Bydd un o raddedigion Prifysgol Bangor sy’n gweithio’n agos gydag ysglyfaethwr mwyaf dychrynllyd y môr yn ymddangos yng nghyfres bywyd gwyllt morol newydd Channel 4.
Mae'r biolegydd môr Alison Towner yn arbenigwr byd-eang mewn ecoleg siarcod mawr gwyn ar ôl bron i 15 mlynedd o ymchwil yn Ne Affrica.
Cafodd Alison ei magu yn Ramsbottom, Sir Gaerhirfryn, ac mae hi bellach yn ymddangos yn “Work on the Wild Side” - cyfres gyda deg pennod sy’n dilyn milfeddygon a gwirfoddolwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sydd wedi rhoi’r gorau i’w swyddi i fynd i achub, ailsefydlu a rhyddhau rhai o’r anifeiliaid sydd yn y perygl mwyaf yn Ne Affrica.
Cwblhaodd Alison, a gafodd ei hysbrydoli i ddod yn arbenigwr bywyd gwyllt morol ar ôl darllen novel ei diweddar dad pan oedd yn 11 oed am eog a'u hymfudiad, radd mewn bioleg môr ym Mhrifysgol Bangor yn 2006.
Bu’n gweithio fel hyfforddwr sgwba-ddeifio yn y Môr Coch wedyn cyn cymryd lleoliad gyda chwmni deifio cawell siarc ddwy awr i’r dwyrain o Cape Town yn Ne Affrica.
Mae'r swydd wedi rhoi cyfle iddi hi fynd gyda llu o enwogion gan gynnwys cyd-sylfaenydd Microsoft, Bill Gates, y cyflwynydd teledu Philip Schofield, y seren rygbi Ben Foden ac yn fwyaf diweddar Greg Wallace, MasterChef, i ddeifio gydag ysglyfaethwr morol mwyaf arswydus y byd - ac yn aml yn deifio wrth eu hochr.
Mae hefyd wedi arwain at ei chysylltiad â sefydliad dielw’r cwmni, sef “Dyer Island Conservation Trust” yn Gansbaai - “prifddinas siarcod gwyn y byd” - ble mae hi bellach yn brif fiolegydd môr.
Mae ymchwil Alison wedi newid dealltwriaeth wyddonol o ymddygiad a symudiad siarcod gwynion mawr yn yr ardal, yn enwedig yn erbyn dylanwad orcaod, ond mae hefyd yn parhau i ddatgelu'r bygythiadau a'r risgiau parhaus sy'n wynebu'r rhywogaeth.
Caniataodd Alison, sy'n disgwyl ei phlentyn cyntaf, i griwiau camera ddilyn ei thîm dros gyfnod o fis wrth iddynt wneud eu hymchwil, ailsefydlu creaduriaid môr a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl fel pengwin Affrica.
Bydd gwylwyr yn gweld Alison yn gwneud awtopsi ar siarc ac yn rhyddhau grŵp o bengwiniaid yn dilyn eu hadsefydliad llwyddiannus - dim ond dau o weithgareddau beunyddiol ei swydd.
Bob dydd wrth fynd allan, byddaf yn pinsio fy hun. Rwyf wrth fy modd,” meddai.
“Mae’n rhaid i chi wneud newidiadau mawr yn eich bywyd ond pe bawn i'n gallu mynd yn ôl, byddwn i'n gwneud popeth yr un fath eto. Mae'n ffordd mor ystyrlon o fyw ac rydw i wrth fy modd yn gwneud y gwaith yma.
“Rydw i’n ystyried fy hun yn warcheidwad yr ecosystem hon. Rydw i wedi rhoi fy mywyd i’r gwaith yma. Gallwch gael swydd gyda'r cyflog gorau yn y byd a bod yn anhapus ond fedrwn i ddim bod yn hapusach yn fy ngwaith.
“Gallwch fod yn eistedd ar y dŵr a’r funud nesaf byddwch yn gweld siarc anferth yn dod allan o’r dŵr gyda morlo yn ei geg - nid oes unrhyw beth yn fwy trawiadol na hynny.
“Mae’r siarcod yma yn hedfan allan o’r dŵr. Ni fyddaf yn blino ar y profiad hwnnw.”
Cafodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Tottington ei swyno gan siarcod yn ifanc - diddordeb a arweiniodd ati’n ennill cymhwyster sgwba-blymio dŵr agored PADI iau pan oedd yn 11 oed.
Roedd ei thad Eric Towner, cyn newyddiadurwr gyda’r Manchester Evening News a fu farw pan oedd hi'n bump oed, yn arfer darllen straeon am siarcod iddi hi a bu hefyd yn byw yn Ne Affrica yn ystod y 1970au.
Mae Alison wedi rhannu diddordeb ei thad mewn bywyd morol erioed a threuliodd haf fel hyfforddwr deifio mewn canolfan ddeifio ar ynys Zakynthos yng Ngwlad Groeg cyn dechrau ar ei gradd Baglor Gwyddoniaeth mewn Bioleg Môr ym Mhrifysgol Bangor. “Roeddwn wedi dysgu am gadwraeth crwbanod pan oeddwn yn ifanc ac erbyn i mi gyrraedd Bangor, roeddwn wedi dysgu sut i ddeifio ac wedi treulio llawer o amser yn y môr,” meddai.
“Bangor oedd fy newis cyntaf. Rwy'n dal i gofio gyrru dros Bont Menai a meddwl mai dyma un o rannau harddaf y Deyrnas Unedig. “Y peth gorau am y cwrs ym Mangor ydi ei fod wedi rhoi set o sgiliau mor amrywiol i mi. Ar Ynys Môn, roedd bob mathau o gynefinoedd arfordirol i ddiddori biolegydd môr. Gwnaethon ddysgu am wymon, y twyni tywod yn RAF Fali, sut mae traethau'n esblygu - cefais yr holl wybodaeth sylfaenol angenrheidiol ym Mangor.
“Rydw i’n dal i gyfeirio’n ôl at y cwrs hwnnw, mae wedi bod yn allweddol.
“Yn amlwg, mae bioleg môr yn boblogaidd iawn yn y Deyrnas Unedig ac mae mwyafrif y prifysgolion arfordirol yn cynnig y cwrs. Roedd gan Bangor enw da iawn ac rydw i wedi cael cymaint o wirfoddolwyr ac interniaid yn dod i ymuno â'r rhaglen gyda mi sy'n fyfyrwyr neu'n raddedigion o Fangor."
Ar ôl ei gradd, treuliodd Alison flwyddyn fel hyfforddwr deifio yn y Môr Coch, oddi ar arfordir yr Iorddonen, cyn manteisio ar gyfle unwaith mewn oes i weithio gyda “Marine Dynamics Shark Tours” - menter ddeifio cawell ecodwristiaeth a chadwraeth yn Ne Affrica.
“Mae pobl yn gofyn imi os mai mynd i wirfoddoli es i ond does gen i ddim stori hudolus. Roeddwn yn eistedd mewn caffi rhyngrwyd yn yr Iorddonen yn pori trwy wefan ar gwmni deifio cawell yn Ne Affrica pan sylwais nad oedd unrhyw staff benywaidd o gwbl yno ac roeddwn i'n meddwl fy mod yn ddigon cymwys i anfon e-bost digywilydd yn dweud bod angen merch arnyn nhw fel rhan o’r tîm! ”
Talodd yr e-bost ar ei ganfed a mis yn ddiweddarach roedd Alison yn aelod o griw y cwmni - yr unig ddynes. Dros y 15 mlynedd nesaf, casglodd Alison rai o'r setiau data mwyaf helaeth ar ddeinameg poblogaeth, dylanwadau amgylcheddol ac ecoleg symud siarcod gwynion mawr yn y byd, sydd wedi bod yn sail i'w doethuriaeth ar ecoleg amseryddol ofodol siarcod gwyn.
Roedd yr ymchwil, a alluogodd iddi hefyd gwblhau gradd Meistr trwy Brifysgol Cape Town, yn canolbwyntio ar ddefnyddio offer tagio acwstig a lloeren ar siarcod i olrhain eu symudiadau dros nifer o flynyddoedd.
