Safle uchel i ymchwil Prifysgol Bangor yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig
Ymchwil Bangor yn y 30 Uchaf trwy’r Deyrnas Unedig am effaith gymdeithasol.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi ei gosod mewn safle uchel yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf y Llywodraeth (REF2021), gyda 85% gyda’r gorau yn y byd (4*) neu’n rhagorol yn rhyngwladol (3*).
Yn gyffredinol, mae Prifysgol Bangor wedi'i rhestru yn 2il yng Nghymru a safle 42 yn y Deyrnas Unedig yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil sy’n mesur ansawdd ymchwil ar draws holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn darparu buddion cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol, o ddatblygiadau mewn gofal iechyd i frwydro newidiadau amgylcheddol byd-eang, a dod o hyd i atebion ynni'r dyfodol.
Mae Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor yn cael ei restru ymhlith y 5 Uchaf yn y Deyrnas Unedig. Gyda sgôr rhagorol o ran effaith gymdeithasol yr ymchwil, sydd gyda’r gorau yn y byd a rhagorol yn rhyngwladol, mae ein gwyddonwyr chwaraeon blaenllaw yn gwneud ymchwil i wytnwch meddwl, perfformiad elît, ymddygiad deietegol a metabolaeth, ac ymarfer corff ac iechyd fasgwlar.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn newid y byd ym meysydd Systemau Daear a Gwyddorau’r Amgylchedd ac mae wedi ei restru yn 1af yn y Deyrnas Unedig am effaith yr ymchwil. Gydag un o'r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, mae ein hymchwil wedi'i restru yn chweched yn y Deyrnas Unedig ac yn 1af yng Nghymru am bŵer ymchwil.
Mae ein gwyddonwyr yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn rhoi sylw i rai o faterion amgylcheddol pennaf y blaned, ar y tir ac ar y môr, megis gorddefnyddio plastigion untro, a diogelu amrywiaeth rhywogaethau ac ecosystemau trwy ymchwil i gadwraeth bioamrywiaeth.
Mae ein hymchwil sy’n ymwneud â’r Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith yma'n cefnogi cynlluniau blaenllaw'r brifysgol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor o 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol i’r dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn atgyfnerthu twf y sector gwyddorau bywyd y rhanbarth.
Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran datblygu ymatebion arwyddocaol i heriau’r byd yr ydym yn byw ynddo, sef cynaliadwyedd, carbon isel, iechyd ataliol, hybu technoleg ac arloesedd, a diwylliant a’r celfyddydau.
Ar gyrion disgyblaethau y mae ymchwilwyr yn arloesi go iawn ac mae ymchwil rhyngddisgyblaethol Prifysgol Bangor, ymchwil y mae iddo arwyddocâd byd-eang, yn dangos effaith ar y byd go iawn.
Mae bod yn yr ail safle yn gyffredinol yng Nghymru yn dangos yn glir ein hymrwymiad i gefnogi’r helics pedwarplyg, sef ymchwil, arbenigedd mewn diwydiant, llywodraeth a chenhadaeth ddinesig er budd economi a chymdeithas Gogledd Cymru a thu hwnt.