trafod pwysigrwydd llechi i hanes modern gogledd Cymru, arwyddocâd ystadau’r ardal wrth lunio a meithrin y diwydiant, a’r dirwedd gyfatebol, ac mae’n adrodd y broses lwyddiannus i sicrhau cydnabyddiaeth Treftadaeth y Byd UNESCO i Wynedd.

David, soniwch am eich cefndir a sut y gwnaethoch chi ddechrau ymddiddori yn y dirwedd a diwydiant y llechi?
Cefais fy magu ym Methesda, ac roedd gan fy nheulu gysylltiadau â chwareli Rhiw Bach a Chwm Machno. Mi wnaeth ymweliadau â Chwarel y Penrhyn o 1962 i 1964 wneud imi sylweddoli pa mor ddiddorol oedd y lleoedd hynny.
Sut a phryd y daethoch yn rhan o’r broses ffurfiol i sicrhau Statws Treftadaeth y Byd UNESCO i dirweddau llechi Gwynedd?
Dechreuais y broses ar ôl llwyddo i gofrestru traphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn 2009, proses y bûm yn ymwneud â hi, trwy roi argymhelliad i arweinydd cabinet Cyngor Gwynedd y pryd hynny.
Beth oedd eich rôl wrth ddatblygu'r achos dros yr enwebiad?
Gwneuthum yr awgrym cychwynnol; ac yna datblygais yr achos; paratoais y cais i restr gynigion y Deyrnas Unedig; bûm yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd i baratoi astudiaethau cymharol; cyhoeddwyd yr astudiaeth ddiffiniol o Lechi Cymru gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru; sefydlwyd y tîm ymgynghori; gwerthuso'r safleoedd i'w cynnwys: y safleoedd mewngloddio yn yr awyr agored ac o dan y ddaear, llwybrau trafnidiaeth a chymunedau; yn bennaf gyfrifol am adrannau 1-3 y Goflen a gyflwynwyd i UNESCO; cydweithiais gyda Chyngor Gwynedd, Cadw, CBHC a phartneriaid project eraill drwyddi draw; cysylltais â'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon; a chymerais ran yn ymweliad yr asesydd.
Pam mae tirweddau llechi Gwynedd yn cael eu hystyried yn rhai o arwyddocâd byd-eang i ddynoliaeth?
Maent yn enghraifft ragorol o dirwedd chwarela a mwyngloddio cerrig sy'n dangos hyd a lled y trawsnewid a fu ar yr amgylchedd amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Y dyddodion anferthol o lechi rhagorol oedd prif adnodd daearegol tirwedd fynyddig heriol yr Wyddfa a’i chriw. Mae eu lleoliadau gwasgaredig yn cynrychioli nodau dwys o ddiwydiannau ac aneddiadau, o bŵer cynaliadwy a gynhyrchid gan y dŵr toreithiog a harneisid mewn ffyrdd dyfeisgar, ac a roddodd fod i nifer o reilffyrdd arloesol a thechnegol ddatblygedig a ymlwybrai i borthladdoedd newydd ar yr arfordir a adeiladwyd i wasanaethu masnach allforion trawsgyfandirol. Mae'r eiddo'n cynnwys y tirweddau nodedig mwyaf eithriadol sydd, gyda'i gilydd, yn darlunio treftadaeth amrywiol tirwedd ehangach o lawer a grëwyd yn ystod oes diwydiannu Prydain.
Mae'r dirwedd hefyd yn enghraifft o newid pwysig, yn enwedig yn y cyfnod o 1780 i 1940, ar ddatblygiadau mewn pensaernïaeth a thechnoleg. Bu cloddio am lechi ym mynyddoedd y gogledd-orllewin ers cyfnod y Rhufeiniaid, ond daeth y cynhyrchu parhaus ar raddfa fawr o ddiwedd y 18fed ganrif hyd at ddechrau’r 20fed ganrif i dra-arglwyddiaethu yn y farchnad ryngwladol i doeau’r byd. Arweiniodd hynny at ddatblygiadau trawsgyfandirol mawr mewn adeiladu a phensaernïaeth. Roedd technoleg, gweithwyr medrus a throsglwyddo gwybodaeth o’r dirwedd ddiwylliannol yn allweddol i ddatblygiad diwydiant llechi cyfandir Ewrop a’r Unol Daleithiau. Yn ogystal, roedd y rheilffyrdd bach – sy’n dal i redeg ar stêm heddiw – yn fodel i nifer o’r systemau a’u dilynodd a gyfrannodd yn ddirfawr at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd rhanbarthau eraill mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’n amlwg y bu’r llechi’n hynod bwysig i hunaniaeth economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol ac yn wir ddiwylliannol y rhanbarth, ac mae hynny’n parhau?
