Nod y Siarter Cydraddoldeb Hil yw gwella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr ethnig leiafrifiedig mewn addysg uwch. Mae'n darparu fframwaith trwyadl i sefydliadau weithio drwyddo i nodi rhwystrau at gydraddoldeb, i adfyfyrio'n feirniadol amdanynt ac i weithredu yn eu cylch.
Advance HE yw’r sefydliad sy’n dyfarnu’r Wobr Efydd ac yn gwneud hynny er mwyn nodi ymrwymiad y Brifysgol i weithio tuag at gyflawni cydraddoldeb hil ar draws y sefydliad. Rhan o’r gwaith hwnnw yw Cynllun Gweithredu Hil dros gyfnod o 5 mlynedd.
Meddai’r Athro Morag Macdonald, Dirprwy Is-ganghellor dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant y Brifysgol, ac aelod gweithgar o Dîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hil,
“Mae’r wobr hon yn tystio i’r gwaith gwych a wnaed gan Dîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hil. Maent wedi ymgynghori’n helaeth â’n cymuned o staff a myfyrwyr, ac wedi gwneud gwaith sylweddol yn dadansoddi data i ddarparu darlun cynhwysfawr o’r heriau a’r cyfleoedd yn y Brifysgol. Y gwaith hwnnw sydd wedi arwain at ddatblygu’r cynllun gweithredu.”
Sefydlwyd y Tîm Hunanasesu ym mis Mawrth 2023 a dewiswyd yr aelodau yn seiliedig ar eu swyddi, eu harbenigeddau a'u profiadau bywyd. Un ystyriaeth ganolog wrth ffurfio’r tîm oedd ymrwymiad i gynrychiolaeth amrywiol, gyda phwyslais arbennig ar glywed lleisiau’r gymunedau ethnig leiafrifol. Mae’n nodedig bod 37% o'r tîm yn staff a myfyrwyr o gymunedau ethnig leiafrifol. Mae'r tîm wir yn cynrychioli cymuned amrywiol y brifysgol.
Dros gyfnod o 18 mis mae’r tîm hunanasesu wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i'r broses hunanasesu. Roedd eu cyfraniadau’n eang eu cwmpas ac yn fawr eu heffaith, gan, er enghraifft, fynychu cyfarfodydd y tîm, ymwneud â’r rhaglen ‘Deall Hil a Hiliaeth’, cydweithio â Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, arwain gweithgorau thematig, dadansoddi data sefydliadol, a gosod blaenoriaethau clir ar gyfer Cynllun Gweithredu Hil y Brifysgol.
Ychwanegodd Morag, “Nid yw’r gwaith hanfodol yma’n dod i ben yn fan hyn. O droi ein golygon tua’r dyfodol, bydd aelodau'r Tîm Hunanasesu yn parhau â'u hymdrechion trwy fod yn rhan o weithgor newydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, a fydd yn cyfarfod bob chwarter i fonitro cynnydd a sicrhau momentwm parhaus wrth roi'r cynllun gweithredu ar waith.
“Mae’r Brifysgol yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb hil a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb.”
Cyhoeddir Cynllun Gweithredu Hil y Brifysgol yn y misoedd nesaf ochr yn ochr â thudalennau newydd ar y wefan i staff am gydraddoldeb hil. Bydd Gwobr Efydd y Brifysgol yn ddilys am gyfnod o bum mlynedd.
Am ragor o wybodaeth am y Siarter Cydraddoldeb Hil, cliciwch ar y ddolen.