Wrth fesur yr ymdrech y mae’n ei gymryd i’r adar drycin hedfan mewn gwahanol amodau gwynt, darganfu Dr Stephanie Harris a’i chydweithwyr fod yr adar yn penderfynu ble i hedfan i ddod o hyd i bysgod yn seiliedig ar y gwynt, gan gydbwyso’n ofalus yr egni a geir o fwyd â’r egni a ddefnyddir i chwilio amdano.
Ar ddiwrnodau gwyntog, mae teithio i rai cyfeiriadau yn llawer haws nag ar ddiwrnodau eraill. Dangosodd yr ymchwil fod adar drycin yn chwilio am fwyd mewn mannau yr oedd yn haws hedfan iddynt ar ddiwrnod gwyntog. Mewn cyferbyniad, ar ddiwrnodau tawelach roedd yr adar yn ffafrio mannau y maent yn rhagweld y byddant yn dod o hyd i ddigonedd o bysgod.
Dywedodd y prif awdur, Dr Stephanie Harris, “Mae adar môr yn wynebu cefnfor enfawr i ddod o hyd i fwyd ynddo, ac mae gallu cynllunio ble i fynd yn bwysig”,
Ychwanegodd, “Goblygiad hynny yw bod gan adar drycin gynllun ar gyfer ble maen nhw’n mynd i fwydo, a bod ganddyn nhw hefyd syniad bras o faint o egni byddant yn ei ddefnyddio i gyrraedd yno yn dibynnu ar y gwynt”.
Cynhaliwyd yr ymchwil mewn dwy arsyllfa adar sydd wedi eu lleoli ar ynysoedd, sef Arsyllfa Adar Enlli yng Ngogledd Cymru ac Arsyllfa Adar Copeland yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r ynysoedd hyn yn safleoedd bridio pwysig i adar drycin Manaw, ac mae’r ymchwil hwn wedi helpu i ddatgelu rôl y gwynt wrth ddylanwadu ar ble mae adar drycin o’r gwahanol gytrefi hyn yn canolbwyntio eu hymdrechion o ran bwydo ar y môr.
Gwnaethpwyd yr astudiaeth hon yn bosibl gan y finiaturaeth mwyaf cyfredol o dechnoleg tracio er mwyn dilyn adar môr yn eu hamgylchedd naturiol - ymhell ar y môr. Eglura Dr Harris “Gan ddefnyddio dyfeisiau sy’n pwyso cyn lleied â 7g, gallwn nid yn unig ddilyn i ble mae aderyn yn mynd, ond hefyd fesur pob curiad ei adenydd wrth hedfan, gan ddefnyddio technoleg debyg i’r hyn a geir mewn ffonau clyfar”.
Dywedodd yr uwch awdur, Dr Line Cordes, a fu'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor yn flaenorol ac sydd bellach yn gweithio yn Sefydliad Ymchwil Natur Norwy (NINA), “Mae rhagamcaniadau hinsawdd yn rhagweld gostyngiadau mewn gwyntoedd haf o amgylch y Deyrnas Unedig. Bydd deall rôl gwyntoedd mewn sut mae adar môr yn porthi yn hollbwysig er mwyn deall yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar ein hadar môr.”
Bydd yr astudiaeth hon yn cael ei chyhoeddi yn Current Biology ac roedd yn gydweithrediad rhwng ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Sefydliad Ymchwil Natur Norwy (NINA), Prifysgol Heriot Watt, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Rhydychen. Cefnogwyd yr ymchwil hwn gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme.