Mae ymchwil newydd sy’n tracio’r llygad yn dangos bod edrych ar elfennau naturiol wrth fynd am dro mewn mannau trefol yn gallu bod yn llesol iawn i iechyd meddwl.
Roedd yr astudiaeth, gan Brifysgol Bangor a Sefydliad Technoleg Technion-Israel, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol People and Nature, yn cynnwys trigolion trefol, a dangosodd bod rhoi sylw gweledol i wyrddni, yn hytrach nag adeileddau gwneud, yn gallu lleddfu pryder a gwella teimladau adferol.
Gwelsom fod yr unigolion a gafodd eu harwain i syllu’n amlach ar yr elfennau gwyrdd yn dweud y bu gostyngiad sylweddol mewn gorbryder, a’r coed oedd yn dangos yr effaith gadarnhaol fwyaf.”
Mae’r astudiaeth yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng edrych ar elfennau gwyrdd, yn enwedig coed, a chynnydd mewn adferiad canfyddedig, sy’n awgrymu bod hyd yn oed cyfnodau byr o ryngweithio â byd natur yn llesol i iechyd meddwl.
Y Goblygiadau i Ddylunio Trefol
Mae’r canfyddiadau hynny’n cynnig arweiniad gwerthfawr i ddylunwyr trefol a phenseiri, sy’n awgrymu y gall integreiddio mwy o nodweddion naturiol yn nhirweddau dinasoedd chwarae rhan allweddol o ran gwella lles meddyliol y trigolion. Mae’r astudiaeth, "The Nature Gaze", yn cefnogi'r syniad o amgylcheddau trefol sy'n hybu cysylltiad â byd natur, ac sy’n amlygu strategaeth syml ond effeithiol i wella iechyd meddwl trefol.





