Fy ngwlad:
Eistedda atol mewn cefnfor glas.

Ymchwil yn taflu goleuni pellach ar effaith El Niño ar barhad riffiau cwrel

Gellir efallai gweld newidiadau i gerrynt o'r Môr Tawel a achubodd riff cwrel ynys anghysbell mewn mannau eraill.

Er bod newidiadau i dymheredd y môr sy'n deillio o ddigwyddiadau fel El Niño (a achosir gan ddŵr cynhesach nag arfer mewn rhannau o’r Môr Tawel, rhwng De America ac Awstralia, sy’n creu tywydd anarferol o boeth a stormus) yn cael effaith andwyol ar lawer o riffiau cwrel y byd, mae eraill wedi dod o'r 'tonnau gwres' hyn mewn cyflwr llawer gwell na'r disgwyl.

Ymchwil newydd a gyhoeddir yn Science Advances yn taflu goleuni ar y rhesymau pam mae rhai riffiau wedi parhau, a hyd yn oed wedi elwa o’r tonnau gwres a achosir gan El Niño.

Astudiodd tîm rhyngwladol o eigionegwyr a biolegwyr y môr, gan gynnwys dau o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, ddeugain mlynedd o ddata, yn enwedig data ar ddigwyddiad El Niño 2015-16, i nodi prosesau cefnforol cyfnewidiol.

Mae rhyngweithiadau cymhleth ymhell i ffwrdd yng nghanol y môr yn effeithio ar riffiau cwrel.

Nododd yr ymchwilwyr newid i batrymau gylchu dŵr yng nghanol y Môr Tawel yn ystod El Niño sy'n esbonio pam mae rhai riffiau wedi ymdopi’n well o dan amodau El Niño.

Yn ystod El Niño, caiff cerrynt y cefnfor yn y cyhydedd ei wanhau, gan leihau'r maetholion sy'n dod i'r wyneb trwy ymchwydd pan fydd y cerrynt hwn yn llifo'n gryf.

Ond ymhellach i'r gogledd, canfu'r ymchwilwyr fod gwrthgerrynt cyhydeddol y gogledd sy'n llifo tua'r dwyrain ac yn taro glannau gorllewinol Palmyra Atoll, ynys anghysbell heb neb yn byw arni yng nghanol y Môr Tawel, wedi cryfhau'n sylweddol yn ystod El Niño 2015-16. Roedd hyn, ynghyd â’r ffaith bod haen gymysg y cefnfor o amgylch Palmyra (y rhwystr i ymchwydd), yn mynd yn fwy bas yn hybu symudiad dyfroedd oerach llawn plancton i riffiau cwrel bas yr ynys. Galluogodd y broses hon i’r riffiau reoli straen y gwres a achoswyd gan y cynnydd yn nhymheredd y môr yn well yn ystod tonnau poeth 2015-16.

Meddai'r Dr Gareth Williams o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, ac un o brif awduron y papur:

“Gall straen gwres fel y profwyd yn ystod digwyddiad El Niño achosi gwynnu cwrel, sef chwalu'r berthynas gydfuddiannol rhwng yr anifail cwrel a'i endsymbiontau algaidd. Mae chwalfa hirfaith yn y berthynas hon yn aml yn arwain at newyn a marwolaeth y cwrel, gan fod llawer o ofynion egnïol cwrelau yn cael eu bodloni gan weithgarwch ffotosynthetig ei endosymbiontau. Fodd bynnag, bu i’r prosesau eigioneg newidiol a welwyd yn 2015-16 sicrhau 1000 gwaith mwy o ymchwydd nag arfer yn ystod y cyfnod o wres mwyaf. Trwy edrych ar newidiadau cemegol yn y meinweoedd cwrel, canfuwyd tystiolaeth bod yr ymchwydd hwn wedi dod â bwyd o ddyfroedd dyfnach i fyny i’r basddwr ac wedi rhoi ffynhonnell ynni amgen i’r cwrelau a fyddai’n debygol o fod wedi cyfrannu at eu parhad.”

Meddai’r Athro Mattias Green, eigionegydd ym Mhrifysgol Bangor a chydawdur,
“Wrth edrych yn ôl, gwelsom fod yr un newidiadau cefnforol hyn wedi digwydd yn Palmyra yn ystod tri digwyddiad mawr olaf El Niño yn yr hanner canrif ddiwethaf. Gallai hyn helpu i esbonio pam mae Palmyra wedi parhau mor dda, er gwaethaf cyfnodau o gynhesu cefnforol dwys.”

Dywedodd Dr Michael Fox, o’r King Abdullah University of Science and Technology a phrif awdur y papur, “Tywydd poeth sy’n gysylltiedig ag El Niño yw’r bygythiad mwyaf i ecosystemau riffiau cwrel yn fyd-eang. Mae'r digwyddiadau hyn yn achosi effeithiau pellgyrhaeddol ar draws y trofannau a gallant arwain at farwolaethau riffiau cwrel ar raddfa eang ar draws ardaloedd mawr. Dengys ein canlyniadau ei bod yn debygol bod riffiau eraill yn y Môr Tawel wedi elwa o gasgliad tebyg o amodau cefnforol. Bydd deall ble mae’r rhain ac a yw’r amodau hyn yn hwyluso parhad riffiau cwrel yn ein helpu i nodi pa riffiau sydd â mwy o siawns o oroesi newid yn yr hinsawdd ac i gynllunio ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol.”