Prifysgol Bangor yn penodi Prif Swyddog Trawsnewid
Penodwyd Michael Flanagan FRICS i swydd newydd Prif Swyddog Trawsnewid ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd Michael yn ymuno â’r Brifysgol fel aelod o’i Bwrdd Gweithredol ddydd Llun, 13 Mawrth 2023. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Caerlŷr.
Yn syrfëwr wrth ei alwedigaeth, bydd Michael yn arwain y gwaith o ddatblygu a darparu dull trawsnewidiol, cydlynol sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ar gyfer ein isadeiledd digidol ac ystadau. Gan adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredu, Dr Kevin Mundy, bydd Michael yn gweithio’n agos gyda’r Dirprwy i’r Is-Ganghellor, y Prif Swyddog Gweithredu, y Prif Swyddog Cyllid a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Campws a’r Gwasanaethau Digidol.
“Mae’r cyfle i arwain rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ym Mhrifysgol Bangor, y mae ei gwreiddiau a’i hetifeddiaeth barhaus yn seiliedig ar arloesi, addysgu ac ymchwil sy’n cael ei gyrru gan effaith, yn gyffrous iawn,” meddai Michael. “Gan eistedd ochr yn ochr â phobl, mae ein hasedau – adeiladau a thechnoleg – yn allweddol i brofiad a rhagoriaeth, gan ddarparu’r gofod a chysylltedd digidol i ddysgu, creu, arloesi ac adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau.
“Rwy’n gyffrous i weithio gyda fy nghydweithwyr newydd i wella campws cynaliadwy i holl gymuned y Brifysgol, ochr yn ochr â chreu cyfleoedd i fyfyrwyr gael yr elw mwyaf posibl o’r buddsoddiad sylweddol a wnânt a’u paratoi ar gyfer y dyfodol.”
Meddai’r Prif Swyddog Gweithredu, Dr Kevin Mundy, “Mae Michael yn weithiwr proffesiynol sy’n arwain y diwydiant ac sydd wedi dod ag atebion arloesol o ran pobl, lle a thechnoleg ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae’n bleser gennym ei groesawu i Fangor lle bydd ei arbenigedd yn gyrru ein gweledigaeth, ein strategaeth a’n cynllunio ymlaen i alluogi amgylchedd digidol a ffisegol cydlynol ac integredig sy’n gwella enw da ein Prifysgol, ac yn ymateb i anghenion staff a myfyrwyr, a bydd yn ategu ein hymdrechion i ysgogi perfformiad cyffredinol y Brifysgol.”
Yng Nghaerlŷr, bu Michael yn goruchwylio gwariant rhaglen gyfalaf o £250m, gan gynnwys darpariaeth ystadau a digidol integredig ysgol busnes newydd gwerth £20m, canolfan myfyrwyr newydd gwerth £25m, project gwerth £50m i gyflwyno Space Park Leicester, sydd wedi ennill gwobrau, sy’n cael ei rannu â cydweithwyr gan gynnwys Rolls Royce, Airbus a Satellite Catapult, a chynllun adeiladau preswyl ac academaidd gwerth £150m DBFO (Dylunio-Adeiladu-Cyllid-Gweithredu). Cyn hynny bu'n aelod o dîm Gweithredol Prifysgol Greenwich ac yn gyn-gyfarwyddwr ac ymgynghorydd i’r London Legacy Development Corporation ar brif gynllunio a hyfywedd ar gyfer blaenoriaethau adfywio maerol. Bu’n arwain rheolaeth ystadau a chyfleusterau Parc Olympaidd y Frenhines Elisabeth a’r stadiwm Olympaidd ac mae wedi arwain ar isadeiledd a digidol integredig ar sawl cynllun adfywio yn Llundain.