Gallai'r bygythiad economaidd o ganlyniad i Covid-19 a Brexit caled ddifetha economi Gogledd Cymru am genhedlaeth - gan ein hatgoffa o ddyddiau tywyll cau'r gweithiau dur phyllau glo.
Mae Dr Edward Jones, o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, yn rhybuddio y gallai’r cwymp economaidd barlysu gallu’r rhanbarth i fownsio’n ôl o’r dirwasgiad presennol, ond mae hefyd yn coelio y gall gweithwyr ifanc a natur y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol gynnig cyfleoedd arbennig i'r rhanbarth.
Esboniai fod y ffigurau diweithdra diweddaraf yn paentio darlun tywyll, gyda nifer di-waith Cymru yn codi o 3.1% ym mis Mawrth i 4.6%, cynnydd o dros 20,000 o bobl, ond mae'n debygol y bydd yn waeth wrth i gyflogwyr mawr fel Airbus ystyried colli swyddi.
Dywedodd Dr Jones: “Mae Covid-19 wedi cael effaith ddinistriol ar economi gogledd Cymru, a gallai Brexit waethygu’r problemau hyn, yn enwedig gyda buddugoliaeth etholiad Joe Biden yn debygol o effeithio ar allu Boris Johnson i gyrraedd cytundeb masnach cyflym â'r UDA, cynllun sydd hyd yn hyn wedi dibynnu'n fawr ar fympwyon yr Arlywydd Donald Trump.
“Bellach mae tair blaenoriaeth i’r Llywodraeth. Y flaenoriaeth gyntaf ac amlycaf yw achub bywydau. Yr ail yw amddiffyn yr economi a'r trydydd yw paratoi ar gyfer yr adferiad.
“Ond mae’r ffigyrau swyddi yn peri pryder, ar y Stryd Fawr ac ym maes gweithgynhyrchu - ni fyddwn yn colli miloedd o swyddi yn sydyn fel y gwnaethom gyda chau Gwaith Dur Shotton a Brymbo ac Ynys Môn Alwminiwm, ond rydym yn clywed yn gyson am swyddi'n cael eu colli p'un ai yn Debenhams, Pizza Express neu Airbus.
“Yn ystod yr haf hysbysodd llawer o gwmnïau’r Llywodraeth eu bod yn cychwyn y broses ddiswyddo a gallwn ddisgwyl i’r rhain gael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
“Hefyd, mae rhai cwmnïau Ewropeaidd wedi dechrau ailstrwythuro eu busnes wrth inni agosáu at Brexit; cael gwared ar y gweithwyr iau gan gadw'r rhai sydd â phrofiad i gadw'r busnes i fynd. Mae hyn yn peri pryder mawr oherwydd gweithwyr ifanc yw dyfodol unrhyw fusnes. ”
Ychwanegodd Dr Jones fod Cymru wedi gweld swyddi’n dechrau cael eu colli hyd yn oed yn ystod cynllun ffyrlo y Canghellor Rishi Sunak, gyda’r nod o osgoi colli swyddi, a welodd traean o weithlu Cymru yn cael eu talu i aros gartref.
Ym mis Mawrth, cyfradd ddiweithdra Cymru oedd 3.% ond erbyn mis Medi, roedd hyn wedi codi'n sydyn i 4.6% gyda'r DU ar y lefel ers tair blynedd o 4.8%. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn disgwyl i ddiweithdra gyrraedd 7.5% erbyn canol y flwyddyn nesaf.
Mae Dr Jones o'r farn y gallai diweithdra yng Nghymru barhau i gynyddu, yn dilyn tuedd a welwyd yn y DU gyfan, ac y gallai rhai ardaloedd yng Nghymru brofi amodau'r farchnad lafur leol hyd yn oed yn waeth.
“Erbyn canol eleni, roedd diweithdra wedi codi i 3.8% yng Ngogledd Cymru, ond wedi cyrraedd 5.% ar gyfer Ynys Môn a 4.7% yng Nghonwy. Efallai y bydd rhai ardaloedd yng Nghymru gan gynnwys hyd yn oed Sir y Fflint a Wrecsam gyda’u swyddi ym maes gweithgynhyrchu uwch yn profi lefelau diweithdra a welwyd ddiwethaf yn gynnar yn y 1990au.”
Ychwanegodd: “Mae'r rhain yn dueddiadau pryderus a gallent gael effeithiau niweidiol hir-dymor ar deuluoedd a chymunedau. Yng Nghymru, mae gennym brofiad o'r effaith andwyol y mae diweithdra tymor hir yn ei gael.
“Mewn ardaloedd fel Sir y Fflint a Wrecsam, fe wnaeth cau pyllau glo a gweithiau dur fel Shotton a Brymbo adael pobl yn delio â'r clwyfau emosiynol a chorfforol o ddad-ddiwydiannu cyflym yn yr 1980au. Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'n hanes.”
Yn ei Adolygiad o Wariant ym mis Tachwedd, cydnabu’r Canghellor fod disgwyl i economi’r DU grebachu dros 11% eleni, y dirywiad economaidd gwaethaf mewn 300 mlynedd.
Dywedodd Dr Jones: “Pan darodd yr argyfwng coronafirws gyntaf, roedd llawer yn optimistaidd am adfywiad economaidd cyflym yn ail hanner y flwyddyn, adferiad siâp V, ond mae’r rhagolygon wedi tywyllu ers hynny, gydag ofnau cynyddol am adferiad araf a phoenus.
