Mae astudiaeth a gaiff ei harwain gan Dr Graeme Shannon (Prifysgol Bangor) a’r Athro Karen McComb (Prifysgol Sussex) wedi ei chyhoeddi yn Animals ar 17.2.22 yn archwilio sut mae eliffantod o ddwy boblogaeth wahanol gyda hanes datblygiadol tra gwahanol yn ymateb wrth glywed un yn hytrach na thri llew’n rhuo.
Mae’r boblogaeth o eliffantod ym Mharc Cenedlaethol Amboseli, Kenya, yn cynnwys grwpiau teuluol sefydlog sy’n profi lefelau cymharol isel o ymyrraeth gan bobl. Roedd yr eliffantod hyn yn medru gwahaniaethu’r bygythiad mwy sy’n gysylltiedig â thri llew yn rhuo trwy gynyddu eu hymddygiad clystyru amddiffynnol a gwarchod aelodau iau a bregus o’r teulu.
Nid dyma ddigwyddai yn y boblogaeth eliffantod yn Pilanesberg, De Affrica. Cafodd y boblogaeth yn Pilanesberg ei ffurfio yn 1979 o blith eliffantod ifanc oedd yn aml ddim yn perthyn i’w gilydd. Â hwythau wedi dioddef amharu cymdeithasol eithafol a chan nad oedd henuriaid i ddysgu oddi wrthynt, ymddengys fod eliffantod Pilansberg yn methu â gwahaniaethu rhwng niferoedd gwahanol o lewod yn rhuo. Doedd eu hymateb clystyru amddiffynnol ddim yn arwyddocaol wahanol wrth iddynt gael eu cyflwyno â sain un neu dri llew’n rhuo, er gwaetha’r risg llawer mwy sy’n gysylltiedig â rhagor o ysglyfaethwyr.
Mae ein hymchwil yn awgrymu bod aflonyddwch dwys yn gynnar yn eu bywydau a’r diffyg eliffantod hŷn i ddysgu oddi wrthynt wedi amharu’n arwyddocaol ar allu eliffantod Pilanesberg i wneud asesiad cywir o’r bygythiad gan ysglyfaethwyr.
Mae’r gallu i rannu gwybodaeth gymdeithasol ac ecolegol yn hollbwysig i anifeiliaid sy’n byw mewn grŵp, yn enwedig ymysg rhywogaethau uwch-wybyddol megis primatiaid, morfilod a dolffiniaid ac eliffantod. Gall yr anifeiliaid hyn gaffael llawer o wybodaeth fanwl yn ystod eu bywydau hir.
Anfantais amlwg
Meddai’r Athro Karen McComb, Athro Ymddygiad a Gwybyddiaeth Anifeiliaid ym Mhrifysgol Sussex:
“Byddai anifeiliaid iau o dan anfantais amlwg o beidio â medru dysgu o brofiad henuriaid. Mae eliffantod hŷn yn medru gweithredu fel ystorfeydd gwybodaeth nid yn unig am leoliad bwyd a dŵr, ond hefyd am beryglon cymharol gan ysglyfaethwyr neu hyd yn oed aelodau o’u poblogaeth eu hunain.
Meddai’r cydawdur Dr Line Cordes o Brifysgol Bangor,
“Yn ogystal ag ystyried maint y boblogaeth, mae corff cynyddol o ymchwil yn awgrymu bod angen i ymarferwyr cadwraeth ystyried rôl hanfodol strwythur oed a sut mae gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo mewn rhywogaethau cymdeithasol uwch-wybyddol sy’n byw yn hir.”