Fy ngwlad:

Ystafell Sengl Fforddiadwy (9.92m²–10.67m²) | Pentref Y Santes Fair

Addas ar gyfer: Myfyrwyr Israddedig / Ôl-raddedig / Dychwelwyr

 

  • £99 yr wythnos (2025/26)*
  • Pentref Y Santes Fair
  • 0.7 milltir o Brif Adeilad y Celfyddydau
  • Maint yr ystafell 9.92m²–10.67m²
  •  Ystafell ymolchi a rennir rhwng 4
  • Cegin a rennir rhwng 8
  • Hunan-arlwyo
  • Gwely sengl (90cm x 190cm) 

CYMRWCH DAITH RITHIOL O'R YSTAFELL HON

Archwiliwch yr ystafell hon o gysur eich soffa. Am brofiad cwbl ymdrochol, defnyddiwch eich penset VR a'i wylio ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas a'r eicon chwyddo i gael golwg agosach. Mae'r eicon cartref yn mynd â chi'n ôl i'r man cychwyn. Os oes taith dywysedig ar gael, defnyddiwch y botwm chwarae i’w dechrau.

Maes Parcio Bryn Eithin

Dyma'r maes parcio ar gyfer Bryn Eithin, sydd wedi'i leoli yng Nghefn Llan. Mae yna ardal barbeciw a bwrdd picnic ar y glaswellt.
Mynedfa i'r Fflatiau Dyma'r neuadd fynediad ac mae gan bob fflat 2 ddrws mynediad. Mae yna grisiau sy'n mynd i fyny i'r 3 llawr arall. Sylwer nad oes lifft. Mae yna hysbysfwrdd gydag gwybodaeth bwysig a manylion am eich Mentoriaid y neuadd. Mae pob fflat yn cynnwys 8 ystafell wely, 2 ystafell ymolchi a chegin.

Cegin Bryn Eithin

Dyma'r gegin mae yna fwrdd a meinciau eistedd digon ar gyfer 8 person a 2 soffa'. Mae yna 2 oergell-rhewgell, popty a 2 dim. Mae yna hefyd meicrodon, popty tost a tecell. Mae yna 2 sinc a digon o storio ar gyfer yr holl 8 preswylydd yn y cypyrddau cegin ffitio. Mae yna hwfer, bwrdd smwddio, mop a phwced a phadell lwch a brwsh. Mae yna hysbysfwrdd gydag gwybodaeth iechyd a diogelwch bwysig. Mae'r ffenestr fawr yn edrych dros y maes parcio, bydd y lloriau uwch yn edrych dros Fangor.

Ystafell Wely 1

Mae'r ystafell wely yn cynnwys gwely sengl, wardrobau, drysau a desg a chadair gyda silff uwch. Mae yna hefyd wasg ddŵr yn yr ystafell wely gyda drych uwchben ac hysbysfwrdd gydag gwybodaeth bwysig a chyffredinol.

Ystafell Wely 2

Mae yna wely sengl, wardrobau, drysau a desg a chadair gyda silff uwch. Ar y desg mae yna lamp desg. Mae yna hefyd sinc yn yr ystafell wely gyda drych uwchben ac hysbysfwrdd gydag gwybodaeth bwysig a chyffredinol. Mae'r ystafell wely hon gyda dwy ffenest ac ychydig yn fwy o ran gofod llawr.
Ystafell Ymolchi Mae yna 2 ystafell ymolchi ym mhob fflat, maen nhw'n cynnwys gwasg ddŵr a drych uwchben, toiled a chawod. Mae yna fachau ar y wal ar gyfer eich tywel ac ati.

FAINT FYDD Y GOST I FYW YMA?

Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cyllidebu. Amlinellir isod y costau rhentu, hyd y cytyndeb a'r costau ychwanegol dewisol ar gyfer y math yma o lety.

