Mae Dr Rebecca Payne yn Uwch Ddarlithydd Clinigol er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar arloesi ym maes iechyd digidol, yr effaith y mae ymgynghori o bell yn ei gael ar ddiogelwch cleifion, ac ansawdd gofal iechyd mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. Cyn dod i Fangor, bu’n Gymrawd Ymarfer gyda’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Rhydychen. Yno bu’n gweithio ar broject ‘Remote by Default 2’ gan arwain ar faterion a oedd yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch.
Rebecca sy’n arwain y project REMEDY ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r project yn edrych ar sut y gallai datrysiad technolegol ei gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar feddyginiaeth angenrheidiol ar frys ar ôl galw 111 a chael ymgynghoriad y tu allan i oriau.
remedy PROJECT
Cyn mentro i’r byd academaidd, bu Rebecca’n gweithio mewn nifer o uwch swyddi arwain ym maes meddygaeth gan gynnwys bod yn Gadeirydd RCGP Cymru, yn Gynghorydd Proffesiynol Cenedlaethol ar ofal cychwynnol brys gyda’r Comisiwn Ansawdd Gofal, ac yn Gyfarwyddwr Clinigol ar ofal cychwynnol heb ei drefnu gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Ar hyn o bryd, hi yw cadeirydd Pwyllgor Safonau Ansawdd NICE.
Mae Rebecca hefyd yn Ysgolhaig Clarendon-Reuben ym Mhrifysgol Rhydychen, yn un o Gymrodyr Churchill, ac yn Ymchwilydd Preswyl er Anrhydedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Gwyddonol EURIPA ac yn Olygydd Cyswllt ar y Cyfnodolyn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Pholisi Mae hi’n cynnal cinio misol ar y cyd â rhai o’i chydweithwyr o Brifysgol Aarhus er mwyn dysgu am ofal digidol sylfaenol, gofal digidol cymunedol a gofal digidol brys Mae Rebecca yn cynnal sesiynau clinigol fel rhan o’i gwaith fel meddyg teulu o bell gyda GIG Orkney.