Dau berwon ar y llawr mewn coedwif efo rhyw declun

Datgelu dull newydd o ganfod rhywogaethau ffwng byd-eang

Dim ond cyfran fach iawn o amrywiaeth natur sydd wedi ei enwi a'i nodi, ac mae hyn yn arbennig o wir am bryfed a ffyngau; mae miliynau o rywogaethau o bryfed a ffyngau nad ydynt yn hysbys i wyddoniaeth.

Datgelodd samplau aer a gasglwyd ledled y byd ac a ddadansoddwyd gan ddefnyddio dilyniannu DNA wybodaeth newydd am ledaeniad ac amrywiadau tymhorol ffyngau hysbys ac anhysbys. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i ddeall ble a phryd y mae gwahanol rywogaethau ffwngaidd yn ffynnu, ond hefyd i ragweld eu tynged yn sgil y newid byd-eang parhaus.

Athro Simon Creer,  Athro Ecoleg Moleciwlaidd


Mae'r tîm yn argyhoeddedig y bydd technegau samplu bioamrywiaeth newydd o'r fath yn chwyldroi biomonitro a rhagolygon bioamrywiaeth yn y blynyddoedd i ddod.

Un pwnc arbennig o ddiddorol i ymchwilio iddo ymhellach yw adolygiad manylach o ddilyniannau ffyngau sy'n bwysig i bobl. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, afiechydon ffwngaidd mewn pobl, cnydau ac anifeiliaid cynhyrchu, yn ogystal â ffyngau sy'n dynodi cynnydd yng ngholledion natur a gwanhau prosesau naturiol yn yr ecosystem.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?