Mae grant gwerth £250,000 wedi ei ddyfarnu i Dreborth i adfer ac adfywio'r coetir naturiol a diwylliannol sydd yn yr ardd a gwella mynediad a darparu profiadau dysgu ystyrlon trwy raglen amrywiol o gyrsiau, gweithdai a hyfforddiant.
Mae gan Dreborth hanes hir o weithio gyda'r gymuned leol i godi dyheadau a gwella ansawdd bywyd. Mae’n ganolfan a arweinir gan wirfoddolwyr sy’n trefnu gweithgareddau i ddathlu ehangder ac amrywiaeth ein treftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog, ac mae coetiroedd yn rhan greiddiol o’n hymdrechion ym maes cadwraeth.
Mae’r coetir yng Ngardd Fotaneg Treborth yn cynnwys tua 16 hectar ac mae wedi ei leoli rhwng y ddwy bont eiconig: Pont y Borth (Thomas Telford) a Phont Britannia (Robert Stephenson), sy’n cysylltu Gwynedd ag Ynys Môn. Mae hefyd yn rhan o Dirwedd Hanesyddol Arfon, a ddiffinnir gan Gofrestr Dirweddau Hanesyddol Cymru.
Mae treftadaeth naturiol y safle yn cynnwys enghraifft brin o goetir derw hynafol, arforol dros 400 mlynedd oed (SoDdGA), clystyrau o goetir bedw gwlyb calchaidd, blociau o dderw, ynn a masarn a blannwyd ar ôl y rhyfel gyda rhai coed aeddfed sydd dros 175 mlwydd oed. Mae’r bloc hwn yn gartref i safle Ysgol Goedwig lwyddiannus sy’n cefnogi chwarae, dysgu ac archwilio seiliedig ar natur gyda phartneriaid lleol gan gynnwys Coed Lleol a Nature Keen.
Mae’r coetir hefyd yn gartref i wiwerod coch sy’n bridio, ardal nythu crehyrod gleision a digonedd o famaliaid bach eraill, adar, infertebratau a thros 400 o rywogaethau o ffyngau. Mae'n labordy byw i grwpiau cymunedol, myfyrwyr a phrojectau ymchwil.
Bydd y cyllid yn galluogi’r casgliad unigryw, gwerthfawr hwn i ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, gan wella ei iechyd a’i wydnwch a’i werth fel rhan o frithwaith coetir Cymru.
Er mwyn sicrhau bod y coetir yn parhau i fod yn ecosystem ffyniannus, ddiogel a gwydn, bydd y project a ariennir gan y Grant Buddsoddi Mewn Coetir yn galluogi gwaith cadwraeth helaeth, gan gynyddu iechyd ac amrywiaeth ein cynefinoedd unigryw. Bydd yn creu rhwydwaith o goetiroedd gwydn trwy ddatblygu parthau ymyrraeth isel a dim ymyrraeth ac ardaloedd a reolir yn sensitif.
Bydd y project yn hyrwyddo ac yn gwella mynediad, gan ddiogelu gwerth ecolegol, yn dileu rhwystrau i fynediad trwy gyfarwyddiadau, dehongli, rhwydweithiau o lwybrau, galluogi gweithgareddau lles corfforol a meddyliol a rhoi caniatâd i bobl wneud defnydd o fannau naturiol.
Bydd y cyllid yn galluogi profiadau dysgu cyffrous ac ystyrlon i wirfoddolwyr, myfyrwyr ac ymwelwyr trwy raglen amrywiol o gyfleoedd galwedigaethol mewn sgiliau traddodiadol, ymarferol, cyfathrebu gwyddoniaeth, projectau ymchwil ac archwilio'r coetir i gynhyrchu bwyd, meddygaeth a chrefft.
Bydd y project yn creu cyfleoedd i ddarganfod treftadaeth gudd, dysgu am yr ardal leol, sut cafodd ei llunio dros amser a chan bwy.
Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth, “Rydym yn falch dros ben o fod wedi ennill y grant hwn. Diolch i’r gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru a NLHF trwy’r cynllun Grant Buddsoddi Mewn Coetir, gallwn sefydlu rhaglen o waith cadwraeth hanfodol ac allgymorth cymunedol i gefnogi a dathlu ein treftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog”.
Bydd Gardd Fotaneg Treborth yn cynnal gweithdai, cyrsiau a hyfforddiant trwy gydol y project, a theithiau o amgylch y coetir i ddathlu cerrig milltir y project. Ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth https://treborth.bangor.ac.uk/digwyddiadau