Myfyrwyr israddedig a ôlraddedig - gallwch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau drwy ddebyd uniongyrchol neu gyda cherdyn credyd. Manylion llawn ar gael ar wefan y Swyddfa Gyllid.
POLISI A GWEITHDREFN RHEOLI CREDYD Y NEUADDAU PRESWYL
Dyma nodi'r weithdrefn i'w dilyn ar gyfer rheoli dyledion y myfyrwyr preswyl. Polisi'r Brifysgol yw lleihau dyledion ar bob lefel gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth priodol i dalu'r ffioedd sy'n ddyledus mewn da bryd. Mae'r weithdrefn yn ymwneud â holl ffioedd y neuaddau a'r taliadau preswyl ychwanegol sy'n daladwy i'r Brifysgol. Datblygwyd Polisi a Gweithdrefn Rheoli Credyd y Neuaddau Preswyl i alluogi'r Brifysgol i reoli dyledion yn effeithlon ac yn effeithiol.
Wrth roi'r weithdrefn ar waith, bydd y Brifysgol bob amser yn ceisio arfer cydymdeimlad a dealltwriaeth o amgylchiadau ariannol y myfyriwr. Er mwyn i'r Brifysgol roi'r weithdrefn ar waith gyda chydymdeimlad, rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'r Brifysgol mewn da bryd os ydynt yn cael trafferthion ariannol. Dylai'r myfyrwyr hynny sy'n cael trafferth talu ffioedd a thaliadau eu llety ofyn am gymorth cyn gynted â phosibl trwy gysylltu â'r:
- Swyddfa Neuaddau - 01248 382667 neuaddau@bangor.ac.uk
- Y Swyddfa Gyllid - 01248 382055 feepayment@bangor.ac.uk
Mae cyngor a chymorth ychwanegol hefyd ar gael gan:
- Yr Uned Cymorth Ariannol, Gwasanaethau Myfyrwyr - 01248 383566 moneysupport@bangor.ac.uk
- Undeb y Myfyrwyr - 01248 388000 undeb@bangorstudents.com
Mae'r Brifysgol yn darparu gwahanol fathau o lety i'r myfyrwyr. Cyn symud i'r llety, rhaid i bob myfyriwr gytuno a llofnodi telerau cytundeb preswylio. Mae'r cytundeb yn amlinellu telerau taliadau'r llety'n glir. Gall y myfyrwyr dalu am ffioedd y neuadd yn llawn ymlaen llaw, neu drwy ddewis un o'r cynlluniau talu sydd ar gael trwy randaliadau cerdyn rheolaidd. Caiff y myfyrwyr hynny sy'n derbyn bwrsariaeth fisol dalu trwy gynllun talu â llaw misol; mae modd gwneud hynny yn y Swyddfa Neuaddau.
Caiff ffioedd Neuaddau Preswyl y Brifysgol eu gosod gan yr Uwch Dîm Rheoli a'u cymeradwyo yn y Grŵp Cynllunio Llety a Phwyllgor Gweithredu'r Brifysgol bob gwanwyn, ar gyfer y sesiwn academaidd ganlynol. Mae'r myfyrwyr sy'n byw yn neuaddau preswyl Bangor* yn cael aelodaeth o'r gampfa a'r Campws Byw ym mhris y neuaddau.
*Mae'n ddrwg gennym nad yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw ar Gampws Wrecsam a bod ffioedd neuaddau Wrecsam yn cael eu haddasu'n unol â hynny.
Mae dau ddewis ar gyfer talu ffioedd y neuadd:
1. Bydd eich cynllun talu yn cymryd taliadau trwy gerdyn debyd/credyd yn rheolaidd.
2. Talu ymlaen llaw am y flwyddyn gyfan.
1. TALU MEWN RHANDALIADAU TRWY GERDYN CREDYD/DEBYD YN RHEOLAIDD. ➢
- I sefydlu eich cynllun talu rhaid i chi gwblhau'r cyfarwyddyd drwy'r broses gofrestru arlein. Cewch wybod pan fydd y cofrestru ar-lein ar agor.
- Mae hyn yn caniatáu i daliad gael ei gymryd yn awtomatig mewn rhandaliadau o 3, 7 (neu 12 os ydych ar gwrs Ôl-radd
- Anfonir e-bost i'ch hysbysu i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd 5 diwrnod cyn y dyddiad talu disgwyliedig. Caiff y taliadau eu cymryd yn uniongyrchol o'r cerdyn a enwyd.
- Rhaid i'r myfyriwr hysbysu'r Swyddfa Gyllid ar unwaith os bydd manylion y cerdyn yn newid.
- Rhaid i'r myfyriwr sicrhau bod digon o arian ar gael ar y cerdyn ar y dyddiad talu; bydd y taliad yn cael ei gasglu ychydig ar ôl hanner nos ar y dyddiad hwnnw.
2. TALU YMLAEN LLAW AM Y FLWYDDYN GYFAN
- Cewch wneud hynny naill ai trwy Gerdyn Debyd/Credyd neu Drosglwyddiad Banc:
Enw’r Cyfrif: Prifysgol Bangor
Enw'r Banc: Grŵp Tasg Santander UK Plc
Cod didoli'r cyfrif: 09-02-22
Rhif y cyfrif: 10364019
UWB IBAN NO: GB46ABBY09022210364019
UWB SWIFT NO: ABBYGB2L
howch eich enw llawn a’ch rhif myfyriwr wrth wneud y trosglwyddiad ac anfonwch e-bost at remittance@bangor.ac.uk (i roi gwybod am y swm a drosglwyddwyd, y dyddiad a rhif y myfyriwr).
Dylai myfyrwyr sydd yma am 1 semester yn unig dalu'n llawn wrth gyrraedd neu yn ôl y cyfarwyddiadau ar yr atodlen dalu ar wahân a anfonir atynt gyda’u cynnig.
Nid oes angen i fyfyrwyr gofal iechyd gwblhau cynllun rhandaliadau cerdyn rheolaidd, cânt dalu ffioedd y neuadd yn fisol drwy gynllun talu â llaw, i gyd-daro â'u taliadau bwrsariaeth. Bydd disgwyl i unrhyw fyfyriwr gofal iechyd nad yw'n gwneud y trefniadau priodol dalu drwy daliad cerdyn rheolaidd, neu yn llawn ar gyfer y flwyddyn gyfan.
Rydym yn gweithredu ar yr egwyddor safonol o roi'r taliad a dderbynnir at y ddyled hynaf yn gyntaf. Dylai'r myfyrwyr hynny sy’n wynebu trafferthion ariannol gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau neu Swyddfa Gyllid y Brifysgol unwaith y dônt i wybod bod problem yn debygol o godi. Os cysylltwch yn gynnar efallai na fydd raid i'r Brifysgol anfon nodyn atgoffa – a gallai hynny arbed y ffi weinyddol. Po hwyaf yr oedwch cyn talu, po fwyaf fydd y ddyled, ac felly mae’n bwysig nad yw'r Myfyrwyr yn anwybyddu'r cyfrifoldeb sydd arnynt i dalu. Os bydd unrhyw fyfyriwr yn mynd i ddyled gydag unrhyw ffioedd neuadd, mi aiff y Brifysgol ati o gam 3 ymlaen i adennill y ddyled.
1. Anfonir e-bost hysbysu 5 diwrnod cyn y dyddiad talu.
2. Anfonir e-bost llwyddiant/methiant ar y dyddiad talu.
3. Os wnaiff y taliad 1af fethu, rhown gynnig arni eto mewn 5 diwrnod.
4. Os bydd yn methu eto, codir ffi taliad hwyr o £30 a bydd y cynllun yn dod i ben. Fodd bynnag, os bydd y myfyriwr yn talu o fewn 10 diwrnod i'r cynnig 1af, caiff y ffi o £30 ei dileu a chaiff y cynllun ei ailgychwyn.
5. Anfonir y rhestr o'r taliadau a fethodd at Neuaddau a Chymorth Ariannol.
6. Anfonir e-bost i'ch atgoffa'n derfynol i dalu o fewn 5 diwrnod gwaith.
7. Os na fydd y myfyriwr yn talu o fewn 5 diwrnod gwaith, anfonir e-bost a llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad o fewn 7 diwrnod.
8. Os bydd oedi gyda benthyciad y myfyriwr, caiff casgliad arall ei gymryd fis ar ôl y dyddiad yr oedd y rhandaliad 1af yn ddyledus.
1. Anfon e-bost i'ch hysbysu 5 diwrnod cyn y dyddiad talu.
2. Anfon e-bost llwyddiant/methiant ar y dyddiad talu.
3. Os wnaiff y taliad 1af fethu, rhown gynnig arni eto mewn 5 diwrnod.
4. Os bydd yn methu eto, codir ffi weinyddol o £30 a bydd y cynllun yn dod i ben. Fodd bynnag, os bydd y myfyriwr yn talu o fewn 10 diwrnod i'r cynnig 1af, caiff y ffi o £30 ei dileu a chaiff y cynllun ei ailgychwyn.
5. Anfonir y rhestr o'r taliadau a fethodd at Neuaddau a Chymorth Ariannol.
6. Anfonir e-bost i'ch atgoffa'n derfynol i dalu o fewn 5 diwrnod gwaith
7. Os na fydd y myfyriwr yn talu o fewn 5 diwrnod gwaith, anfonir e-bost ac llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad o fewn 7 diwrnod.
1. Anfonir e-bost hysbysu 5 diwrnod cyn y dyddiad talu.
2. Anfonir e-bost llwyddiant/methiant ar y dyddiad talu.
3. Os wnaiff y taliad 1af fethu, rhown gynnig arni eto mewn 5 diwrnod.
4. Os bydd yn methu eto, codir ffi taliad hwyr o £30 a daw'r cynllun i ben. Fodd bynnag, os bydd y myfyriwr yn talu o fewn 10 diwrnod i'r cynnig 1af, caiff y ffi o £30 ei dileu a bydd y cynllun yn ailgychwyn.