Mae gwaith Alison wedi cael sylw mewn cyfnodolyn gwyddonol uchel ei barch ym Mhrydain, sef “Functional Ecology” yn ogystal â rhaglenni ar sianeli National Geographic, Discovery Channel a'r BBC yn ogystal â rhaglen deledu cebl hynod lwyddiannus yn yr Unol Daleithiau o'r enw “Air Jaws: The Hunted”, y bu’n ei chyd-gyflwyno.
Cynhyrchwyd y gyfres newydd ar Channel 4, sy'n cael ei dangos pob dydd Sadwrn o fis Mawrth i fis Mai, gan Waddell Media, cyn y pandemig.
Mae pob rhaglen hanner awr yn tywys y gwylwyr trwy brofiad emosiynol wrth i'r arwyr bywyd gwyllt siarad am eu hymroddiad i achub anifeiliaid sydd mewn perygl o ddifodiant gan gynnwys y 'Pump Mawr' (llewod, llewpardiaid, rhinoseros, eliffantod a “Cape buffalo”) ar wastatir y gogledd.
“Mae’r gyfres yn ymwneud â Phrydeinwyr yn Ne Affrica sy’n gweithio ym maes cadwraeth. Mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n ferched, sy'n beth braf iawn,” esboniodd Alison. “Daeth Prif Swyddog Gweithredol y cwmni cynhyrchu, Jannine Waddell, yma a chawsom sgwrs ddifyr. Rydw i'n cofio teimlo ychydig yn nerfus oherwydd bod camerâu yn fy nilyn i bob man trwy'r dydd. Ond hi oedd y cynhyrchydd mwyaf hyfryd a moesegol posib ac roedd yn cymryd gofal mawr i adrodd y stori yn iawn."
Mae ymchwil diweddaraf Alison yn canolbwyntio ar y bygythiadau sy'n wynebu siarcod gwyn mawr, yn cynnwys diffyg ysglyfaeth a gor-bysgota a'r effaith ar y rhywogaeth, ond yng nghanol pandemig byd-eang a chyda’r effaith andwyol ar dwristiaeth, mae cyllid yn her barhaus.
“Mae’r data symud yn hanfodol bwysig er mwyn rheoli’r rhywogaeth yn y dyfodol,” meddai. “Nid oes gan y lywodraeth gyllideb, cyllid na’r ewyllys i ariannu tagio siarcod ond maen nhw’n falch pan fydd ymchwilwyr yn gwneud y projectau hyn er mwyn iddyn nhw allu cael gafael ar ddata pwysig.
“Mae’r sefydliad “Save Our Seas Foundation” yn noddi llawer o'n hoffer tagio ynghyd â’'r rhaglen wyddoniaeth môr “Acoustic Tracking Array Platform” (ATAP).
“Yn ystod y pandemig, mae’r cyflog y bûm yn dibynnu arno am fy ngwaith gyda’r ymddiriedolaeth wedi cael ei haneru ac rydw i wedi gorfod gwneud llawer o waith yn allanol er mwyn gallu aros yma.”
Gan fod un tag lloeren yn costio £1,000 a thag acwstig sylfaenol yn costio £400, mae cyllid parhaus yn hanfodol. Mae Alison bellach yn cynnal sgyrsiau siarcod rheolaidd ar lwyfan profiadau ar-lein Airbnb er mwyn codi arian. Cynhyrchir incwm hefyd trwy brojectau ffilmio ond bydd gwaith cadwraeth yn y dyfodol yn parhau i ddibynnu ar dwristiaeth bywyd gwyllt a'r profiadau deifio cawell.
“Mae rhai pobl yn dal i gredu nad yw deifio cawell yn foesegol. Fel arfer, ar ôl iddyn nhw ei wneud eu hunain, maen nhw’n sylweddoli eu bod yn anghywir gan fod deifio cawell yn hynod o bwysig ar gyfer cadwraeth,” meddai.
“Dyna’r fantais o gael enwogion i gymryd rhan gan eu bod yn gallu cyfleu’r neges honno i gynulleidfa fwy. Maen nhw i gyd wedi bod yn wirioneddol hanfodol i’r ochr gadwraeth o bethau.”
Mae Work on the Wild Side ar Channel 4 bob dydd sadwrn neu gwyliwch ar More4.
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau yn ysgol y Gwyddorau Eigion cliciwch yma