Mae’r parc i’w ganfod islaw prif adeilad hanesyddol Prifysgol Bangor a nod y project yw gwneud y parc yn lle mwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio i’r gymuned leol.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi, Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd. Bydd y gwaith yn cynnwys creu mynedfa newydd i’r parc oddi ar Ffordd Deiniol, gosod llwybr newydd i gysylltu’r ddinas â phrif adeilad y Brifysgol, a Pontio, yn ogystal â gosod goleuadau i alluogi pobl i ddefnyddio'r parc wedi iddi nosi.
Mae cam cyntaf y gwaith, sef teneuo rhywfaint ar ardal goediog y parc a chael gwared ar blanhigion ymledol, eisoes wedi'i gwblhau. Mae hynny wedi creu golygfeydd gwell trwy’r parc ac wedi annog planhigion a blodau gwyllt i dyfu.
Tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, o ganol Ionawr hyd ddechrau Mehefin, bydd holl lwybrau'r parc ar gau, ond bydd llwybr arall i gerddwyr ar gael.
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, y Dirprwy i’r Is-ganghellor: “Rydyn ni mor ffodus bod cymaint o dir gwyrdd mor agos i ganol y ddinas sy’n creu pont o dir gwyrdd rhwng y brifysgol a'r ddinas. Cafodd y tir yma ei roi i’r Brifysgol gan y ddinas pan oedd prif adeilad y Brifysgol yn cael ei adeiladu ddechrau’r ganrif ddiwethaf, a’n gobaith ni ydy y bydd y gwaith yma i drawsnewid y parc yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio canol y ddinas. Rydyn ni’n ymddiheuro i ddefnyddwyr y parc am unrhyw anghyfleustra fydd yn cael ei achosi yn ystod y gwaith, ond yn gobeithio y bydd y parc newydd yn rhywle y bydd defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd yn ei fwynhau’n fawr wedi i’r gwaith ddod i ben yn nes ymlaen yn y flwyddyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros yr Economi, Cyngor Gwynedd: "Rydym yn falch o gydweithio gyda Phrifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru ar brosiect Parc y Coleg a fydd yn dod â gwelliannau allweddol i fan gwyrdd yng nghanol y ddinas. Mae’r prosiect hefyd yn ffurfio rhan o strategaeth adfywio ehangach ar gyfer canol dinas Bangor, ac rydym yn gobeithio y bydd buddsoddiadau pellach yn dilyn mewn amser."