Gellir gwneud trefniadau lle bo'n bosibl i ddarparu ar gyfer ceisiadau unigol gan fyfyrwyr sy'n gysylltiedig ag anabledd.
Os oes gennych chi ofynion arbennig, a fyddech cystal â thrafod y rhain gyda'r Cynghorwr Anableddau ar 01248 382032 neu e-bostiwch gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk. Bydd y cynghorwr yn gallu trafod unrhyw anghenion am gymorth a fydd gennych, yn ogystal â'ch cymhwyster ar gyfer cyllid ychwanegol.
Ystafelloedd wedi eu haddasu
Mae gennym ni ystafelloedd wedi eu haddasu yn ein portffolio ar hyn o bryd, sy'n cynnwys ystafelloedd gyda mynediad i gadeiriau olwyn ar gyfer myfyrwyr sy'n cael trafferth symud o gwmpas. Mae ystafelloedd cawod mwy ar gael yn yr ystafelloedd en suite hyn gyda chanllaw a sedd yn y gawod, ac mae'r gegin hefyd yn cynnwys addasiadau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Gellwch gael golwg ar ystafell sy'n addas ar gyfer cadair olwyn yma.
Gellir pennu ystafelloedd ar y llawr isaf i fyfyrwyr eraill sydd wedi'u cyfyngu wrth symud o gwmpas, neu ystafelloedd mewn neuaddau sydd â lifftiau. Ceir system galwr (pager) ar gael i fyfyrwyr sy'n drwm eu clyw i'w rhybuddio mewn achos argyfwng mewn neuadd, ac mae gobenyddion sy'n dirgrynu (vibrating pillows) ar gael hefyd mewn rhai ystafelloedd ynghyd â goleuadau sy'n fflachio'n gysylltiedig â'r systemau larwm.
Os byddwch chi'n trafod eich anghenion gyda ni mor fuan ag sy'n bosibl, gallwn ni geisio diwallu'ch gofynion a darparu llety addas ar eich cyfer. Os oes angen gwneud rhagor o addasiadau, gallwn ni drefnu'r rhain, o fewn amserlen resymol, ac felly mae'n bwysig eich bod chi'n cysylltu â ni mor fuan ag y gellwch os oes gennych chi amgylchiadau arbennig.
Gallwn drefnu i chi weld yr ystafelloedd sydd ar gael, ac os yw'n bosibl, dewis yr un mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion. Ffoniwch ni ar 01248 382667 os hoffech wneud apwyntiad i weld ystafelloedd neu drafod eich gofynion.
Eich cais
Os oes arnoch angen gofalwr i fyw gyda chi, gallwn drefnu i roi'r gofalwr yn yr ystafell drws nesaf i chi, ond mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni bod angen hyn pan fyddwch yn gwneud eich cais.
Er y byddwch chi wedi trafod eich anghenion gyda Chynghorwr Anableddau, cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn nodi ar eich cais unrhyw gyflwr meddygol neu gyflwr arall y mae angen ei ystyried wrth bennu llety i chi. Dylech nodi anghenion o'r fath pan wnewch eich cais ar-lein, hyd yn oed pe na fyddent yn berthnasol petaech yn cael ystafell mewn neuadd o'ch dewis.
Weithiau, nid yw myfyrwyr yn llwyddiannus gyda'u cais am yr ystafell o'u dewis, ond os byddwn ni'n gwybod ymlaen llaw bod arnoch angen math penodol o ystafell, mi fyddwn ni'n gallu helpu. Fel rheol, mae arnom ni angen cadarnhad ysgrifenedig gan ymarferwr meddygol neu gorff proffesiynol i gefnogi'ch cais, ond os ydych chi eisoes wedi rhoi'r wybodaeth hon i'r tîm Gwasanaethau Anabledd, nid oes angen anfon unrhyw beth i'r Swyddfa Neuaddau.
Os anghofiwch ddweud rhywbeth o bwys wrthym, efallai na fydd yn bosib i ni newid eich ystafell yn nes ymlaen.
Defnyddir gwybodaeth am anableddau at ddibenion pennu llety addas yn unig, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu hyn. Fodd bynnag, ni allwn warantu y bydd cyfleusterau addas ar gael bob amser. Rydym yn annog myfyrwyr anabl a'r rhai sydd â chyflwr iechyd tymor hir, fel epilepsi neu ddiabetes, i gysylltu â'r Cynghorwr Anableddau fel uchod, a chrybwyll hyn wrth wneud eu cais ar-lein.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn crybwyll unrhyw beth allai effeithio ar eich Iechyd a'ch Diogelwch eich hun neu Iechyd a Diogelwch y rhai sy'n byw o'ch cwmpas.