Croeso i gwefan Llety Prifysgol Bangor
Mae tîm neuaddau Prifysgol Bangor yn gyfrifol am ein neuaddau a'r myfyrwyr sy'n byw ynddynt. Rydym yma i'ch helpu, i gynnig cyngor ac i ateb eich cwestiynau ynglyn a'n llety.
Tua 3,000 o ystafelloedd
Ar hyn o bryd mae gan y Brifysgol tua 2,960 o ystafelloedd ar gael i fyfyrwyr, dros tair safle ym Mangor. Rydym yn gallu sicrhau lle mewn neuadd i holl fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf sy'n nodi Bangor fel eu dewis cadarn ac yn gwneud cais erbyn 31 Gorffennaf.
Yn cyd-fynd â chod ymddygiad UUK
Mae ein llety'n cyd-fynd â chod ymddygiad UUK ar gyfer llety i fyfyrwyr.
Mae ein llety oll o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas. Mae gan pob ystafell y canlynol - gwely, wardrob, desg, cadair, a man i storio'ch pethau. Mae'r rhan fwyaf o'n ystafelloedd yn rhai en-suite ac mae pob un yn hunain-arlwyo.
Mae gennym hefyd lety ar gael i fyfyrwyr ôl-radd a myfyrwyr sy'n ymweld â Prifysgol Bangor drwy gynlluniau 'astudio dramor' y Swyddfa Rhyngwladol.
Gwybodaeth am ein neuaddau
Cewch fwy o wybodaeth am ein neuaddau yma, yn cynnwys lleoliad a phrisiau, fideos a theithiau 360.