5. Anfonir y rhestr o'r taliadau a fethodd at Neuaddau a Chymorth Ariannol.
6. Anfonir e-bost i'ch atgoffa'n derfynol i dalu o fewn 5 diwrnod gwaith.
7. Os na fydd y myfyriwr yn talu o fewn 5 diwrnod gwaith, anfonir e-bost arall ac llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad o fewn 7 diwrnod.
1. Mae e-bost yn cael ei anfon 3-5 diwrnod cyn bod pob taliad yn rhoi gwybod i'r myfyriwr nad yw'r taliad yn cael ei gymryd yn awtomatig a bod angen iddynt wneud y taliad ar y dyddiad y cytunwyd arno, neu cyn y dyddiad yno.
2. Os nad yw'n talu, caiff e-bost ei anfon ar y diwrnod gwaith nesaf gan roi 5 diwrnod i'r myfyriwr wneud taliad.
3. Os bydd y myfyriwr yn methu â thalu o fewn 5 diwrnod, anfonir e-bost a llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad a chymhwysir taliad hwyr o £30 i'w cyfrif.
1. E-bost a anfonwyd o fewn 1 wythnos i fyfyriwr yn symud i mewn i Neuaddau yn eu hatgoffa i wneud trefniadau ar gyfer talu eu Ffioedd Neuadd o fewn 2 wythnos.
2. Bydd methu â datrys eu Ffioedd Neuadd yn arwain at anfon e-bost yn gofyn iddynt fynychu cyfarfod o fewn 7 diwrnod i drafod ymhellach. a. Bydd unrhyw benderfyniad heblaw am sefydlu cynllun talu derbyniol yn cael ei gadarnhau mewn e-bost.
3. Bydd methu â mynychu'r cyfarfod neu gadw at unrhyw gytundeb yn arwain at anfon e-bost a llythyr â llaw yn gwahodd y myfyriwr i gael cyfweliad, i'w gynnal o fewn 7 diwrnod. Codir ffi weinyddol o £30 i'w cyfrif.
Bydd yr un broses yn berthnasol fis Ionawr ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd yn hwyr neu'r myfyrwyr hynny sy'n dal i brofi trafferthion ariannol.
Gwahoddir y myfyrwyr am gyfweliad yn y Swyddfa Neuaddau gyda Chyllid a Chymorth Ariannol ar amser a dyddiad penodol. Anfonir y gwahoddiad trwy lythyr a ddosbarthir â llaw o dan ddrws eu hystafell, ac anfonir copi hefyd ar e-bost.
Os na fydd y myfyriwr yn dod i'r cyfweliad neu os na fydd yn ymateb i alwad ffôn, anfonir ebost ato/ati yn gofyn iddo/iddi ymbresenoli neu dalu ar y diwrnod canlynol. Os na fydd y myfyriwr yn cysylltu â chi ar ôl yr amser hwnnw neu yn gneud taliad, bydd Sancsiynau Neuaddau yn cael eu gweithredu.
- Atal Wi-Fi dros dro.
- Caiff y myfyriwr ei nodi'n ddyledwr ar ei gyfrif Neuaddau ac ni fydd modd gwneud ceisiadau dilynol ar gyfer Neuaddau.
- Atal aelodaeth o'r gampfa dros dro.
Ar ôl 14 diwrnod o'r sancsiynau uchod a dim cysylltiad dilynol, gofynnir i'r myfyriwr ddod am gyfweliad terfynol gyda Rheolwr Cymorth Preswyl neu'r enwebai.
Os na ddaw'r myfyriwr i'r cyfweliad terfynol neu trefnu taliad addas, caiff Hysbysiad o Hawliad Meddiant ei gyflwyno. Bydd hwnnw'n rhoi 14 diwrnod i'r myfyriwr ddod o hyd i lety arall a thalu'r balans yn llawn hyd at y dyddiad ymadael. Pe bai'r myfyriwr yn talu'r balans yn llawn (dyddiad ymadael y contract meddiannaeth gwreiddiol) y pryd hynny, byddai'r contract meddiannaeth yn cael ei adfer.
Fodd bynnag, os na wnaiff y myfyriwr adael y fangre ar y dyddiad ymadael a roddwyd neu cyn hynny, gallai'r Brifysgol - yn ogystal â chymryd camau yn y llys i adennill y ddyled neu yn lle gwneud hynny - gwneud cais i'r llys am orchymyn meddiant. Bydd y Myfyriwr yn atebol am dalu costau a threuliau priodol a rhesymol y Brifysgol (gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gostau cyfreithiol, ffioedd llys, treuliau a TAW a chost yr amser rheoli) sy'n gysylltiedig â chamau o'r fath. Os bydd y Brifysgol yn cymryd camau llwyddiannus yn y llys i adennill y ddyled, cofnodir y dyfarniad yng nghofnodion y llys sirol. Mae'r asiantaethau cyfeirio credyd yn pori drwy’r cofnodion hyn, a gall unrhyw fyfyriwr a enwir ar gofrestr dyfarniadau'r llys sirol ei chael yn anodd rhentu llety yn unman arall, na chael cerdyn credyd, cerdyn siop na chontract ffôn symudol, na morgais chwaith yn y dyfodol.