Darganfu arbenigwyr fod trefn ac amseriad symudiadau mewn dilyniannau cymhleth yn cael eu gwahanu gan yr ymennydd, cyn cael eu sipio a'u trosglwyddo i orchmynion symud penodol, neu 'gof cyhyrau', wrth i'r person ddechrau'r weithred.
Canfuwyd, wedi sawl diwrnod o hyfforddiant a dysgu dilyniannau gweithredoedd ar y cof, bod dilyniant lefel uchel o symudiad (megis trefn ac amseriad) yn cael eu hysgogi ar draws sawl maes echddygol yn yr ymennydd, cyn iddynt gael eu hintegreiddio yn dilyn sbardun penodol megis ciw cerddorol neu ergyd gychwyn.
Wrth gyhoeddi eu canfyddiadau heddiw yn y Journal of Neuroscience, mae ymchwilwyr o Brifysgol Birmingham a Phrifysgol Bangor yn credu y gallai'r darganfyddiad helpu i wella adferiad echddygol i pobl sydd wedi cael strôc.
Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Katja Kornysheva, gynt o Brofysgol Bangor, rwan ym Mhrifysgol Birmingham,
“O lawysgrifen i chwarae offeryn cerdd, mae perfformio dilyniannau o symudiadau o'r cof yn nodwedd amlwg o ymddygiad dynol medrus.
“Yr hyn sy’n syndod yw bod yr ymennydd yn gwahanu’r sgiliau hyn yn ôl eu nodweddion cyfansoddol yn hytrach na’u hamgodio fel un cof cyhyrau integredig, hyd yn oed ar ôl sawl diwrnod o hyfforddiant. Mae newid yng nghyflyrau gwybodaeth yr ymennydd wrth gyflawni tasgau o'r fath, pob un tro yr ydym yn adalw gweithred hyfedr o’r fath o’r cof. Mae gwybodaeth yn cael ei hadalw wedi ei datsipio pan fyddwn yn paratoi i gyflawni’r weithred, cyn cael ei sipio at ei gilydd i ddechrau ar y dasg. Efallai bod y cyflwr wedi ei datsipio hwn yn ein helpu i aros yn hyblyg ac yn barod rhag ofn bod addasiadau, hyd yn oed yn y microeiliadau olaf cyn i ni ddechrau’r symudiad, er enghraifft, os oes rhaid i ni newid cyflymder neu amseriad gweithred rydym ar fin ei gwneud, wrth chwarae efo band cerddorol, neu newid gêr wrth yrru car.”
Mewn cyfres o bron i 1000 o dreialon gwelwyd cyfranogwyr llaw dde – ac eithrio cerddorion proffesiynol – yn dysgu ac yn cofio pedwar dilyniant ar allweddellau y gwnaethant eu paratoi ac yna eu perfformio yn dilyn ciw gweledol. Ar ôl cael hyfforddiant, perfformiodd y cyfranogwyr y dilyniannau ar yr allweddellau mewn sganiwr MRI a oedd yn mesur patrymau gweithgarwch ar draws yr ymennydd yn ystod y dasg. Ni ymddangosodd y ciw oedd yn dweud wrthynt am ddechrau mewn rhai treialon ac roedd hynny’n caniatáu i'r ymchwilwyr wahanu'r paratoadau oddi wrth y symudiad ei hun.
Dywedodd awdur cyntaf yr astudiaeth, Rhys Yewbrey o Brifysgol Bangor: “Fe wnaethom hefyd ddod o hyd i sawl adran o’r ymennydd sy'n rheoli amseriad wrth gynhyrchu symudiadau, ond nid oedd yr un adran i'w gweld yn rheoli trefn bys heb i hynny fod wedi ei integreiddio ag amseriad. Roedd effaith gyfatebol yn ymddygiad dysgu y cyfranogwyr - roeddent yn gyflymach yn dysgu dilyniant gyda threfn byseddu newydd pan oeddent yn gyfarwydd â'r amseriad ond eto'n cael trafferth dysgu dilyniant pan oedd yn rhaid iddynt baru trefn yr oeddent eisoes wedi ei ddysgu ag amseriad newydd. Efallai bod cadw rheolaeth dros amseriad yn ystod y weithred yn caniatáu hyblygrwydd hyd yn oed ar ôl i'r symudiad ddechrau."
Mae ymchwilwyr yn credu bod yr ymennydd yn gwahanu trefn dilyniant ac amseriad fel elfennau 'beth', sy'n cynrychioli rheolaeth lefel uwch, a chânt yna’u cyfuno i ddiffinio 'sut' yn union y dylid cyflawni'r dasg.
Mae’r canlyniadau newydd hyn yn ein helpu i ddeall yn well sut mae gweithredoedd medrus yn cael eu storio a’u rheoli yn yr ymennydd ar gyfer sgiliau bob dydd megis teipio, clymu careiau esgidiau a chwarae offeryn cerdd, yn ogystal â beth sy’n eu gwneud yn hyblyg ac yn wydn i newidiadau yn yr amgylchedd neu mewn anhwylderau niwrolegol.