Athletwraig rhyngwladol yn ennil Gwobr Goffa Llew Rees 2022
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr flynyddol am lwyddiant mewn chwaraeon, sef Gwobr Goffa Llew Rees, i'r athletwraig ryngwladol, Ffion Roberts.
Rhoddir Gwobr Goffa Llewelyn Rees, sydd werth £750, er cof am gyfarwyddwr hamdden gorfforol y brifysgol rhwng 1961-72. Rhoddir y wobr i'r myfyriwr sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf at godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor trwy lwyddiant ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.
Mae Ffion yn astudio am radd meistr mewn ffisiotherapi. Mae hi’n athletwraig ryngwladol 400m, ac mae hi wedi cynrychioli Cymru yn unigol ac mewn tîm ras gyfnewid. Ysbrydolwyd Ffion wrth wylio Gemau Olympaidd Llundain 2012 ar y teledu ac ymunodd â Chlwb Athletau Bae Colwyn, gan hyfforddi'n rheolaidd a chystadlu’n aml ar y penwythnos.
Llwyddiant mawr cyntaf Ffion oedd cael ei dewis i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf yn 2017 yn y Gemau Celtaidd, meddai, "roedd cael y gwahoddiad yn gofyn i mi gynrychioli Cymru yn gamp fawr. Rwy'n ddiolchgar am yr holl gemau rhyngwladol sydd wedi caniatáu i mi gynrychioli Cymru a chystadlu ar lefel uchel ers hynny."
Yn 2018, enillodd Ffion bencampwriaeth dan do ac awyr agored iau Cymru ac aeth ymlaen i ennill safleoedd ar y podiwm ar lefel uwch. Ar ôl derbyn y wobr flynyddol, dywedodd Ffion, "Mae'n anrhydedd mawr i mi dderbyn y wobr hon. Mae'r gefnogaeth rwyf wedi ei chael gan Brifysgol Bangor gyda fy ngyrfa fel athletwraig wedi bod yn anhygoel, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghynorthwyo. Bydd y wobr hon yn gymorth aruthrol i hwyluso fy hyfforddiant a bydd yn mynd tuag at brynu offer, talu costau hyfforddi, talu costau cystadlu, a bydd yn fy ngalluogi i deithio ymhellach i gystadlu ar lefel uwch a cheisio gwella fy amser personol gorau.”
"Fy amcanion yn y tymor byr yw parhau i wella fy amser personol gorau, cynrychioli Cymru mewn mwy o gystadlaethau rhyngwladol a chynrychioli Prifysgol Bangor. Yn y tymor hir, rwy'n gobeithio cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2026."
Meddai Iona Williams, Rheolwr Datblygu Chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford, Prifysgol Bangor: "Er gwaethaf y pwysau o astudio ar gwrs ôl-radd, mae Ffion yn dod o hyd i amser i hyfforddi'n galed a chystadlu bron pob penwythnos. Ers dod i Fangor ym mis Ionawr, mae hi wedi ennill medalau arian ym mhencampwriaeth Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain ac ym Mhencampwriaethau Hŷn Cymru. Mae'n anrhydedd i ni gyflwyno Gwobr Goffa Llew Rees 2022 iddi hi."