Gall llanw gwan fod wedi cyfrannu at y Ddaear gaseg eira
Roedd y llanw 715-630 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn wan iawn ac wedi cyfrannu at yr oesoedd iâ hir iawn a allai fod wedi dal y Ddaear yn y cyflwr a elwir yn “gaseg eira”, yn ôl papur a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Communication.
Yr astudiaeth hon sy'n cynnwys gwyddonydd o Brifysgol Bangor (DU), Prifysgol Lisbon (Portiwgal), a Phrifysgol Talaith Oregon a Phrifysgol Gogledd-orllewinol (UDA), yw'r cyntaf i archwilio manylion llanw'r cefnfor, 715-635 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ar adeg pan allai'r Ddaear fod wedi bod yn gartref i rewlifoedd bron yn fyd-eang am gyfnodau hir a barhaodd filiynau o flynyddoedd.
Trwy ail-greu sut roedd y Ddaear yn edrych ar y pryd mewn model llanw rhifiadol, dangosodd y tîm fod y llanw fel rheol yn wan yn ystod yr oesoedd iâ - dim ond 10-20% o gryfder y llanw heddiw. Ond pan oedd y Ddaear yn rhydd o rew, roedd y llanw tua hanner mor egnïol ag y mae ar y Ddaear heddiw.
Eglurodd Dr Mattias Green o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor ac un o awduron y papur:
“Mae'r egni sy'n cael ei bwmpio i'r cefnfor gan y llanw yn un o brif ysgogiadau prosesau eraill y Ddaear, yn cynnwys rhannau o gylchrediad y cefnfor yn rheoleiddio'r hinsawdd ac fel ffordd o doddi ochr isaf iâ sy'n arnofio. Felly gallai diffyg ynni'r llanw fod wedi bod yn un broses a arweiniodd at y rhewlifoedd yn para am gyfnodau hir iawn.
“Mae’r ymchwil yn ymestyn ein dealltwriaeth o’r llanw, gan roi’r amcangyfrif penodol cyntaf o egni'r llanw yn ystod y cyfnod. Mae’r tîm wedi agor drysau i wneud rhagor o ymchwil i gyfnod gwahanol iawn yn hanes y Ddaear.”