Mae mwyngloddio’r oes ddiwydiannol wedi gadael miloedd o leoedd ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon gyda lefelau annaturiol o fetelau trwm gwenwynig yn y pridd. Mae'r halogiad hwn gan y mwyngloddio yn lladd y rhan fwyaf o rywogaethau planhigion ac yn aml mae wedi gadael tiroedd gwastraff diffrwyth nad ydynt wedi'u cytrefu ers cannoedd o flynyddoedd.
Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Bangor wedi dangos bod blodyn gwyllt cyffredin, y gludlys arfor (Silene uniflora) wedi llwyddo i addasu'n gyflym i'r safleoedd gwenwynig hyn. Nid unwaith yn unig y mae hyn wedi digwydd, ond ar o leiaf dri achlysur gwahanol yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon o fewn y 250 mlynedd.
Eglurodd Alex Papadopulos, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae'r planhigion hyn fel rheol yn tyfu ar glogwyni a thraethau graean, ond gwnaeth y mwyngloddio agor lle newydd iddynt i’w lenwi nad oedd planhigion eraill yn gallu manteisio arno mor gyflym. Yr hyn sydd mor anhygoel yw, er nad yw'r poblogaethau arfordirol yn gallu goddef metel trwm, mae poblogaethau mwyngloddiau ynysig yn ddaearyddol ledled Prydain Fawr ac Iwerddon i gyd wedi llwyddo i esblygu goddefgarwch tuag at fetel mewn ychydig o genedlaethau.”
Yn rhyfeddol, dangosodd gymariaethau genomig rhwng poblogaethau mwyngloddiau ac arfordirol fod y sail addasu genetig a rennir yn gymhleth iawn. Yn hytrach nag addasiad cyflym yn cael ei sbarduno gan nifer fach o enynnau allweddol - fel y gwelsom mewn esblygiad cyfochrog gyda’r coronafeirws - gall fod angen newidiadau bach ar draws rhannau helaeth o'r genom mewn macro-organebau. Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer anoddach i ragweld addasu.
Gludlys arfor
Gall rhai rhywogaethau addasu’n gyflym iawn
Ychwanegodd Alex Papadopulos:
“Y newyddion da yw y gall rhai rhywogaethau addasu’n gyflym iawn i’r heriau rydyn ni’n eu taflu atyn nhw. Os yw rhywogaeth wedi addasu i her fawr mewn un rhan o'i hamrywiaeth, mae'n debygol iawn y bydd yn gallu addasu i broblem debyg rhywle arall - efallai na fydd angen iddynt hyd yn oed ddefnyddio'r un amrywiadau genetig i lwyddo. Yr hyn sydd ddim yn gymaint o newyddion da yw, gydag addasu cyflym yn cael ei reoli gan genomeg mor gymhleth, ei bod yn ei gwneud hi’n llai tebygol i ragweld a all rhywogaethau addasu o ddata genetig yn unig.”
Dywedodd y cyd-awdur Mike Fay, Uwch Arweinydd Ymchwil (Cadwraeth Geneteg, Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew):
“Mae effeithiau dynol ar yr amgylchedd yn ffenomen fyd-eang, a bydd astudiaethau fel hyn, yn archwilio sut mae planhigion ac organebau eraill yn ymateb i’r heriau canlyniadol, yn hanfodol wrth ddeall sut y gellir cynnal swyddogaeth ecosystem mewn byd sy’n newid.”