Delwedd yn dangos cwch yn eistedd ary dŵr ac o dan y môr, mae robot arsylwi môr

Darlith gyhoeddus:Using roaming robots to better understand the ocean

Mae'r môr yn parhau i fod yn ddirgelwch, ac mor estron i ni â'r gofod allanol er ei fod wedi cydblethu â holl fywyd y ddaear

Mae'r Athro Stephanie Waterman o Brifysgol British Columbia, Canada yn gweithio ar flaen y gad mewn maes robotig newydd, ac yn defnyddio robotiaid o bell i arsylwi’r môr. Bydd yr Athro Waterman yn ymweld â Phrifysgol Bangor ddydd Llun 26 Mehefin i draddodi darlith gyhoeddus ar ddefnyddio robotiaid crwydrol i ddeall y môr yn well. Mae croeso i bawb ddod i’r ddarlith am 6 o’r gloch yr hwyr yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Adeilad y Celfyddydau) ym Mhrifysgol Bangor.

 Mae'r môr yn parhau i fod yn ddirgelwch, ac mor estron i ni â'r gofod allanol er ei fod wedi cydblethu â holl fywyd y ddaear, ac yn chwarae rhan ganolog yn y broses o reoleiddio’r hinsawdd a chynhyrchu bwyd. Mae llawer o'r dirgelwch yn deillio o'r heriau sylweddol a niferus sy'n gysylltiedig ag arsylwi'r môr. Ond mae'r chwyldro robotiaid yn gyfnod newydd o arsylwi’r môr, gyda'r potensial i chwyldroi ein dealltwriaeth o weithrediad y môr.

Chwyldroi ein dealltwriaeth o weithrediad y môr

Cyn ei darlith gyhoeddus, dywedodd yr Athro Stephanie Waterman:

“Mae ein hymdrechion diweddar i weld a deall y môr mewn ffyrdd newydd wedi cynnwys defnyddio gleiderau cefnforol, math o lwyfan arsylwi morol robotig. Rydym wedi bod yn defnyddio'r robotiaid hyn i ddeall sut mae dosbarthiad morfilod yn berthnasol i ddosbarthiad eu hysglyfaeth, sut mae strwythur y môr yn esblygu yn yr ardal a thrwy'r tymhorau a sut mae'r esblygiad hwn yn effeithio ar waelod gwe fwyd y môr, yn ogystal â'r ffyrdd rhyfedd a rhyfeddol mae'r môr yn cymysgu yn amgylchedd unigryw Cefnfor yr Arctig.

“Rydym yn adeiladu canolfan arsylwi morol robotig er mwyn monitro iechyd y môr yn y tymor hir mewn hinsawdd sy'n newid. Gyda'n gilydd, gallwn ddyfalu dyfodol arsylwi’r môr wedi ei alluogi gan gleidwyr a datblygiadau technolegol yn y dyfodol."

Dywedodd trefnydd y ddarlith, yr Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor “Dywedir bod gan ddatblygiadau diweddar y potensial i chwyldroi ein dealltwriaeth o weithrediad y môr. Mae’r ddarlith hon gan yr Athro Waterman yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y datblygiadau diweddaraf.”

Mae gwaith yr Athro Waterman yn defnyddio arsylwadau cefnforol, modelau ac astudiaethau damcaniaethol i ddeall ffiseg cylchrediad y môr yn well, gyda diddordeb arbennig mewn cynnwrf cefnforol ar raddfa fach a chymysgu sy'n gyfrifol am ddileu amrywiaeth ynni ac eiddo cefnforol o'r system. Mae dealltwriaeth dda o'r prosesau hyn yn hanfodol i'n gallu i gynrychioli gwir gyfraniad y môr at fodelau hinsawdd. Mae hi wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd arsylwi ym Môr yr Iwerydd, y Môr Tawel, Cefnfor y De a Chefnfor yr Arctig, gan dreulio ymhell dros gant o ddiwrnodau ar y môr. Erbyn hin, mae hi a’i grŵp ymchwil yn gwneud arsylwadau blaengar o gynnwrf yn y môr o lwyfannau arsylwi’r môr, gan gasglu setiau data unigryw ar gynnwrf yn y môr yng Nghefnfor yr Arctig sy’n caniatáu ar gyfer y nodweddion ystadegol cyntaf o gynnwrf yn y rhanbarth hwn. Mae ei gwaith wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, gan ddenu gwahoddiadau i gyflwyno mewn cyfarfodydd mawr gan gynnwys y Royal Society Frontiers of Science Meeting a’r Commonwealth Science Conference, yn ogystal â gwobrau ymchwil sylweddol gan gynnwys y CNC-SCOR Early Career Ocean Scientist Award, y Sloan Research Fellowship in Ocean Science, a’r ARC Discovery Early Career Researcher Award.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?