Cyngerdd yn dathlu 100 mlynedd o ddawn gerddorol ym Mhrifysgol Bangor
Bydd cyngerdd mis Tachwedd Prifysgol Bangor yn dathlu’r cerddorion a fu’n dysgu, yn astudio ac yn rhannu eu doniau creadigol dros y ganrif ddiwethaf.
A’r brifysgol yn dathlu 100 mlynedd o greu cerddoriaeth, bydd y cyngerdd nesaf yn Neuadd Prichard-Jones nos Sul 27 Tachwedd am 7.30pm yn cynnwys gweithiau gan E T Davies, Dilys Elwyn Edwards, John Hywel, Caradog Roberts a William Mathias.
Arweinir y cyngerdd gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Gwyn L Williams ac arweinydd y gerddorfa Chris Atherton, gydag unawdau gan y soprano Sioned Terry, y tenor Robyn Lyn Evans a’r bariton Jeffrey Williams.
“Mae’r cyngerdd yn nodi can mlynedd o gerddoriaeth yn y Brifysgol, canrif a ddechreuodd gyda phenodi E T Davies yn Gyfarwyddwr Cerdd llawn amser a’r cyntaf un ym 1921-22,”
Bydd cân enwocaf E T Davies Ynys y Plant, sy’n agos at galon nifer o genedlaethau o sopranos, yn cael ei pherfformio yn y fersiwn gerddorfaol gan Arwel Hughes. Bydd hefyd yn cynnwys un o'r caneuon Cymraeg enwocaf erioed: Mae Hiraeth yn y Môr, a ysgrifennwyd gan Dilys Elwyn Edwards a fu'n dysgu’r piano yn yr Adran Gerdd yma ym Mangor.
“Mae ei chân yn cymryd ei lle’n naturiol ar lwyfannau cyngerdd y byd, ac yr un mor boblogaidd mewn neuaddau pentref mewn eisteddfodau lleol,” eglura Gwyn L Williams. “Mae’n cael mwy o sylw, efallai’n annheg, na’i chân hyfryd Cloths of Heaven, a drefnwyd yn arbennig i’r cyngerdd gan y gyfansoddwraig o Gymraes, Mared Emlyn, a hithau’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor.”
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gweithiau gan Caradog Roberts a William Mathias.
“Mae 50 mlynedd yn gwahanu cyfnodau Caradog Roberts a William Mathias ym Mangor,” eglura Gwyn L Williams. “Bu Caradog Roberts yn Gyfarwyddwr Cerdd rhan amser rhwng 1914 a 1929; penodwyd William Mathias yn Athro Cerddoriaeth ym 1970. Cwta hanner canrif sydd rhyngddynt, ond allai eu cerddoriaeth ddim bod yn fwy gwahanol. Ond, sut gallai celf a cherddoriaeth fod yr un peth ar ôl Passchendaele, Dresden, Hiroshima ac Auschwitz?”
“Mae gwreiddiau cerddoriaeth Caradog Roberts yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a syniadau am Ymerodraeth a Christnogaeth. Dechreuodd William Mathias gyfansoddi mewn Prydain hollol newydd, a oedd wedi ei throi ben i waered. Heidiodd llawer o'r Ymerodraeth yma ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i alwad y llywodraeth am bobl i helpu ailadeiladu gwlad a chwalwyd. A daeth cenhedlaeth Windrush â mwy na gweithwyr yn unig, daeth hefyd â diwylliant a cherddoriaeth, yn llawn lliwiau, cerddoriaeth a rhythm llawen. Roedd gan William Mathias ddiddordeb mewn jazz ynghynt (o bosib trwy gerddoriaeth Gershwin), ac mi gafodd ei swyno gan gerddoriaeth y Caribî. Ac mae’n amlwg yn harmonïau, rhythmau a sgor cerddorfaol This Worlde’s Joie, a gaiff ei pherfformio gan y Corws ynghyd â’r ensemble lleol Cantorion Menai. Diddorol nodi hefyd y cafodd y testunau canoloesol a osododd Mathias i gerddoriaeth eu llunio gyda chymorth William Tydeman, a oedd yn Athro Saesneg ym Mangor ac yn y Brifysgol yr un adeg â’r cyfansoddwr.”
Bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor hefyd yn perfformio’r Rondo for Orchestra – a gyfansoddwyd gan John Hywel i’w pherfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Eglura Gwyn L Williams, “Yn y 1960au penodwyd John Hywel yn ddarlithydd cerddoriaeth yn y Brifysgol, swydd a ddaliodd am 30 mlynedd, a daeth yn Athro cyn ymddeol. Oni bai amdano ef, ni fyddai’r gerddorfa a'r corws yn bod heddiw. Er ei fod yn ddarlithydd llawn amser, roedd yn barod i roi amser i gyflawni rôl y Cyfarwyddwr Cerdd. Adfywiodd y gerddorfa a'r corws, a ffurfiodd gysylltiadau da i'r ddau ensemble, rhwng y staff, y myfyrwyr a'r gymuned. Mae Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol yn dal i gynnwys aelodau o’r “coleg a’r dref”, ac maent yn parhau i anadlu bywyd a cherddoriaeth i’r neuadd gyngerdd wych yr ydym yn ymarfer ac yn perfformio ynddi, Neuadd Prichard-Jones.”
Tocynnau ar gael ar wefan Pontio
Os hoffech ymuno ag un o ensemblau Prifysgol Bangor, cliciwch ar y ddolen hon