Mae datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn greiddiol i strategaeth y Brifysgol, ac mae tablau cynghrair diweddaraf y prifysgolion bellach yn adlewyrchu’r nodau hynny. Unwaith eto, mae'r Brifysgol wedi cyrraedd y 100 uchaf, yn 64ain yn fyd-eang, ac yn 16eg yn y Deyrnas Unedig, a hynny trwy ein mesur yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Defnyddiwyd y Nodau Datblygu Cynaliadwy hyn i asesu effaith gadarnhaol prifysgolion drwy adolygu 1,591 o brifysgolion ar draws y byd ar gyfer pumed cynghrair Effaith Addysg Uwch y Times.
Dywedodd Dr Christian Dunn, y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, “Mae ein hawydd i roi cynaliadwyedd ar waith yn ystyriaeth gyson sy’n plethu trwy ein gweithgareddau a’n camau gweithredu, boed hynny trwy ein haddysgu, ein hymchwil neu wrth ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae'n galonogol gweld bod y bwriad hwn yn cael ei adlewyrchu gan ein safle uchel yn y gynghrair, o gymharu â sefydliadau eraill ar draws y byd. Gobeithio y bydd ein gwaith yn llusern i oleuo’r ffordd ymlaen i eraill.
Ychwanegodd, “Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgyrch uchelgeisiol i dorri ein hallyriadau carbon deuocsid o 25% o fewn dim ond tair blynedd. Ond mae datblygu cynaliadwy yn ymwneud â mwy na’r amgylchedd, ac rydym yn gweithio tuag at wella ein nodau datblygu cynaliadwy ar draws ein gweithgareddau.”
Cafodd Prifysgol Bangor ei mesur yn erbyn saith o 17 categori'r nodau datblygu cynaliadwy: Iechyd Da a Lles, Cydraddoldeb Rhywiol, Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd, Llai o Anghydraddoldeb, Treuliant a Chynhyrchu Cyfrifol, Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn a Phartneriaeth i Gyflawni’r Nodau.