Yr ail o dri brechlyn COVID-19 a dreialwyd yng Nghymru, cyflwynwyd yr astudiaeth hon trwy gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyrhaeddodd targed y DU dros 15,000 o wirfoddolwyr, gyda bron i 500 o bobl yn cael eu recriwtio o radiws 30 milltir o Wrecsam.
Canlyniadau rhagarweiniol yw'r rhain, a bydd tîm yr astudiaeth yn parhau i gasglu mwy o ddata cyn eu cyflwyno i reoleiddwyr i'w hadolygu'n derfynol yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae Dr Orod Osanlou, Prif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y treial Novavax ac Ymgynghorydd mewn Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn Uwch Ddarlithydd Clinigol (Ffarnacoleg/ Ferylliaeth).
Dywedodd Dr Orod Osanlou:
“Er mai dim ond canlyniadau interim yw'r rhain, mae'n addawol gweld ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir i sicrhau'r pedwerydd brechlyn gobeithio, er mwyn helpu i ymladd yn erbyn COVID-19 a dechrau achub bywydau.
“Cawsom ymateb mor rhyfeddol i’n cais am gyfranogwyr treial yng ngogledd Cymru ac rydym yn ddiolchgar i bawb am roi eu hamser yn anhunanol - heb yr unigolion hynny, ni fyddem wedi gallu cyflawni’r canlyniadau hyn.
“Rydym yn parhau gyda’r treial i gasglu data dilynol a bydd hyn yn ein helpu i ddeall yr amddiffyniad tymor hwy.”
Dywedodd Huw George, Dirprwy Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y treial hwn, ac i'r gweithwyr proffesiynol ymroddedig sydd wedi gweithio mor galed ar yr ymchwil pwysig hwn. Mae'r canfyddiadau dros dro hyn yn ein calonogi, a gobeithiwn y bydd y treial hwn yn parhau i esgor ar ganlyniadau addawol. Gobeithiwn y gellir ychwanegu'r brechlyn hwn yn y pen draw at y brechlynnau cyfredol sydd ar gael, a chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws.”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd yn genedlaethol yn cydlynu ymchwil a sefydlu astudiaethau yng Nghymru:
“Rydym yn falch o'r cyfraniad y mae Cymru yn ei wneud wrth chwilio am frechlynnau.
“Mae angen nifer o frechlynnau ac ymchwil parhaus arnom i helpu i guro’r feirws ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i barhau â’r rhaglen treialu brechlyn. Mae ein cymuned ymchwil a'n staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddod o hyd i ateb parhaol i'r pandemig.”
Ychwanegodd Merfyn Williams, Pennaeth Dros Dro Ysgol Gwyddorau Meddygol: “Mae'r profiad o dderbyn darlithoedd gan academydd sydd hefyd yn ymgymryd â gwaith ac ymchwil rheng flaen yn brofiad pwerus a gwerthfawr i'n myfyrwyr. Rydyn ni hefyd mor falch o'r ffaith bod ein cydweithwyr yn yr Ysgol ac mewn mannau eraill yn y Brifysgol, yn gwneud cyfraniadau mor hanfodol i'r frwydr yn erbyn COVID-19."