Staff Swyddfa Llywodraethu

Gwenan Hine, wearing a black and grey top, standing by a window in Main Arts Building

Gwenan Hine

Ysgrifennydd y Brifysgol

gwenan.hine@bangor.ac.uk

+44 1248 383878

Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Gwenan sydd â goruchwyliaeth strategol ar bob agwedd ar lywodraethu’r Brifysgol gan gynnwys y Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol a holl Is-bwyllgorau’r Cyngor. Yn ogystal, mae’n arwain Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol, darparu gwasanaethau cyfreithiol, cydymffurfio â chontractau a gwybodaeth, diogelu ac Atal, ymddygiad a chwynion myfyrwyr, Graddau er Anrhydedd, llywodraethu ymchwil, moeseg, ordinhadau, rheoliadau a pholisïau.

Llun agos o Sera Whitley yn y Prif Adeilad

Sera Whitley

Cynorthwyydd Swyddfa Bwrdd Gweithredol

s.whitley@bangor.ac.uk

+44 1248 383279

Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Sera yn darparu cefnogaeth weithredol a gweinyddol i bortffolio Swyddfa'r Is-ganghellor a Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol. Mae hi'n arwain y gwaith o ddarparu cefnogaeth weinyddol i'r Uwch Grŵp Arweinyddiaeth ac yn cynorthwyo gyda’r cyfarfodydd lefel uchel eraill, gan gynnwys y Cyngor ac is-bwyllgorau'r Cyngor. Mae Sera yn cydlynu ac yn rheoli gweinyddiaeth amrywiaeth o brosesau gan gynnwys penodiadau er anrhydedd a chodi baner y brifysgol er cof.

Mae Sera yn cynorthwyo Ysgrifennydd y Brifysgol gyda’r gwaith o gynllunio ac amserlennu dyddiadur y brifysgol ac yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Brifysgol i gydlynu trefn y graddedigion er anrhydedd. Mae Sera yn cynorthwyo Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol gyda dyletswyddau gweinyddol eraill ar ran y Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol benodol i Uwch Gynorthwyydd Gweithredol yr Is-ganghellor.

Ymunodd Sera â’r brifysgol yn 2022, a hithau newydd raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg gydag Iaith Saesneg.