Cynhaliwyd y digwyddiad gan Undeb Bangor, sef Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, ar y cyd â thîm Campws Byw. Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru hefyd gefnogi a mynychu’r digwyddiad.
Enillodd Undeb Bangor wobr safon ragorol mewn effaith werdd y flwyddyn ddiwethaf ac maen nhw’n gobeithio parhau i anelu am wobr cynaliadwyedd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Cychwynnodd y digwyddiad gydag araith gan gynrychiolwyr o Brosiect Gwirfoddoli Glanhau Traethau Undeb Bangor. Amlinellwyd eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn a’u nod i gasglu mwy o ddata am faint ynghyd a’r mathau o ysbwriel a gasglwyd wrth lanhau’r traeth. Cyhoeddwyd cynllun i lansio ffurflen newydd i gasglu data gan wirfoddolwyr gan obeithio y bydd yn fuddiol ar gyfer ymchwil.
Dywedodd Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymuned Undeb Bangor, “Mae’n wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn dod ynghyd i lanhau ein harfordir. Nid yn unig hynny, ond mae yna wir ddiddordeb mewn cefnogi ac integreiddio gydag ein cymuned a chymryd rhan yn y gweithgareddau yma.
“Mae ein Project Gwirfoddoli Glanhau Traethau yn edrych ymlaen at gefnogi grŵp newydd Cadw Cymru’n Daclus gyda chodi ysbwriel o amgylch Bangor yn fisol. Un esiampl yn unig ydi’r prosiect yma o gyfraniad ein myfyrwyr yn yr ardal yma; mae gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed ar hyd y flwyddyn i blannu coed, i fonitro poblogaeth llygod pengrwn y dŵr lleol, ansawdd dŵr, a datblygu mannau gwyrdd.
“Maen nhw’n caru gweithio gyda phartneriaid fel Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, a Menter Môn er mwyn cynyddu effaith eu gwaith.”
Roedd glanhau’r traeth yn rhan o raglen eang o weithgareddau, a gynhaliwyd gan Undeb Bangor fel rhan o Wythnos Am Wastraff. Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys cyfnewid dillad a chaffi trwsio, lle atgyweiriwyd 15 eitem gan eu harbed rhag mynd i safle tirlenwi. Bu Undeb Bangor hefyd yn cydweithio â Chyngor Gwynedd, ar ymweliadau gwastraff cymunedol a fu’n gyfle i'r trefnwyr siarad â myfyrwyr am yr heriau maen nhw’n ei hwynebu gyda gwaredu a rheoli gwastraff. Nod yr ymweliadau oedd sicrhau bod gan denantiaid yr holl wybodaeth a’r offer priodol sydd angen er mwyn ailgylchu’n briodol.