Gwobrau Cwrs Dylunio Cynnyrch Blynyddol

Gwobr M-SParc am Berfformaid Academaidd

Mae gan y cwrs Dylunio Cynnyrch berthynas dda gyda Pharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) sydd wedi'i leoli yng Ngaerwen, Ynys Môn.

Mae M-SParc yn cefnogi gwobr flynyddol o £150 i'w roi i'r myfyrwyr sy'n graddio sydd â'r marc academaidd uchaf. 

Ennillydd 2024

  • Robert Plaister (sydd hefyd wedi ennill gwobr John Robert Jones, a ddyfernir bob blwyddyn i'r myfyriwr sy'n graddio gyda'r marc gorau ar draws yr holl raglenni gradd a gynigir ym Mangor.) 
  • 2023 Daniel Lambert 
  • 2022 Andreas Koukouris 

Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth 

Yn gynnar yn 2000 sefydlwyd gwobr gan Mr Lloyd Jones, Americanwr oedd ei rieni o'r ardal o amgylch Bangor.  Sefydlwyd y wobr gan Mr Jones i hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr lleol Prifysgol Bangor a fydd yn cyfrannu at agweddau technolegol economi Gogledd Cymru ar ôl graddio.   

Rhaid i gyfeiriadau cartref cofrestredig y myfyrwyr fod o fewn ardal gogledd Cymru ac maent wedi sicrhau cyflogaeth leol neu mae ganddynt menter fusnes wrth symud ymlaen. 

Mae'r wobr o £1500 yn cael ei dyfarnu wrth raddio i un myfyriwr gwrywaidd ac un myfyriwr benywaidd oddi ar y Cwrs Dylunio Cynnyrch. 

Cefndir Mr Lloyd Jones 

Roedd Lloyd Jones yn un o gefnogwyr hiraf y cwrs Dylunio Cynnyrch.  Ganwyd Lloyd Jones yn 1924 yn Kingston, Pennsylvania i rieni Cymreig a ymfudodd o Gymru.  

Yn ddyn busnes llwyddiannus, ac yn aelod gweithgar o'i gymuned, gwelodd Mr. Lloyd Jones gyfle i gyfrannu at ddatblygiad eraill drwy sefydlu gwaddol elusennol yn rhan o’r Sefydliad Cenedlaethol Cymreig-Americanaidd yn 1986.  

Byddai'r gwaddol elusennol yn rhoi grant gwobrwyo i entrepreneuriaid ifanc rhagorol sy'n graddio o Brifysgol Bangor.  Ers 2000, mae dros 40 o fyfyrwyr wedi derbyn gwobrau sy'n cyfateb i bron i $100,000 wrth i'r gwaddol barhau i dyfu yn seiliedig ar gyfraniadau a buddsoddiadau parhaus a wnaeth Mr. Lloyd Jones dros nifer o flynyddoedd. 

Yn anffodus, bu farw Mr Lloyd Jones ym mis Ebrill 2022, ond mae'r gronfa elusennol a sefydlodd yn parhau o dan arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol Cymreig-Americanaidd a'i fab Mr Lloyd H. Jones. Darllen y coffâd yn llawn.

Enillwyr 2024

  • Courtney Turner a Gwion Roberts 
  • 2023 Lois Williams & Daniel Roberts 
  • 2022 Eleanor Jones & Ben Lewis 
  • 2021 Bridie Dimelow & Ciron Howell 
  • 2020 Elliot Goddard & Lois Griffiths 
  • 2019 Steffan Jones & Phoebe Sinnott 
  • 2018 Victoria Pulo & Hari Tidswell 
  • 2017 Danielle Louise Williams & Daniel Avis 
  • 2016 Rhianon Haf Quirk 
  • 2015 Ceri Mair Roberts & Ieuan Rees 
  • 2014 Jac Parry, Glynwen Davies & Bethan Roberts 
  • 2013 Catrin Lloyd Hicks & Daniel Sion Owen 
  • 2012 Zoe-Marie Hallsworth & Tom Purnell 
  • 2011 Sara Roberts & Shem ap Geraint 
  • 2010 Dyddgu Hywel & Sam Jones 
  • 2009 Sioned Williams & Wil Donaldson 
  • 2008 Elen Ritchie 
  • 2007 Sam Parry 
  • 2004 Celfyn Wynn Roberts 
  • 2003 Clair Roberts & Ross McEwing 
  • 2002 Bethan Britt Compton, Sarah M. Jones 
  • 2001 Mari Lois Williams 
  • 2000 Charlotte Mathews 
     
Mr Lloyd Jones
Mr Lloyd Jones, sefydlydd Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth yn 2000

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?