Astudio o adra – Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol yn mynd ar-lein er mwyn hwyluso mynediad i cyrsiau gradd
Ar 14 Mai ac 1 Mehefin, bydd ‘boreau coffi’ arbennig i bawb sydd erioed wedi meddwl am astudio gradd prifysgol ond a wfftiodd y syniad oherwydd amgylchiadau bywyd.
O fis Medi 2022 ymlaen, bydd cyfle i fyfyrwyr newydd ddilyn talp helaeth o’r cyrsiau MA a BA (Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol) ar-lein. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn adeiladu ar brofiadau a enillwyd yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn galluogi myfyrwyr newydd i fanteisio ar y ddarpariaeth heb orfod dilyn amserlen gaeth.
Yn ogystal â’r cymorth ariannol sylweddol sydd ar gael i bob myfyriwr, mae’r Adran hefyd yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Technoleg arbennig, i fyfyrwyr gael prynu cyfarpar at ddibenion dilyn gwersi dros y we.
Yn ôl Dr Aled Llion Jones, pennaeth yr Adran:
"Mae hi’n wych o beth bod y myfyrwyr bron i gyd yn ôl ar y campws erbyn hyn, ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd i Fangor bob mis Medi am ddegawdau i ddod. Serch hynny, rydym yn ymwybodol nad pawb sy’n gallu dod i ddarlithoedd a seminarau ‘yn y cnawd’. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd teithio, ac mae gan eraill ddyletswyddau gwaith neu ddyletswyddau gofalu, er enghraifft.
“Dyna pam rydym wedi penderfynu cynnig ein cyrsiau MA a BA (Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol) ar-lein o fis Medi ymlaen: er mwyn i bobl o bob oedran a chefndir allu manteisio ar ein darpariaeth mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw, yn llawn amser neu’n rhan amser. Hoffem groesawu myfyrwyr sy’n chwilio am her newydd, pobl sy’n meddwl ailafael yn eu haddysg neu newid cyfeiriad eu gyrfa. Mae’r cwrs BA Cymraeg Proffesiynol yn arbennig o addas i bobl sy’n awyddus i ennill cymwysterau ychwanegol er mwyn datblygu eu gyrfa.”
Mae’r adran wedi cyflogi darlithydd newydd i gynorthwyo gyda’r datblygiad newydd hwn. Bu Dr Elis Dafydd yn fyfyriwr yn yr adran ei hun, ac mae’n edrych ymlaen at y gwaith sy’n ei wynebu.
Eglurodd:
“Yr hyn a’m denodd i i Fangor fel myfyriwr oedd y cyfle i ddilyn cwrs diddorol a oedd yn rhoi trosolwg gyflawn imi o hanes a llenyddiaeth y Gymraeg, a chael fy nysgu gan bobl sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Rwy’n gwybod o brofiad mor ddiddorol yw modiwlau’r adran, a sylfaen mor dda yw’r cwrs ar gyfer y byd gwaith wedyn, felly mae sicrhau y bydd y cyrsiau ar gael ar-lein i fwy o bobl yn gam pwysig a chyffrous iawn. Wrth gwrs, mae penderfynu dilyn cwrs prifysgol yn benderfyniad mawr, a rhan o’m gwaith i yw sicrhau y bydd cefnogaeth drylwyr ar gael i’r myfyrwyr newydd, a sicrhau y byddant yn cael profiad heb ei ail.”
Dewch am banad, ac yna dewch am BA!
Gofynnir i bawb sydd eisio bod yn bresennol ym Mangor neu ar-lein, neu sydd efo unrhyw gwestiynau neu ymholiadau gysylltu â Dr Elis Dafydd, e.dafydd@bangor.ac.uk