Gwnaeth gwyddonwyr am y tro cyntaf mewn astudiaeth newydd, gael DNA o sment ar flew a gymerwyd o weddillion wedi eu mymieiddio sy'n dyddio'n ôl 1,500-2,000 o flynyddoedd. Mae hyn yn bosibl oherwydd bod celloedd croen o’r pen yn cael eu cau yn y sment a gynhyrchir gan lau benywaidd wrth iddynt roi’r wyau, a elwir yn nedd, yn sownd i'r gwallt.
Mae dadansoddiad o'r DNA hynafol sydd newydd ei gasglu - a oedd o ansawdd gwell na'r hyn a gasglwyd trwy ddulliau eraill - eisoes wedi datgelu cliwiau am batrymau ymfudo pobl cyn-Golumbiaidd yn Ne America. Gall y dull olygu y gellir astudio llawer mwy o samplau unigryw o weddillion dynol lle nad oes samplau esgyrn a dannedd ar gael.
Arweiniwyd yr ymchwil gan Brifysgol Reading, yng weithio ar y cyd â Phrifysgol Genedlaethol San Juan, yr Ariannin; Prifysgol Bangor, Cymru; Amgueddfa Hanes Naturiol Prifysgol Rhydychen; a Phrifysgol Copenhagen, Denmarc. Mae’r ymchwil wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Molecular Biology and Evolution.
Dywedodd Dr Alejandra Perotti, Athro Cysylltiol mewn Bioleg Infertebratau ym Mhrifysgol Reading:
“Fel y stori ffuglennol am fosgitos wedi'u gorchuddio ag ambr yn y ffilm Jurassic Park, gan gario DNA lletywr y deinosor, rydym wedi dangos y gall ein gwybodaeth enetig gael ei chadw gan y sylwedd gludiog a gynhyrchir gan lau pen ar ein gwallt. Yn ogystal â geneteg, gall bioleg llau roi cliwiau gwerthfawr am sut roedd pobl yn byw ac yn marw filoedd o flynyddoedd yn ôl.
“Mae'r galw am samplau DNA o weddillion dynol hynafol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i ni geisio deall ymfudo ac amrywiaeth mewn poblogaethau dynol hynafol. Mae bodau dynol wedi bod â llau pen trwy gydol eu bodolaeth gyfan, felly gallai'r dull newydd hwn agor y drws i wybodaeth werthfawr am ein cyndeidiau, gan sicrhau bod sbesimenau unigryw yn cael eu cadw."
Dywedodd Dr Henk Braig, Darllenydd Parasitoleg Moleciwlaidd ym Mhrifysgol Bangor, a gyfrannodd at y gwaith:
“Mae'r gwaith hwn yn bwysig ar gyfer ein gwaith presennol yn ceisio deall patrwm ymfudo dynol, ond gall hefyd roi mynediad i DNA nifer o samplau anifeiliaid hynafol a oedd â'u llau sugno eu hunain. Gall hyn fod yn hollbwysig i rywogaethau anifeiliaid sydd wedi diflannu erbyn hyn.”
Hyd yma, mae DNA hynafol wedi cael ei dynnu o esgyrn â dwysedd mwynau o'r benglog neu o'r tu mewn i ddannedd, gan fod y rhain yn darparu'r samplau o'r ansawdd gorau. Fodd bynnag, nid yw gweddillion penglog a dannedd ar gael bob amser, gan ei bod yn aml yn anfoesegol neu yn erbyn credoau diwylliannol i gymryd samplau o weddillion pobl frodorol gynnar, ac oherwydd y difrod dinistriol difrifol a achosir i sbesimenau sy'n peryglu gwaith yn y dyfodol.
Felly, mae adfer DNA o'r sment a ddarperir gan y llau yn datrys y broblem, yn enwedig gan fod nedd i'w cael yn aml ar wallt a dillad bodau dynol sydd wedi'u cadw'n dda ac wedi'u mymieiddio.
Tynnodd y tîm ymchwil DNA o sment nedd o sbesimenau a gasglwyd o nifer o weddillion wedi'u mymieiddio o'r Ariannin. Roeddent yn fymïau pobl a gyrhaeddodd fynyddoedd yr Andes yn nhalaith San Juan, Canol Orllewin yr Ariannin 1,500-2,000 o flynyddoedd yn ôl. Bu'r tîm hefyd yn astudio nedd hynafol ar wallt dynol a ddefnyddiwyd mewn tecstilau o Chile a nedd o ben crebachlyd yn tarddu o bobl hynafol Jivaro yn Ecwador yn yr Amason.
Gwelwyd bod y samplau a ddefnyddiwyd ar gyfer astudiaethau DNA o sment nedd yn cynnwys yr un crynodiad o DNA â dant, sef dwbl yr olion esgyrn, a phedair gwaith yr hyn a gafwyd o waed y tu mewn i sbesimenau llau llawer mwy diweddar.
Yn ogystal â'r dadansoddiad DNA, mae gwyddonwyr hefyd yn gallu llunio casgliadau am unigolyn a'r amodau yr oedd yn byw ynddynt o leoliad y nedd ar eu gwallt ac o hyd y tiwbiau sment. Gellir nodi eu hiechyd a hyd yn oed achos marwolaeth trwy ddehongli bioleg y nedd.
- Gwnaeth dadansoddiad o'r DNA a gafwyd o sment nedd ddangos a chadarnhau’r canlynol:
- Rhyw pob un o'r lletywyr dynol
- Cysylltiad genetig rhwng tri o'r mymïau a bodau dynol yn yr Amason 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn yn dangos am y tro cyntaf bod poblogaeth wreiddiol talaith San Juan wedi ymfudo o dir a fforestydd glaw yr Amason yng Ngogledd y cyfandir (i'r de o Feneswela a Colombia presennol).
- Mae'r holl weddillion dynol hynafol a astudiwyd yn perthyn i'r llinachau mitochondriaidd sylfaenol yn Ne America.
- Daethpwyd o hyd i'r dystiolaeth uniongyrchol gynharaf o Polymavirus cell Merkel yn y DNA oedd wedi ei ddal mewn sment nedd un o'r mymïau. Mae'r firws, a ddarganfuwyd yn 2008, yn cael ei ollwng gan groen dynol iach a gall weithiau fynd i'r corff ac achosi canser y croen. Mae'r darganfyddiad yn agor y posibilrwydd y gallai llau pen ledaenu'r firws.
Cadarnhaodd dadansoddiad o DNA y nedd, yr un patrwm ymfudo ar gyfer y llau dynol, o wastadoedd Gogledd yr Amason tuag at Ganol Gorllewin yr Ariannin (San Juan Andes)
Gwnaeth ddadansoddiad morffolegol o'r nedd roi’r wybodaeth ganlynol:
- Roedd y mymiau i gyd yn debygol o fod wedi bod yn agored i dymheredd oer iawn pan fuont farw, a allai fod wedi bod yn ffactor yn eu marwolaethau. Dangoswyd hyn gan y bwlch bach iawn rhwng y nedd a chroen y pen ar siafft y blew. Mae llau yn dibynnu ar wres pen y lletywr i gadw eu hwyau yn gynnes ac felly’n eu gosod yn agosach at groen y pen mewn amgylcheddau oer.
- Roedd tiwbiau sment byrrach ar y gwallt yn cyd-fynd â sbesimenau hŷn a/neu sbesimenau heb gadw cystal, oherwydd bod y sment yn diraddio dros amser.