Ydy, mae Tirwedd y Llechi’n enghraifft hynod o’r broses ddiwydiannol a drawsnewidiodd yr aneddiadau dynol traddodiadol a phatrwm defnydd tir amaethyddol ymylol; mae hefyd yn enghraifft o ddiwylliant lleiafrifol hynod unffurf yn ymaddasu i foderniaeth yn y cyfnod diwydiannol ond eto a gadwodd lawer o'i nodweddion traddodiadol.
Mae anferthedd tirwedd y chwareli’n drawiadol; meinciau gwaith megis grisiau anferth wedi'u cerfio o lethrau'r mynyddoedd, pyllau dwfn a thomennydd helaeth, a gweithfeydd mewn ogofau helaeth o dan y ddaear. Mae’r rheini hefyd yn dyst i ddyfalbarhad di-baid cenedlaethau o weithwyr a ddefnyddiai’r sgiliau y buont yn ymlafnio’n ddygn i’w hennill a thechnoleg arloesol i gloddio am lechi i’r farchnad fyd-eang.
Cadwodd eu haneddiadau, a grëwyd gan y diwydianwyr, y gweithwyr a’u teuluoedd, agweddau lu ar y ffordd draddodiadol o fyw a’r iaith yn ei chryfder. Maen nhw'n dal i fod yn dystiolaeth 'fyw' eglur, yn union fel y balchder yn y traddodiad o weithio’r llechi er y dirywiad a fu, a'r rheilffyrdd a arferai gludo'r llechi.
A oedd hi’n heriol cloriannu’r stori fyd-eang honno â phwysigrwydd hynod leol/rhanbarthol y llechi?
Ddim yn heriol; mae'r stori'n un fyd-eang ond ei bod yn ei hamlygu ei hun ar lefel leol iawn.
A allwch chi egluro pam mae ystadau mawr fel y Penrhyn, y Faenol a Than y bwlch yn ganolog i hanes y chwareli llechi, a beth oedd eu rôl hwythau’n siapio ac yn newid tirwedd Gwynedd?
Mae’r ystadau mawr yn ganolog i ddiwydiannu cynnar Prydain. Roedd gan berchnogion yr ystadau y cysylltiadau o ran cyfalaf a bancio a oedd yn angenrheidiol i agor chwareli a mwyngloddiau, adeiladu rheilffyrdd a melinau a thrwy hynny drawsnewid diwydiant crefftau bach yn gyflenwr byd-eang mawr. Aeth yr ystadau ati mewn gwahanol ffyrdd – roedd y Penrhyn, y Faenol, Oakeley, Glynllifon, Cinmel a’r goron i gyd yn dilyn dulliau gwahanol. Roedd cyfalaf hylifol hefyd yn bwysicach o'r 1850au ymlaen.
A oes nodwedd dirweddol arbennig sy'n amlygu dynodiad tirwedd y llechi?
Mae'r Amgueddfa Lechi yn ganolog i ddehongli'r safle.
Pa feysydd ymchwil sydd angen eu datblygu er mwyn deall hanes y llechi’n llawnach?
Cyllid, bancio a gwerthu.
Beth yw eich gobeithion o ran effeithiau tymor hir y dynodiad ar gymunedau Gwynedd?
Mwy o falchder cymunedol; ymwybyddiaeth gymunedol o dreftadaeth; gwelliant economaidd; twristiaeth gynaliadwy a gwell cyfranogiad mewn twristiaeth gan drigolion Gwynedd; a chadwraeth wybodus.
I ddarganfod mwy am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd y Llechi, gweler: https://www.llechi.cymru/.