Mae amgueddfeydd byd natur yn cadw trysorfa o wybodaeth am anifeiliaid y Ddaear. Ond nid yw llawer o'r wybodaeth werthfawr ar gael i enetegwyr oherwydd bod fformalin, y cemegyn a ddefnyddir yn aml i gadw sbesimenau, yn niweidio DNA ac yn ei gwneud hi’n anodd adfer dilyniannau.
Gan fanteisio ar ddatblygiadau diweddar mewn technegau echdynnu DNA, mae tîm yn cynnwys aelodau o Brifysgolion Bangor, Potsdam, a Chaergrawnt, ynghyd â chydweithwyr yn Ne Affrica a Zimbabwe, wedi echdynnu cod genetig sbesimen a oedd ar gadw mewn amgueddfa, ac wedi nodi rhywogaeth newydd o neidr.
Mae'r rhywogaeth newydd, o Ucheldir Dwyrain Zimbabwe wedi'i enwi fel rincaliaid Nyanga, neu Hemachatus nyangensis mewn papur a gyhoeddwyd yn PLOS One.
Mae Dwyrain Ucheldir Zimbabwe a'r safanâu a'r coedwigoedd sych o'u hamgylch, yn gartref i lawer o rywogaethau nad ydyn nhw i'w cael yn unman arall. Yma, yn y 1920au, sylwodd gwyddonwyr am y tro cyntaf ar boblogaeth ddirgel o nadroedd gyda marciau anarferol. Gwelwyd y neidr, mewn ystum amddiffynnol tebyg i gobra, a’i wddf fel cwcwll, ar dir Ystâd Inyanga Cecil Rhodes yn Nyanga.
Ym 1961, nododd yr herpetolegydd enwog diweddar Donald G. Broadley fod y boblogaeth yn perthyn i'r rincaliaid (Hemachatus haemachatus), y canfuwyd eu poblogaethau agosaf tua 700km i ffwrdd yn Ne Affrica, Eswatini (a elwid gynt yn Swaziland) a Lesotho.
Rincaliaid Nyanga
Pan fydd anifeiliaid yn darfod, nid colli rhywogaeth yn unig ydym ni
Arsylwyd a mesurwyd llond llaw o sbesimenau o rincaliaid Zimbabwe yn ddiweddarach ond mae'r dirwedd wedi newid yn sylweddol oherwydd coedwigaeth. Cafodd y sbesimen penodol a astudiwyd yma ei ladd gan gerbyd ym 1982. Ni welwyd yr un yn y gwyllt ers 1988, ac ofnir bod rhywogaeth y boblogaeth wedi darfod.
Arweiniwyd y gwaith gan Tom Major, a oedd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’n esbonio:
“Dangosodd ein hastudiaeth fod hon yn boblogaeth a fu wedi ei hynysu’n hir, yn wahanol iawn i boblogaethau rincaliaid y de. Yn seiliedig ar eu gwahaniaethau genetig, rydym yn amcangyfrif bod y nadroedd yn Zimbabwe wedi dargyfeirio oddi wrth eu perthnasau deheuol tua saith i 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Mae gan rincaliaid Nyanga ddannedd wedi'u haddasu i boeri gwenwyn. Mae'n hysbys bod rhai o'r gwir gobraod sy'n perthyn yn agos yn poeri gwenwyn tuag at anifeiliaid sy'n eu bygwth, gan ddefnyddio'r un dannedd arbenigol.
Mae'n ymddangos bod poeri gwenwyn wedi datblygu deirgwaith o fewn y grŵp ehangach o nadroedd tebyg i gobra, yn ôl pob tebyg fel mecanwaith amddiffyn mewn ymateb i'r homininau cyntaf (ein hynafiaid). Byddai epaod a ddefnyddiai offer ac a gerddai ar eu traed ôl yn fygythiad difrifol i’r nadroedd, ac mae esblygiad poeri mewn cobraod Affricanaidd yn cyd-fynd yn fras â’r adeg y gwahanodd homininau oddi wrth tsimpansîod a bonobos saith miliwn o flynyddoedd yn ôl.”
Ychwanegodd cyd-awdur yr astudiaeth Wolfgang Wüster, Athro Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor:
“Pe canfuwyd poblogaeth fyw o rincaliaid Nyanga, byddai samplau DNA ffres yn ein helpu i bennu’n fwy cywir pryd yr ymrannodd y ddwy rywogaeth o rincaliaid, a sut mae hyn yn cymharu ag esblygiad homininau."
“Efallai bod datblygiadau technolegol yn rhoi cipolwg anhygoel i ni ar linachau anifeiliaid hynafol ond ni allant wneud iawn am ddifodiant. Rydym ni'n dal i obeithio y deuir o hyd i boblogaeth fyw o rincaliaid Nyanga”.
Mae’r berthynas bosibl rhwng poeri gwenwyn a’n cyndeidiau cynnar yn ein hatgoffa ein bod yn rhan o ecosystem y Ddaear. Mae ein hesblygiad ni ein hunain yn cydblethu ag esblygiad anifeiliaid eraill. Pan fydd anifeiliaid yn darfod, nid colli rhywogaeth yn unig ydym ni - maen nhw'n mynd â rhan o'n hanes ein hunain gyda nhw.