Costau Rhentu a Hyd y Cytundeb

Myfyrwyr Israddedig

  • Rent yr wythnos: £99
  • Cyfanswm rent: £4,143.86
  • Hyd y cytundeb: 42 wythnos
  • Dyddiadau'r cytundeb: 21, Medi 2025 - 11, Gorffennaf 2026

Myfyrwyr Ôl-raddedig

  • Rent yr wythnos: £99
  • Cyfanswm rent: £5,034.86
  • Hyd y cytundeb: 51 wythnos
  • Dyddiadau'r cytundeb: 21, Medi 2025 - 12, Medi 2026 

Gwybodaeth hanfodol

Myfyrwyr Israddedig

  • Rent yr wythnos: £87
  • Cyfanswm rent: £3,641.57
  • Hyd y cytundeb: 42 wythnos
  • Dyddiadau'r cytundeb: 22, Medi 2024 - 12, Gorffennaf 2025

Myfyrwyr Ôl-raddedig

  • Rent yr wythnos: £87
  • Cyfanswm rent: £4,424.57
  • Hyd y cytundeb: 51 wythnos
  • Dyddiadau'r cytundeb: 22, Medi 2024 - 13, Medi 2025 

gwybodaeth hanfodol

Costau Ychwanegol Dewisol

  • Tocyn parcio blynyddol: I'w gadarnhau
  • Goriad blynyddol i storfa beics gyda tho: £20
  • Golchdy: £2 i olchi dillad / £1 i sychu dillad
  • Tocyn parcio blynyddol: I'w gadarnhau
  • Goriad blynyddol i storfa beics gyda tho: £20
  • Golchdy: £2 i olchi dillad / £1 i sychu dillad

Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gost am Neuaddau 

  • Pob bil (dŵr, gwresogi, trydan)
  • Wi-Fi cyflym
  • Atgyweiriadau a chynnal a chadw amserol
  • Yswiriant cynnwys
  • Aelodaeth o'r gampfa
  • Glanhau ceginau a mannau cyhoeddus yn wythnosol

Cyfleusterau

Ystafell wely yn cynnwys:

  • Gwely a matres
  • Cwpwrdd dillad
  • Droriau
  • Desg
  • Lamp desg
  • Cadair desg
  • Silff lyfrau
  • Mynediad Wi-Fi
  • Basn ymolchi a drych

Ystafell ymolchi a rennir yn cynnwys:

  • Cawod gyda llen neu ddrws
  • Basn ymolchi
  • Toiled
  • Drych

Cegin yn cynnwys:

  • Popty a hob
  • Oergell/rhewgell
  • Storfa
  • Tegell
  • Tostiwr
  • Meicrodon
  • Bwrdd bwyta a chadeiriau

Offer glanhau a domestig:

  • Mop a bwced
  • Padell lwch a brwsh
  • Hwfer
  • Bwrdd smwddio
  • Cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu

Cyfleusterau ym Mhentref Y Santes Fair

  • Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
  • Diogelwch 24/7
  • Mynediad cerdyn/allwedd diogel
  • Barlows
  • Siop 
  • Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
  • Ystafell ffitrwydd
  • Ystafell gyfrifiaduron
  • Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
  • Wi-Fi cyflym
  • Ystafelloedd cyffredin
  • Ystafell sinema
  • Golchdy
     
  • Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)

Cyfleusterau ym Mhentref Y Santes Fair

  • Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
  • Diogelwch 24/7
  • Mynediad cerdyn/allwedd diogel
  • Barlows
  • Siop 
  • Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
  • Ystafell ffitrwydd
  • Ystafell gyfrifiaduron
  • Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
  • Wi-Fi cyflym
  • Ystafelloedd cyffredin
  • Ystafell sinema
  • Golchdy
     
  • Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)
Myfyrwyr yn cymdeithasu tu fewn i un o'r fflatiau ym Mhentref y Santes Fair

Pam dewis Pentref Myfyrwyr Y Santes Fair?

  • Gyda tua 600 o ystafelloedd, mae ei faint llai yn meithrin cymuned gartrefol.
  • Cynllun wedi'i ddylunio i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wneud ffrindiau a chymdeithasu.
  • Mewn amgylchedd tawel, mae'r lleoliad distawach hwn yn ddelfrydol ar gyfer astudio a ymlacio.
  • Mewn safle uchel, gyda golygfeydd ysblennydd dros y ddinas.
  • Wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at y rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.
  • Amrywiaeth o opsiynau ystafelloedd ar gyfer gwahanol anghenion a chyllidebau.
  • Mae ystafell ffitrwydd ar gael ar gyfer ymarfer corff cyfleus, a bydd gennych aelodaeth o'r gampfa/canolfan chwaraeon yn Ffriddoedd.
  • Rydym yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU, sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu eich hawliau i lety diogel o ansawdd da.

