![Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yng ngwisg Canghellor y Brifysgol](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2025-02/Dafydd%20Bangor%20Gwisg_0.jpg?itok=R70VIImr)
Gyda thristwch mawr y clywodd y Brifysgol am farwolaeth y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas. Bu ganddo gysylltiad hir ac agos â Phrifysgol Bangor a chofir am ei gyfraniad i'r sefydliad ac i Gymru gyfan gyda pharch enfawr.
Graddiodd yr Arglwydd Elis-Thomas o Brifysgol Bangor yn 1967 gyda gradd yn y Gymraeg, cyn cael PhD yn y Gymraeg yn 1987. Bu hefyd yn ddarlithydd mewn Drama cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth. Yn y flwyddyn 2000, i gydnabod ei gyfraniad i'r Brifysgol ac i Gymru fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd.
Gadawodd waddol parhaol trwy ei wasanaeth fel Canghellor y Brifysgol rhwng 2000 a 2017, ac fel Cadeirydd Cyngor y Brifysgol.
Yn ogystal â'i gyfraniadau academaidd, roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn wleidydd diflino a wnaeth gyfraniad sylweddol i Gymru. Chwaraeodd ran flaenllaw fel Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ogystal ag fel Llywydd y Senedd. Cyn symud i'r Senedd, bu’n cynrychioli etholaeth Meirionnydd Nant Conwy fel Aelod Seneddol rhwng 1974 a 1992. Bu'n arweinydd Plaid Cymru am nifer o flynyddoedd (1984-91) ac yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi a'r Cyfrin Gyngor.
Bu’n hynod weithgar ym mywyd diwylliannol a chymunedol Cymru a bu’n gadeirydd ar sawl corff gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a bu hefyd yn aelod o fyrddau eraill, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Ffilm Prydain. Bydd ei gyfraniad i'r Brifysgol a'i bersonoliaeth gyfeillgar ac agored yn golled enfawr.
Dywedodd Mrs Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor, "Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn eiriolwr angerddol ac yn ffigwr dylanwadol iawn yn hanes Prifysgol Bangor. Byddwn bob amser yn ddiolchgar am yr amser a roddodd i Brifysgol Bangor ac am y ffordd yr oedd yn cynrychioli buddiannau Cymru ar bob lefel. Roedd ei garedigrwydd, ei ddoethineb, a'i synnwyr o bwrpas yn wirioneddol eithriadol. Cefais y fraint o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Dafydd a gwerthfawrogi'n fawr ei gefnogaeth a'i gyfeillgarwch diwyro. Roedd yn ffigwr ysbrydoledig a fydd yn cael ei golli'n fawr gan ei gyn-brifysgol. Ar ran cymuned y Brifysgol, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu."
Meddai’r Athro Edmund Burke, Is-ganghellor, “Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn arweinydd rhyfeddol, y mae ei weledigaeth a'i ymroddiad wedi siapio cwrs y sefydliad hwn ers blynyddoedd lawer. Gwasanaethodd fel Canghellor a Chadeirydd ein corff llywodraethu, roedd yn ffrind gwirioneddol i'r Brifysgol. Byddwn yn ddiolchgar am byth am yr amser a roddodd i'n Prifysgol ac am y ffordd y bu'n hyrwyddo buddiannau Cymru ar bob lefel. Roedd ei ymrwymiad i'r Brifysgol yn ddiwyro a bydd yn cael ei gofio'n annwyl am y cyfraniadau hirymarhous a wnaeth."
Meddai'r Athro Andrew Edwards, Dirprwy i’r Is-ganghellor, "Gwnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas gyfraniad aruthrol i dirwedd wleidyddol Cymru a bydd yn cael ei gofio am y cyfraniad sylweddol a wnaeth i sicrhau datganoli i Gymru. Caiff ei gofio yn annwyl fel gwleidydd lliwgar yn aml a dadleuol ar brydiau a fu’n lladmerydd dros Gymru yn San Steffan am bron i hanner canrif, ac roedd yn uchel ei barch ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Roedd yn Gymro, yn Ewropead ac yn rhyng-genedlaetholwr balch, a bydd y Brifysgol, Cymru a thu hwnt yn gweld ei golli."