Fy ngwlad:

Tŵr Marcwis

Prosiect Interniaeth Israddedig Prifysgol Bangor

Yn 2019, partneriodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ag Ymddiriedolaeth Colofn Ynys Môn ar brosiect interniaeth ymchwil yn canolbwyntio ar hanes Colofn Ynys Môn, neu Tŵr Marcwis.

Mae'r Golofn yn gofeb Rhestredig Gradd II* a saif ar frigiad Craig y Dinas ar gyrion Llanfairpwllgwyngyll, yn edrych dros y Fenai. Mae'n tirnod a godwyd rhwng Mehefin 1816 a Medi 1817 i goffau rôl Henry William Paget, Ardalydd 1af Môn, ym Mrwydr Waterloo. Roedd dau gam adeiladu; yn gyntaf, ym mis Mehefin 1816 y dechreuwyd codi colofn Ddorig 91 troedfedd (tua 28 metr) ynghyd â bwthyn cynorthwy-ydd. Yn ail, ychwanegwyd y cerflun efydd o'r Ardalydd 1af ym 1860 ar ôl ei farwolaeth ym 1854. Mae gan y golofn grisiau troellog mewnol sy'n caniatáu mynediad i lwyfan gwylio allanol sy'n rhoi 'golygfeydd heb eu hail o dirweddau Gogledd Cymru'. Yn anffodus, erbyn 2012 roedd grisiau pren y Golofn wedi pydru i gyflwr anniogel a bu’n rhaid cau’r safle cyfan i’r cyhoedd.

Darlun o Golofn Môn gyda'r Fenai yn y cefndir

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Colofn Ynys Môn yn 2017 i gydlynu’r gwaith o adfer yr heneb. Y prif amcanion yw atgyweirio'r grisiau mewnol i'r llwyfan gwylio, adeiladu canolfan dreftadaeth ac addysg wrth droed y strwythur a chreu ffyrdd mwy priodol o fynediad i'r cyhoedd, yn enwedig y rhai ag anableddau.

Defnyddiodd Peter Crosby, myfyriwr Hanes israddedig, archifau ac adroddiadau papur newydd i gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr 72 tudalen, yn amlinellu'r ymatebion cychwynnol ym Môn a Sir Gaernarfon i'r fuddugoliaeth yn Waterloo; yr awydd lleol i goffau rôl Henry Paget yn y frwydr; codi tanysgrifiad lleol tuag at gofeb; dyluniad y Golofn, ei lleoliad, adeiladwaith, agoriad swyddogol ac etifeddiaeth yn y dirwedd.

Darparodd yr adroddiad sylfaen dystiolaeth hanesyddol fanwl yr oedd yr Ymddiriedolaeth yn gallu ei rhannu mewn digwyddiadau cymunedol ac fel rhan o'i strategaeth cyllid grant, gan helpu i ehangu arwyddocâd treftadaeth y safle. Yn 2021, sicrhaodd yr Ymddiriedolaeth grant o £872,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i alluogi ail-agor y golofn, creu canolfan ymwelwyr, a mynediad i ymwelwyr anabl.

Ers hynny mae Peter Crosby wedi ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru fel ymchwilydd PhD. Mae ei brosiect yn adeiladu ar ei waith interniaeth, gan archwilio’r gyfres o strwythurau coffaol a adeiladwyd trwy danysgrifiad cyhoeddus yn dilyn Rhyfeloedd Chwyldroadol Napoleon a Ffrainc.