Mae mesuriadau manwl a gofnodwyd yn Uganda yn y 1960au gan yr Athro Richard Laws wedi galluogi Dr Graeme Shannon, Dr Line Cordes a chyd-ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, am y tro cyntaf, i archwilio gwahaniaethau yn ôl rhyw ym maint corff y llysysydd enfawr hwn (rhywogaeth sy’n pwyso dros 1000 kg). Caiff eu canlyniadau eu cyhoeddi heddiw (6 Hydref) yn Biology Letters https://doi.org/10.1098/rsbl.2021.0368.
Er disgwyl y byddai’r data’n adlewyrchu’r duedd gyffredin mewn mamaliaid carniog, sef bod y gwryw yn sylweddol fwy na’r fanw, dangosodd y dadansoddiad nad yw hipos gwryw yn eu llawn dwf ar gyfartaledd ddim ond 5% yn fwy na’r beinw. Oddeutu 60kg o wahaniaeth yw hyn, sy’n gymharol ychydig mewn rhywogaeth lle gall anifeiliaid yn eu llawn dwf bwyso hyd at 1500 kg neu gymaint â char teulu.
Fodd bynnag, dangosodd y mesuriadau bod gan yr hipo gwryw arfau mwy (yn nhermau maint pen, gên ac ysgithrau). Yn benodol roedd gennau hipo gwryw 44% yn drymach ac roedd eu dannedd llygaid bron ddwywaith maint rhai’r fanw.
Hipos gwryw yn dangos eu goruchafiaeth drwy agor eu cegau a dangos maint eu hysgithrau
Mae’r pwysau esblygiadol o ganlyniad i’r gystadleuaeth ddwys am gymar yn gyffredinol wedi golygu fod gan wryw rhywogaethau carniog gyrff ac arfau mwy. Er enghraifft gall eliffant gwryw Affricanaidd, sydd hefyd yn llysysydd enfawr, bwyso dwywaith cymaint ag eliffant banw yn ei llawn dwf. Maent yn defnyddio’u maint corfforol i ddangos goruchafiaeth a dychryn eu gwrthwynebwyr.
[Yn ddiddorol ddigon, yr anifail â’r gwahaniaeth mwyaf ym maint ei gorff yw’r eliffant môr deheuol, sef morlo lle gall y gwryw bwyso dros chwe gwaith yn fwy na’r fanw (3700 kg v 600 kg)].
Mae hipos gwryw yn dangos eu goruchafiaeth drwy agor eu cegau led y pen a dangos maint eu hysgithrau (a’u defnyddio nhw o bryd i’w gilydd gyda chanlyniadau angheuol). Roedd y dadansoddiad a wnaed o’r mesuriadau unigryw hyn yn dangos bod maint pen, genau ac ysgithrau yn adlewyrchu pwysigrwydd yr arddangosfa honno pan fo’r corff fel arfer o’r golwg o dan y dŵr.
Mae’n bosib fod sut y mae hipopotamysau yn treulio’u bwyd hefyd wedi cyfyngu ar eu gallu esblygiadol i dyfu eu cyrff, tra bo hefyd yn bosib bod budd esblygiadol i’r fanw fod â chorff mawr er mwyn amddiffyn ei chywion a chystadlu am adnoddau prin. ‘Damcaniaeth y fam fawr’ yw’r enw a roddir ar hyn.
Esbonia Dr Graeme Shannon, biolegydd bywyd gwyllt yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol:
“Mae’r canfyddiadau yma’n rhoi golwg hynod ddiddorol i ni ar sut yr effeithiwyd ar esblygiad gwahaniaethau maint rhwng y rhywiau, nid yn unig gan y gystadleuaeth ffyrnig rhwng gwrywod â’i gilydd, ond hefyd gan ffactorau sy’n benodol i rywogaeth, megis eu diet, eu ffisioleg a’u hamgylchedd.
Yn wir, mae ymwneud gwrywod â’i gilydd yn digwydd yn bennaf yn y dŵr, lle byddai unrhyw fudd o gael mas corfforol sylweddol yn cael ei negyddu gan hynofedd. “Rydym yn ddyledus i ddata am bron i 3000 o anifeiliaid unigol a gafodd eu cofnodi yn ôl rhyw ac oedran ym Mharc Cenedlaethol Queen Elizabeth, Uganda rhwng 1961 a 1966 gan yr Athro Laws a’i dîm. Ar y pryd roedd y parc yn gartref i boblogaeth o oddeutu 15,000 o hipos,” ychwanegodd Dr Shannon.
Meddai Dr Line Cordes, ecolegydd poblogaeth yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion a fu’n arwain ar y gwaith dadansoddol:
“unwaith y cawsom afael ar y llyfrau nodiadau fe sylweddolon ni eu bod nhw’n ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth fanwl am fioleg y rhywogaeth enigmatig yma, gyda’r holl fesuriadau wedi eu cofnodi’n daclus mewn llawysgrifen ac wedi eu cofnodi mewn unedau imperial.”