Mae astudiaeth o gobraod poerllyd, a gyhoeddwyd yn Science (22 Ionawr 2021 doi 10.1126/science.abb9303) yn datgelu sut mae cyfuniad o elfennau gwenwyn wedi esblygu i greu gwenwyn sy’n boenus ar unwaith ar dri achlysur gwahanol.
Dyma'r enghraifft glir gyntaf o wenwyn neidr yn esblygu at ddiben amddiffyn, ac mae'n enghraifft ryfeddol o esblygiad cydgyfeiriol, neu sut gall detholiad naturiol beri i'r un ateb i broblem esblygu sawl gwaith.
Yn wahanol i'r theori bod gwenwyn yn addasu'n bennaf i alluogi nadroedd i ladd eu hysglyfaeth, yn achos cobraod poerllyd, mae gwenwyn sy'n achosi poen ar unwaith, a system sy'n galluogi'r neidr i chwistrellu'r gwenwyn i bellter o hyd at 2.5 metr tuag at lygaid unrhyw beth sy'n dod yn rhy agos, yn awgrymu mecanwaith amddiffyn, yn hytrach nag arf hela.
Meddai Dr Wolfgang Wüster, Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, cyd-ymchwilydd ar y project ymchwil rhyngwladol hwn a arweinwyd gan Dr. Taline Kazandjian a'r Athro Nick Casewell yn y Liverpool School of Tropical Medicine,:
“Dyma ddarn cryf arall o dystiolaeth i ddangos bod heriau esblygiadol tebyg yn aml yn cynhyrchu’r un atebion. Er ein bod wedi astudio tri grŵp gwahanol o gobraod, a esblygodd mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol gyfnodau esblygiadol, esblygodd pob un yr un mecanweithiau amddiffynnol yn wyneb bygythiad.
Mae gan bob cobra elfennau yn eu gwenwyn sy'n achosi dinistr i feinwe, o'r enw cytotocsinau. Ond yn achos cobraod poerllyd, mae ychwanegu grŵp arall o docsinau, sef ffosffolipasau A2, wedi creu effaith synergaidd, gan gynhyrchu gwenwyn sy’n achosi poen ar unwaith, a all atal ymosodwr yn gyflym a hyd yn oed eu dallu.
Mae deall i ba raddau y mae esblygiad yn anrhagweladwy, bron ar hap, neu'n rhagweladwy, yn un o gwestiynau mawr bioleg. Dyma enghraifft ryfeddol o’r un broblem yn arwain at yr un ateb yn esblygu sawl gwaith - hynny yw, esblygiad rhagweladwy
Cobraod poerllyd
A yw'n bosib bod bodau dynol wedi chwarae rhan?
Yn ddiddorol iawn, trwy weithio'n ôl trwy linachau esblygiadol, canfu'r tîm hefyd fod y newidiadau wedi digwydd yn y tri lleoliad daearyddol gwahanol tua'r un amser ag yr ymddangosodd bodau dynol cynnar yng nghofnod ffosiliau yr ardaloedd hynny.
Meddai Dr Wüster hefyd: “Mae llawer o brimatiaid yn ymosod ar nadroedd gyda ffyn a cherrig. Efallai mai dyfodiad primatiaid gyda dwy goes a dwy law yn rhydd i wneud drygioni oedd y math o bwysau ar ddetholiad a arweiniodd at esblygiad yn ngallu’r cobraod i amddiffyn eu hunain o bell trwy boeri a gwenwyn amddiffynnol a addaswyd yn arbennig.
Mae’r syniad y gallai bodau dynol cynnar, filiynau o flynyddoedd yn ôl, fod wedi achosi esblygiad cobraod poerllyd yn pwysleisio sut roedd ein gwreiddiau ynghlwm wrth ecosystemau ehangach Affrica ac Asia ar y pryd.”
Cafodd myfyrwyr MSc Prifysgol Bangor sy'n astudio ar yr unig gwrs sŵoleg â herpetoleg yn y Deyrnas Unedig gyfle i gyfrannu at y project ymchwil rhyngwladol hwn. Roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am gynhyrchu dilyniannau DNA i gynhyrchu ffylogenedd, neu goeden deulu esblygiadol, cobraod, a ganiataodd i'r astudiaeth olrhain esblygiad addasiadau gwenwyn.
“Cyfeirir yn aml at Brifysgol Bangor fel prifddinas herpetolegol y Deyrnas Unedig a hi oedd yr unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn cynnig cwrs herpetoleg penodol. Mae ganddi dîm o herpetolegwyr byd-enwog.
Anthony Plettenberg Laing, sy'n wreiddiol o Gaergrawnt, ac sydd bellach yn byw yn Berlin yn yr Almaen yw un o'r awduron. Ar ôl ennill BSc mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg, bu’n gweithio ar y project hwn ar gyfer ei MScRes ac meddai:
“Cyfeirir yn aml at Brifysgol Bangor fel prifddinas herpetolegol y Deyrnas Unedig a hi oedd yr unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn cynnig cwrs herpetoleg penodol. Mae ganddi dîm o ymchwilwyr byd-enwog sy'n arbenigo yn y maes hwn. Roeddwn yn gwybod felly y byddai dod i Fangor yn meithrin fy niddordeb ac yn fy helpu i dyfu a ffynnu yno hefyd, gan ganiatáu i mi chwarae rhan fawr ym maes herpetoleg.”
"Yn ystod fy nghyfnod ym Mangor, bûm yn gweithio ar amryw o brojectau cyffrous gyda Dr Wolfgang Wüster a chydweithwyr, gan gynnwys ymchwilio i'r cobraod eiconig Affricanaidd ac Asiaidd yn y genws Naja. Roedd fy ngwaith yn cynnwys dilyniannu nifer o enynnau a chreu coed ffylogenetig i ddeall pryd a pham roedd gwahanol rywogaethau wedi gwahanu. Mae bod yn awdur astudiaeth mor bwysig yn y cyfnodolyn Science yn anrhydedd anhygoel ac yn lwyddiant personol mawr."
Daeth Cara Hall o Barrow-in-Furness, Cumbria i Fangor i astudio Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid.
Meddai: “Roedd y radd Sŵoleg yn ddelfrydol i mi. Llwyddais i ddysgu cymaint mewn llawer o wahanol feysydd ymchwil, dysgu mwy am fioleg ac esblygiad yn gyffredinol a chymryd rhan weithredol mewn ymchwil i ddysgu sgiliau labordy hanfodol ar gyfer fy nyfodol. Heb wybod ar y pryd, mae fy ymchwil yno wedi cyfrannu at astudiaethau mwy ac wedi cael effaith fwy nag y gallwn fod wedi ei ragweld."