Adeiladau gyda'r ystafell yma:

Woman in Red Sweater Wearing Black Framed Eyeglasses Sitting on Wheelchair
Credit:Marcus Aurelius @ Pexels

Hygyrchedd yn ein Neuaddau

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cyfforddus a chynhwysol ar gyfer pob myfyriwr. Mae ein neuaddau'n cynnig y nodweddion hygyrch hyn:

  • Ystafelloedd llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau
  • Ystafelloedd hygyrch i gadeiriau olwyn gyda drysau awtomatig
  • Ystafelloedd gwlyb gyda rheiliau cydio a chadeiriau cawod
  • Rhai ystafelloedd gwlyb wedi'u cyfarparu â thoiledau Closomat
  • Oergelloedd meddyginiaeth ar gael ar gais
  • Cymhorthion clyw: clustogau dirgrynol a larymau fflachiol
Grŵp o fyfyrwyr yn cymdeithasu mewn ardal olygfaol

Cefnogaeth o'r eiliad y byddwch yn cyrraedd

Cefnogaeth bwrpasol: Bydd ein tîm ar y safle o Wardeiniaid Uwch a thîm mawr o fentoriaid myfyrwyr yn eich helpu i ymgartrefu a delio ag unrhyw heriau.
Teimlo'n ddiogel: Er mwyn tawelwch meddwl ychwanegol mae gan ein neuaddau staff diogelwch 24/7.
Cymuned fywiog: Mwynhewch ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog wedi'u trefnu gan y tîm Bywyd Campws, gan greu cyfeillgarwch parhaol o'r diwrnod cyntaf.
 

Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Campws Byw - digwyddiadau ar gyfer cymuned y neuaddau

Mae'r tîm Campws Byw yma i sicrhau bod eich amser yn y neuaddau yn llawn hwyl, cyfeillgarwch, ac atgofion bythgofiadwy.

  • O bartïon pizza a nosweithiau karaoke i deithiau cerdded mynydd a nosweithiau ffilm, mae gennym galendr llawn o ddigwyddiadau i'ch diddanu.
  • Dysgwch sgiliau bywyd gyda'n sesiynau 'Sut i...' sy'n cynnwys popeth o gyllidebu i goginio i fyfyrio.
  • Ymlaciwch gyda'ch cyd-letywyr mewn sesiwn ioga, mwynhewch ginio rhost am ddim ar ddydd Sul neu dangoswch eich sgiliau mewn brwydr lip-sync.
Myfyrwraig yn dangos ei ffôn i ffrindiau

Gwnewch ffrindiau cyn i chi gyrraedd

Pan fyddwch wedi cael cynnig i astudio yma, fe gewch wahoddiad drwy e-bost i ymuno â'n ap CampusConnect.

Dyma ffordd wych o gysylltu â chyd-fyfyrwyr a chyd-letywyr y dyfodol, gwneud ffrindiau newydd a chael cyngor gwych, uniongyrchol am fywyd prifysgol cyn i chi hyd yn oed gyrraedd y campws.

Gwybodaeth Bwysig am Neuaddau

Mae'r wybodaeth a gyflwynir ar y dudalen hon ynglŷn ag opsiynau llety'r Brifysgol, gan gynnwys disgrifiadau, ffotograffau, cynlluniau llawr, a chyfleusterau, wedi'i bwriadu fel canllaw cyffredinol a gall fod yn destun newid. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, nid yw'r Brifysgol yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gyfredol. Mae argaeledd llety, nodweddion penodol, a chyfraddau rhent yn destun newid heb rybudd. Anogir darpar breswylwyr i gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau yn uniongyrchol i gadarnhau manylion penodol ac argaeledd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu opsiynau llety yn ôl yn ôl ei disgresiwn.