Prifysgol Bangor yn penodi arweinydd academaidd newydd ar gyfer Ymgysylltu Byd-eang
Mae’r Athro Paul van Gardingen FRSA wedi’i benodi i swydd newydd Dirprwy Is-Ganghellor (PVC) ar gyfer Ymgysylltu Byd-eang ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd Paul yn ymuno â’r Brifysgol fel aelod o’i Bwrdd Gweithredol ddydd Mercher, 1 Chwefror 2023. Ar hyn o bryd mae'n Ymgynghorydd Arbennig i’r Prifathro ac Is-Ganghellor ac Athro Er Anrhydedd mewn Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Dundee.
Yn y swydd newydd hon ym Mhrifysgol Bangor, Paul fydd yr arweinydd academaidd ar gyfer datblygu a gweithredu partneriaethau rhyngwladol mewn addysg, recriwtio ac ymchwil sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau Strategaeth 2030 Bangor.
“Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â Phrifysgol Bangor ar y cam hwn o'i datblygiad a'i huchelgais” dywedodd Paul. “Trwy gydol fy ngyrfa fel gwyddonydd naturiol a chymdeithasol rwyf wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym Mangor ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar y profiad hwnnw fel aelod o dîm Bangor.
“Mae fy ngyrfa academaidd wedi’i hysbrydoli gan ymchwil ar ddatblygiad byd-eang, cynaliadwyedd amgylcheddol ac arloesi, ac rwy’n gyffrous i gefnogi Bangor i sicrhau twf cynaliadwy a gwydn yn ei gweithgareddau byd-eang trwy ddull integredig sy’n cysylltu addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
“Ynghyd â’m cydweithwyr newydd a’n partneriaid rhyngwladol, byddwn yn cyd-ddylunio ac adeiladu partneriaethau byd-eang strategol gwerth uchel i gefnogi twf busnes a’r modd y caiff ei gyflawni. Bydd y rhain hefyd yn gwella recriwtio myfyrwyr, enw da, refeniw a gweithgarwch ymchwil gan alluogi staff a myfyrwyr Bangor i wneud gwahaniaeth yn y byd.”
Meddai’r Is-ganghellor, Yr Athro Edmund Burke: “Ym Mangor rydym am adeiladu ar ein portffolio o bartneriaethau a gweithgareddau gwydn, cynaliadwy a theg, sy’n cynnwys addysg drawswladol, ymchwil, recriwtio myfyrwyr, gwell boddhad myfyrwyr ac ymgysylltiad ehangach â’n cymunedau cyn-fyfyrwyr ac eraill mewn marchnadoedd allweddol ledled y byd.”
“Mae Paul yn arweinydd hynod brofiadol gyda phrofiad helaeth o adeiladu strategaethau ac arwain timau rhyngwladol, amlddiwylliannol i sicrhau canlyniadau. Gwn y bydd Bangor yn elwa o’i arbenigedd wrth ddiffinio strategaeth ymgysylltu byd-eang i wireddu ein gweledigaeth o Fangor yn sefydliad sydd â chysylltiadau byd-eang gwirioneddol.”
Ganwyd ac addysgwyd Paul yn Seland Newydd, ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd proffesiynol yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi treulio mwy na 30 mlynedd yn gweithio mewn ymchwil byd-eang ac addysg uwch. Mae ei ymchwil ei hun wedi canolbwyntio ar wella bywydau pobl mewn economïau sy'n datblygu ac sy’n dod i'r amlwg trwy ddefnyddio gwybodaeth wyddonol ac addysg o'r radd flaenaf.
Yn Dundee arweiniodd Paul ar ddatblygiad pwrpas cymdeithasol Datganiad Blantyre gyda phrifysgolion ym Malawi yn ogystal â gyrru partneriaethau ymchwil mewn mannau eraill yn Affrica ac adeiladu partneriaethau rhyngwladol i gefnogi grymuso ieuenctid a rhywedd a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â COP27.
Cyn hynny bu’n Ddirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Byd-eang ym Mhrifysgol Caerlŷr gyda chylch gorchwyl tyfu portffolio’r Brifysgol o ymchwil rhyngwladol a datblygu. Cyn hynny, daliodd gadair UNESCO mewn datblygu rhyngwladol ym Mhrifysgol Caeredin.
Fel gwyddonydd amgylcheddol, bu Paul hefyd yn arwain elfen ymchwil Rhaglen Ymchwil Coedwigaeth Drofannol y Deyrnas Unedig-Indonesia, cefnogi Cynllun Gweithredu Cyfunol yr Undeb Affricanaidd ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Arloesedd a sefydlu system Rwanda ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd. Mae wedi gweithio gyda nifer o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan gynnwys DEFRA a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.