Seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Llundain yw'r cyntaf i ddatblygu dull o ddelweddu'r 'hunanbortreadau' meddyliol hyn sydd gennym ni yn ein meddyliau. Archwiliasant i ba raddau y gall y delweddau mewnol hyn wyro oddi wrth yr hyn y mae eraill yn ei weld, gan ddangos sut y gall ein hunan-barch a’n credoau am ein personoliaethau effeithio arnynt.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn Psychological Science (11.11.21) mae Dr Lara Maister o Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor yn dangos nid yn unig sut y dyfeisiodd y tîm ymchwil ffordd i gael mynediad i ddelwedd feddyliol pobl eraill ohonynt eu hunain, ond hefyd, am y tro cyntaf, i gymharu'r ddelwedd honno â realiti, ac archwilio sut gall y ddelwedd honno gael ei heffeithio gan gredoau rhywun am nodweddion ei gymeriad ei hun.
Yn ymchwil y tîm, ail-luniwyd delweddau meddyliol y cyfranogwyr o’u hwynebau eu hunain gan ddefnyddio techneg gyfrifiadurol a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i helpu seicolegwyr i ddelweddu sut rydym yn gweld pethau’n feddyliol. I greu hunlun meddyliol, mae cyfranogwyr yn gweld dau wyneb ar hap gan orfod dewis bob tro yr un sy'n edrych yn debycach i'w hwyneb eu hunain - proses a ailadroddir gannoedd o weithiau. Ar y diwedd, gall yr ymchwilwyr gyfartaleddu'r holl ddelweddau yr oedd pobl yn meddwl eu bod yn fwy tebyg iddynt, ac mae hynny'n caniatáu iddynt ddelweddu 'hunluniau meddyliol' y cyfranogwyr.
Cyfres eglurhaol o ddewisiadau - pa wyneb sy'n edrych fwyaf tebyg i'ch un chi?
Lluniau meddyliol ddim o reidrwydd yn adlewyrchu’r gwirionedd
Yn ddiddorol ddigon, canfu'r tîm nad oedd lluniau meddyliol pobl o'u hymddangosiad o reidrwydd yn adlewyrchu’r gwirionedd, ac yn hytrach y dylanwadwyd arnynt gan ba fath o bersonoliaethau y credai pobl fod ganddynt.
Esbonia Dr Lara Maister o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ac awdur arweiniol y papur:
“Gofynasom i’r cyfranogwyr gynhyrchu eu ‘hunanbortread meddyliol’ cyfrifiadurol, a hefyd i ateb holiaduron ynglŷn â phersonoliaeth a hunan-barch i ddatgelu pa fath o berson y credent eu bod. Gwelsom fod eu credoau amdanynt eu hunain yn effeithio'n gryf ar sut y credent yr edrychent. Er enghraifft, os oedd rhywun yn credu ei fod yn allblyg, roedd yn gweld ei wyneb ei hun yn fwy hyderus a chymdeithasol nag yr ymddangosai i bobl eraill.”
Mae'r Athro Manos Tsakiris, o Royal Holloway, Prifysgol Llundain a Sefydliad Warburg lle cynhaliwyd yr ymchwil hon yn nodi:
“Pan welwn wyneb newydd, o fewn ffracsiwn o eiliad, rydym wedi ffurfio argraff am yr unigolyn hwnnw, yn seiliedig ar yr hyn a welwn ni. Ni waeth a yw argraffiadau o'r fath yn gywir ai peidio, maent yn lliwio ein barn am bersonoliaethau pobl. Mewn ffordd debyg ond o chwith, rydym bellach wedi dangos bod ein hargraffiadau o'n cymeriad ein hun yn effeithio ar sut rydym ni'n gweld ein hunain yn ein meddwl.”
Mewn ail astudiaeth, defnyddiodd y tîm yr un dull i ddelweddu lluniau meddyliol pobl o siâp eu corff eu hunain. Darganfuant nid yn unig fod gan bobl ddelweddau meddyliol afrealistig o’u cyrff eu hunain, ond y dylanwadwyd yn fawr ar y delweddau meddyliol hyn gan agweddau rhywun tuag at ei hun yn hytrach na’i wir ymddangosiad.
Roedd pobl a oedd ag agweddau emosiynol negyddol iawn tuag at eu hymddangosiad eu hunain yn tueddu i ystyried bod ganddynt gorff llawer iawn mwy nag oedd ganddynt mewn gwirionedd.
Awgrymodd yr Athro Matthew Longo, o Brifysgol Birkbeck yn Llundain, a oedd hefyd yn rhan o'r tîm ymchwil:
“Bydd y gwaith yn ein helpu i ddeall mwy am ddelwedd y corff. Nawr fe allwn ni, am y tro cyntaf, ddechrau dirnad sut mae pobl eraill yn dychmygu eu bod yn edrych, yn bobl iach a’r rhai sy'n dioddef o anhwylderau delwedd y corff fel anhwylder dysmorffig y corff ”.
Gallai addasu'r dull hwn roi teclyn newydd i glinigwyr sy'n cefnogi pobl ag anhwylderau delwedd y corff i fesur a fu therapïau yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd asesir hyn yn gyffredinol gan ddefnyddio holiaduron sy'n gwerthuso a yw credoau negyddol y claf amdano’i hun wedi newid. Gallai datblygu offeryn o'r fath asesu a yw darlun meddyliol yr unigolyn o'i ymddangosiad hefyd wedi newid.