Ddydd Sadwrn 2 Ragfyr bu aelodau’r Gerddorfa genedlaethol yn chwarae ochr yn ochr gydag ag aelodau o Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor ac aelodau o Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.
Dan ofal yr arweinydd, Ben Draper, roedd yn gyfle unigryw a chyffrous i aelodau cerddorfa’r Brifysgol ac aelodau’r gwasanaeth cerdd lleol gael profiad o berfformio gyda cherddorfa ryngwladol flaenllaw.
Bu’r cerddorion ifanc yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gan chwarae gweithiau gan Tchaikovsky, Gershwin, Beethoven a Dvořák, a gorffen trwy roi cyngerdd anffurfiol. Mae'r digwyddiad yn rhan o gydweithrediad parhaus rhwng yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Rydym yn teimlo’n hynod gyffrous o gael gweithio eto eleni gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ddarparu profiad ymarferol i fwy na 30 aelod o Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor. Mae cydweithio proffesiynol o'r math hwn yn hwb enfawr i brofiad myfyrwyr ac yn sicrhau bod cyfleoedd celfyddydol o’r fath yn ymestyn y tu hwnt i'r brifddinas.
Mae mor bwysig bod cerddorion ifanc dawnus yn cael cyfarfod a gweithio gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol mewn achlysuron fel hyn, ac mae ein lleoliad yn golygu nad yw’r cyfleoedd hyn yn dod mor aml â hynny. Byddai’r sain hyfryd yn Neuadd PJ fore Sadwrn wedi bod yn rhywbeth hollol newydd i’n disgyblion a gwn y byddant wedi gadael wedi’u hysbrydoli ac yn llawn dyhead. Llwyddodd yr arweinydd i gynnig sesiwn a oedd yn hygyrch i bawb heb or-symleiddio’r cynnwys. Rwyf mor ddiolchgar i’r Brifysgol am wneud hyn yn bosibl ac fel gwasanaeth cerdd, rydym wrth ein bodd gyda’r berthynas. Rwy’n mawr obeithio y bydd llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer digwyddiadau a chydweithio tebyg yn y dyfodol.
Profiad bythgofiadwy
Dyma ddywedodd Martha a Leah, dwy o ddisgyblion Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn,
“Roedd cael chwarae heddiw’n brofiad gwych, a dwi’n meddwl ein bod wedi chwarae’n dda iawn, roedd yn foment i’w wynhau. Roedd yn dda gweld sut oedd y gerddorfa’n cyd-weithio, a chael gweld y math o gerddoriaeth maen nhw’n ei chwarae a sut mae pawb yn dod ynghyd i greu cerddoriaeth wych.”
Meddai Will Bradley, myfyriwr BMus yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor,
“Roedd cael y cyfle i chwarae ochr yn ochr â cherddorion gwych yn brofiad hollol ysbrydoledig a bythgofiadwy!”