Mae’n fraint ac yn bleser mawr fy mod wedi ennill y Wobr hon, ac rwyf eisiau cydnabod rôl fy nghyd-hyfforddeion a staff y rhaglen wrth wneud y cynnydd yr ydym wedi’i wneud. Mae symud tuag at ddiwylliant lle’r ydym yn gwerthfawrogi profiad uniongyrchol o anawsterau iechyd meddwl ymhlith seicolegwyr clinigol yn newid sylweddol yn y paradeim, a fydd yn gofyn am ddewrder ac ymrwymiad parhaus gan y gymuned seicoleg gyfan. Edrychaf ymlaen at weld beth yw’r camau nesaf a sut y bydd cenedlaethau’r dyfodol o seicolegwyr dan hyfforddiant yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi digwydd ym Mangor.

Laura Miles

Dywedodd Beverley Pickard-Jones, sy’n Ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, “Roedd yn bleser cefnogi Laura wrth wneud cais am y Wobr hon. Mae cyflawniadau Laura yn dangos pa ganlyniadau gwych y gellir eu cyflawni pan fydd staff a myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth, a sut y gall unigolion lywio ac arwain newidiadau.”

Ychwanegodd yr Athro Michaela Swales, Cyfarwyddwr Rhaglen, Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, “Rydym wrth ein bodd bod gwaith Laura ar y rhaglen wedi cael cydnybyddiaeth. Rydym yn hynod falch o Laura, mae hi wedi ymroddi trwy gydol ei hamser ar y rhaglen i sicrhau bod llais y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw hefo anawsterau iechyd meddwl yn cael ei glywed, ei ddeall, ac yn bwysicach fyth yn cael ei ddefnyddio i wella ansawdd pob agwedd o hyfforddiant clinigol seicoleg. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Laura i ddatblygu ac ymgorffori’r gwaith y mae hi wedi’i gwblhau ar y rhaglen ymhellach.”

Bydd Laura yn cwblhau ei hastudiaethau ddiwedd mis Medi , ac yn ymuno â’r gwasanaeth Cyflyrau Cymhleth yn y Gymuned fel seicolegydd clinigol cymwys ym mis Hydref.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?