Yn 2020, cymerodd llywodraeth Ethiopia y cam beiddgar o wahardd plastig untro, mewn ymgais i fynd i'r afael â lefelau llygredd plastig y wlad. Ond mae gweithredu'r polisi newydd wedi bod yn her, gan fod diffyg dewisiadau amgen addas. Mae hanner miliwn tunnell o blastig yn dal i gael ei daflu, ei gladdu neu ei losgi yn y wlad bob blwyddyn.
Mae gwyddonwyr yng Nghanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor yn gobeithio gallu defnyddio gwastraff organig o weddillion cnydau Ethiopia, gan gynnwys dail o goed banana, fel dewis amgen i becynnu plastig, mewn project a allai hefyd gynnig ffrwd refeniw sydd wir ei hangen ar ferched y wlad sy’n ffermio.
Mae arbenigwyr o Fangor yn gweithio gyda dau gorff yn Ethiopia, Ethiopian Pulp and Paper SC a'r Bio & Emerging Technology Institute, i weld a allai dail ffibrog y planhigyn, a waredir fel arfer wrth brosesu bananas, ffurfio math newydd o ddeunydd pacio. Ariennir y project ymchwil gan GCRF AgriFood Africa Innovation Awards Innovate UK.
Bydd y dail yn cael eu cludo o Ethiopia i gyfleuster unigryw'r tîm BioGyfansoddion yn Ynys Môn i weld a all eu hoffer prosesu ddadelfennu'r dail i greu mwydion a all wedyn ffurfio prototeipiau pecynnu wedi eu mowldio fel cardbord.
Bydd y project yn darparu gwybodaeth werthfawr ynghylch a yw Ensete a dail banana yn fwy cyffredinol yn addas i’w prosesu’n ddiwydiannol yn Ethiopia.
Meddai’r Uwch Gymrawd Ymchwil Dr Adam Charlton: “Os bydd y dail a’r coesyn yn addas, byddwn yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion prototeip y gallwn ddod â nhw i weithdy gyda'r cwmni, gan wahodd cynrychiolwyr o'r llywodraeth a'r sector preifat, fel y gallant weld y rhesymeg dros symud ymlaen o’r astudiaeth dichonoldeb.”
Mae gan y project ddimensiwn arall hefyd; os cymeradwyir cynhyrchu ar raddfa fwy, bydd o fudd i grwpiau ffermio dan arweiniad merched y wlad a allai gyflenwi'r biomas angenrheidiol.
Er mai merched yw hanner gweithlu gwledig Ethiopia, mae eu cynhyrchiant yn is na dynion sy’n ffermio, oherwydd diffyg mynediad at dir a hadau. Gallai darparu’r cnydau ar gyfer prosesu diwydiannol fod yn ffrwd refeniw ychwanegol i’r merched hyn.
Mae gan Fangor ddegawdau o wybodaeth ac arbenigedd am brosesu amrywiaeth eang o weddillion amaethyddol, coedwigaeth a phrosesu bwyd, ond dyma’r tro cyntaf i ni ddefnyddio banana ffug. O’r ganolfan yn Ynys Môn, mae tîm Bangor yn anelu at gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch: hambyrddau ffrwythau meddal a chaled, mowldiau potiau a bocsys wyau – ar gyfer y gweithdy yn ddiweddarach eleni.
Mae’r seilwaith i gadwyn gyflenwi posib eisoes yn ei le, gan fod Llywodraeth Ethiopia a Sefydliad Datblygu Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig (UNDO) wedi sefydlu parciau amaeth-ddiwydiannol arbennig, lle mae ffermwyr lleol yn dod â'u hamrywiol cynhyrchion i'w prosesu.
Felly os yw’r prototeipiau’n llwyddiannus, ac y gallwn fanteisio ar arbenigedd lleol, gallai hyn weithio i bawb a chreu dewis cynaliadwy yn lle deunydd pecynnu plastig.