Cipiodd ffilmiau a gynhyrchwyd ym Mhrifysgol Bangor record o saith tlws yng ngwobrau RTS Cymru a gynhaliwyd yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd.
Y ffilmwyr llwyddiannus oedd Shafin Basheer a Kumara Gadda, y ddau yn hanu o India, Matt Evans o’r Fali, a Dion Jones o Gaernarfon.
Yn ogystal â chipio gwobrau am y Ddrama Ôl-radd Orau (Between the Headphones gan Matt Evans) a’r Cynhyrchiad Ôl-radd Ffeithiol Gorau (Love of my Landscapes gan Shafin Basheer), enillwyd gwobrau Crefft Myfyrwyr ar ran y pedair ffilm o Fangor a lwyddodd i gyrraedd y rhestr o enwebiadau. Enillodd Dion Jones y wobr ysgrifennu ar gyfer Y Lein: Friction Dynamics, a chipiodd ffilm Kumara Gadda, Chitti: The Missing Girl, y gwobrau am waith camera a sain. Matt Evans oedd enillydd y wobr am ddylunio cynhyrchiad, ar gyfer Between the Headphones unwaith eto, ac enillodd Shafin Basheer y wobr am olygu gyda Love of my Landscapes.
Dyma’r nifer fwyaf o wobrau a enillwyd gan un brifysgol yn hanes y gwobrau hyn, a gynhelir i ddathlu holl weithgareddau’r diwydiant teledu yng Nghymru ac sydd â chategorïau arbennig ar gyfer cynyrchiadau gan fyfyrwyr.
Meddai Dr Geraint Ellis o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, “'Roedd hon yn noson arbennig, ac mae pawb mor falch o'r cyn-fyfyrwyr am beth maen nhw wedi ei gyflawni. Roedd y ffilmiau'n amrywio'n fawr o ran yr arddull a'r testunau ond roedd safon pob un o'r cynyrchiadau yn uchel iawn. Dwi'n sicr bydd y llwyddiant hwn yn rhoi hwb mawr i'r gwneuthurwyr ffilm talentog yma wrth i'w gyrfaoedd ddatblygu ac mi fydd o'n gyffrous gweld beth arall y gallan nhw gyflawni.”
Dywedodd un o’r enillwyr, Dion Jones, “Dwi wedi bod eisiau adrodd hanes streic Friction Dynamics ers dechrau’r cwrs ym Mangor. Y gobaith yw y bydd ennill y wobr yma gan RTS Cymru yn dangos y potensial sydd ‘na i wneud hon yn ffilm hirach ar gyfer teledu neu i’w rhyddhau’n annibynnol. Mae wir yn rhan o’n hanes ni na ddylai fynd yn angof.”
Ychwanegodd Shafin Basheer, gipiodd ddwy wobr am ei ffilm Love of my Landscapes “Fel gwneuthurwyr ffilm ifanc, mae ennill y wobr yma’n gam mawr yn fy ngyrfa ac yn fy annog i wneud mwy o’r hyn rwy’n ei garu – sef gwneud ffilmiau am natur a phobl.”
Bydd y ffilmiau yma’n mynd ymlaen i gael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Teledu Myfyrwyr yr RTS a gynhelir yn Llundain ar ddiwedd Mehefin.