“Mae'r hyn a ddechreuodd fel sioc allanol fer a miniog yn troi'n araf i'r math o boen hir a brofwyd ddiwethaf yn ystod argyfwng ariannol 2007.
“Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Airbus ei fod yn bwriadu torri cyfanswm o 15,000 o swyddi yn fyd-eang wrth iddo ddelio ag effeithiau argyfwng coronafirws.
“Mae'r 6,000 o staff sy'n gweithio ar safle gwneuthuriad yr adenydd yng Ngogledd Cymru mewn peryg gyda llawer mwy o bobl yn dibynnu ar y cwmni am waith trwy'r gadwyn gyflenwi.
“Amcangyfrifodd Oxford Economics fod Airbus yn cefnogi 11,700 o swyddi ledled Cymru yn 2015, a byddai colli swyddi yn y gwneuthurwr awyren yn effeithio ar bob un ohonynt.”
Dioddefodd cynhyrchu ceir yn y DU ei fis Medi arafaf ers 1995 wrth i'r pandemig barhau. Mae gan Sir y Fflint ffatri Toyota fawr ar ei thiriogaeth tra bod ffatri Vauxhall yn Ellesmere Port hefyd yn cyflogi staff o ogledd Cymru.
Mae Cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron y DU wedi rhybuddio am boen pellach i’r diwydiant a allai gael effaith andwyol ar gyflogaeth ar draws y gadwyn gyflenwi os na chytunir ar fargen Brexit.
“Ac ym mis Rhagfyr clywsom y newyddion drwg fod Debenhams yn debygol o gael ei ddiddymu a’i chwalu yn y flwyddyn newydd, gan roi 12,000 o swyddi mewn perygl ledled y DU.
“Daeth y newyddion ychydig oriau ar ôl i Arcadia gwympo i ddwylo’r gweinyddwyr, gan roi mwy na 13,000 o swyddi mewn perygl. Bydd colli'r siopau hyn yn cael effaith ddinistriol ar y Stryd Fawr ledled Cymru gyfan.”
Dywedodd Dr Jones: “Mae’n debyg nad yw Brexit wedi bod ar frig meddwl unrhyw un yn ystod y pandemig hanesyddol hwn, ond daw cyfnod trosglwyddo Brexit i ben ar Ragfyr 31 a gallai hynny olygu rhagor o newyddion drwg i Gymru.
“Rhwng 2007 a 2020, cawsom €4.6 biliwn mewn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd gyda’r rhan fwyaf o hyn yn cael ei wario yng ngogledd a gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
“Beth fydd yn digwydd i economi Cymru os na fydd y cyllid hwn gan yr UE yn cael ei ddisodli? Mae astudiaethau wedi dangos bod cyllid strwythurol wedi llwyddo i leihau diweithdra ac y gallai ei symud achosi i ddiweithdra godi.
“Derbyniodd De Swydd Efrog arian strwythurol hyd at 2006, ond ar ôl iddo gael ei dynnu’n ôl cododd diweithdra a methodd y rhanbarth â chynnal y buddion economaidd a gafwyd.
“Mae hynny'n dweud wrthym fod marchnad lafur Cymru yn debygol o wynebu heriau sylweddol yn y dyfodol agos o ystyried effaith barhaus covid-19 ac os na chawn gronfa amgen i gronfeydd strwythurol yr UE.
“Ond mae cyswllt cryf rhwng perfformiad yr economi a Covid-19. Gyda newyddion cadarnhaol am frechlynnau, y gobaith yw y bydd y sefyllfa bresennol yn dod i ben mewn rhyw ffordd felly mae angen i ni baratoi ar gyfer yr adferiad economaidd.
“Mae hyn yn golygu sicrhau dyfodol cwmnïau, yn enwedig y busnesau bach a chanolig sy'n cyflogi 62% o weithlu Cymru fel eu bod yn barod i ateb y galw a fydd yn dychwelyd rywbryd.
“Mae'r economi wybodaeth fodern yn dibynnu ar weithlu medrus iawn, ac arbenigol yn aml, felly mae'n bwysig nad yw'r sgiliau hynny'n cael eu colli.
“Mae'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, sectorau sy'n dod i'r amlwg fel argraffu 3D, blockchain, a Deallusrwydd Artiffisial, wedi dwysáu'r angen hwn am weithlu medrus a gwybodus.
“Mae'r chwyldro yn sylfaenol yn newid ein ffordd o fyw, gweithio, a chysylltu â'n gilydd trwy gymylu'r ffiniau rhwng y bydoedd ffisegol, digidol a biolegol, ac mae'n gyrru arloesi technolegol ar draws sawl sector.
“Gall y ffyniant yn nhechnoleg y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol helpu i roi hwb i sector gweithgynhyrchu pwerus gogledd Cymru.
“Mae gan ogledd Cymru draddodiad hir o weithgynhyrchu, a’i etifeddiaeth yw bod ganddo adnoddau hanfodol o hyd a gweithlu sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i fachu ar gyfleoedd y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol.
“Mae yna gyfle hefyd i ni ailgynllunio’r Stryd Fawr, troi siopau gwag i ddarpariaeth ar gyfer cynhyrchwyr a gwerthwyr lleol, i greu busnesau newydd a llefydd i’r gymuned ymgynnull.”