Clwstwr Datgarboneiddio Diwydiannol Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWID) - lansio cynllun clwstwr
Mae’r Athro Michael Butler, Ysgol Busnes Bangor a Dr Jack Callaghan, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg wedi cyfrannu at broject proffil uchel a arweinir gan ddiwydiant sy’n dangos y gall gogledd-ddwyrain Cymru arwain y ffordd o ran datgarboneiddio diwydiant — er budd busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarth.
Mae Clwstwr Datgarboneiddio Diwydiannol Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWID) wedi datgelu ei gynllun clwstwr newydd sbon yn ystod y digwyddiad lansio yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ddydd Iau diwethaf – gan roi hwb i strategaeth ddatgarboneiddio diwydiannol ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, yn 2025 a thu hwnt.
Mae’r cynllun yn amlinellu ei bod yn bosibl datgarboneiddio’r clwstwr erbyn 2040 — gyda Dal a Storio Carbon (CCS) a hydrogen fel y prif yrwyr ochr yn ochr â datblygu a defnyddio seilwaith yn y 2020au a dechrau’r 2030au.
Mae NEWID yn dibynnu ar gydweithio â phrojectau yng ngogledd orllewin Lloegr — ac mae angen cyd-drefniant parhaus o fewn y clwstwr ac oddi allan iddo.
Mae hefyd angen buddsoddiad a chefnogaeth gyhoeddus a phreifat sylweddol — ac mae angen mwy na £5 biliwn o fuddsoddiad CAPEX ar draws technolegau datgarboneiddio.
Mae partneriaid project NEWID - Uniper Prifysgol Bangor, Wales & West Utilities, SP Energy Networks, a Systemau Ynni Sero Net - wedi treulio dros flwyddyn yn datblygu’r cynllun, sy’n bosibl diolch i gyllid grant gan Innovate UK.
Yn ystod y digwyddiad lansio yn y AMRC Cymru, aeth y partneriaid, ochr yn ochr â noddwr y project, Diwydiant Sero Net Cymru, ati i ddatgelu’r cynlluniau i gynulleidfa orlawn - gan amlinellu sut y gall y rhanbarth fodloni nodau sero net Cymru erbyn 2050.
Mae’r adroddiad yn nodi fod datgarboneiddio’r clwstwr yn dechnegol bosibl erbyn 2040—gyda CCS a hydrogen yn brif yrwyr gostyngiadau allyriadau yn y rhanbarth.
Fodd bynnag, mae’r datblygiad a’r defnydd gofynnol o seilwaith yn ystod y 2020au a’r 2030au cynnar yn hollbwysig i gyflawni’r nodau hyn — gyda NEWID hefyd yn dibynnu ar gyflawni strategaethau ategol gan fusnesau lleol a chydweithrediad ehangach â phrojectau yng ngogledd orllewin Lloegr.
![Yr Athro Michael Butler yn siarad yn ystod lansio cynllun clwstwr NEWID](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2025-02/Michael%20Butler%20NEWID.jpg?h=f03d1f75&itok=egePLnmz)
Yn unol â hyn, mae'r cynllun yn nodi'n glir yr angen am gymorth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn y digwyddiad, adleisiwyd hyn gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru - gan ddarlunio Llywodraeth Cymru fel partner allweddol wrth helpu diwydiant yn y rhanbarth i ddatgarboneiddio. Wrth adfyfyrio ar ddigwyddiadau’r dydd, dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld canlyniadau’r adroddiad hwn, sy’n cynrychioli penllanw misoedd lawer o ymdrech ac ymchwil gan bartneriaid project NEWID. Gyda chefnogaeth Diwydiant Sero Net Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymdrechion datgarboneiddio diwydiant ar draws y wlad, rwy’n hyderus y bydd y cynllun hwn yn gweithredu fel glasbrint i drawsnewid ynni glân yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
“Fel rhan o’n hymrwymiad i ddatgarboneiddio a’r newid i sero net, mae’n rhaid i ni sicrhau bod budd o ran sicrhau a chreu swyddi o ansawdd uchel, a sicrhau ffyniant i gymunedau lleol. Bydd Cynllun Clwstwr NEWID yn ein galluogi i wneud hyn, ac yn helpu'r rhanbarth ar ei daith i sero net. Rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynllun.”
Bydd y gwaith o gyflawni’r cynllun yn cael ei rymuso gan Diwydiant Sero Net Cymru — corff annibynnol sy’n cefnogi diwydiant Cymru i gyflawni sero net. Hyd yn hyn, mae Diwydiant Sero Net Cymru wedi canolbwyntio ar bartneriaethau cydweithredol — gan gefnogi NEWID ac arwain y project i ddatblygu ei gynllun datgarboneiddio diwydiannol ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, yn ogystal â darparu gwasanaethau cynghori ar y digwyddiad lansio.
Dywedodd Ben Burggraaf, sef Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru: “Mae'n wirioneddol gyffrous gweld cynlluniau tîm NEWID. Mae eu hadroddiad yn dangos mai dim ond drwy gydweithredu ar draws diwydiant, gweithgynhyrchu a’r sector cyhoeddus y gellir cyflawni’r gymysgedd o ddefnyddio CCS a hydrogen a chynyddu capasiti grid, ochr yn ochr â mesurau effeithlonrwydd eraill.
“Gyda'r gefnogaeth gywir, rydw i wir yn credu y gall gogledd-ddwyrain Cymru ddod yn un o'r canolfannau trawsnewid ynni glân mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Dylai adroddiad NEWID fod yn fframwaith i gyflawni hyn. Mae’r adroddiad yn adeiladu ar ddull ‘Tîm Cymru’ Diwydiant Sero Net Cymru, ac rwy’n falch iawn o gefnogi’r canfyddiadau a chynnig cymorth i fusnesau a phartneriaid ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru i fwrw ymlaen â hyn.”
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Bangor: “Mae gan ogledd-ddwyrain Cymru ôl troed diwydiannol unigryw, ac mae bod yn bartner ar broject NEWID wedi ein rhoi wrth galon ymdrechion y rhanbarth i bontio i ddyfodol cynaliadwy. Gan weithio gyda'n partneriaid project diwydiant, mae'r brifysgol wedi cyfrannu arbenigedd o ddwy ganolfan ymchwil flaenllaw, sef Rhanbarth (Canolfan Ysgol Busnes Bangor ar gyfer Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy) a BioGyfansoddion (tîm Asesu Cylch Bywyd Cymdeithasol) i gynnal dadansoddiad buddion cymdeithasol ac economaidd.
“Nododd y dadansoddiad hwn heriau gweithredu allweddol mewn perthynas â swyddi, sgiliau a chyfranogiad cymunedol, yn ogystal â modelau busnes arloesol i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae cydweithwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg hefyd wedi arwain ar yr ymdrechion i ledaenu gwybodaeth, a phenllanw’r gwaith hwnnw oedd lansio’r Cynllun Clwstwr.”
Dywedodd yr Athro Michael Butler o Ysgol Busnes Bangor “Diben NEWID yw cefnogi ymdrechion datgarboneiddio diwydiant yng ngogledd-ddwyrain Cymru trwy ei gynllun cynhwysfawr sydd angen cefnogaeth busnesau, y llywodraeth a buddsoddwyr i ddod yn realiti. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad lansio yn sbarduno cydweithredu pellach ar draws gogledd-ddwyrain Cymru i ddatgarboneiddio’r rhanbarth a chyflawni statws sero net erbyn 2050.”