Fy ngwlad:
School of computing and engineering, graduation, December 2023

Ymfalchïo a Dathlu Dyfodol Disglair: Seremoni Raddio mis Rhagfyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg

Cynhaliwyd seremoni raddio mis Rhagfyr yr Ysgol ddydd Iau, 14 Rhagfyr 2023, a chafwyd cyfle i ddathlu llwyddiant ein myfyrwyr oedd yn graddio.

Mae seremoni raddio mis Rhagfyr yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr blynyddol yr ysgol, ac mae’n gyfle i Brifysgol Bangor ddathlu rhagoriaeth academaidd. Cynhaliwyd y seremoni ffurfiol ddydd Iau, 14 Rhagfyr 2023. Roedd yr achlysur nid yn unig yn anrhydeddu’r graddedigion a gwblhaodd gyrsiau meistr mewn Cyfrifiadureg, Electroneg a Dylunio, ond hefyd myfyrwyr PhD llwyddiannus oedd yn graddio.


Mae’r staff academaidd, y cyfarwyddwyr a pennaeth yr ysgol yn estyn llongyfarchiadau gwresog i’r graddedigion medrus. Roedd y digwyddiad yn amlygu effaith sylweddol eu llwyddiannau ysgolheigaidd. Yn ystod y digwyddiad cafodd myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon gydag academyddion. Tynnwyd llawer o ffotograffau’n dilyn y seremoni, gan gynnwys ffotograff tu allan o’r holl fyfyrwyr, er gwaethaf y tywydd oer. Roedd yn ddigwyddiad llawn cynhesrwydd, a oedd yn symboleiddio nid yn unig gwytnwch y graddedigion ond hefyd y cysylltiadau parhaus a ffurfiwyd o fewn y gymuned academaidd. Yn dilyn y digwyddiad, cafodd y myfyrwyr a’r staff gyfle i fwynhau cacen, te a choffi yn ôl yn Stryd y Deon, lle bu’r sgyrsiau’n parhau.

Wrth i'r graddedigion ddechrau ar lwybrau gyrfa amrywiol, mae pennod newydd yn dechrau i bawb. Mae rhai eisoes wedi mentro i gyfleoedd swyddi newydd addawol, gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yn ystod eu cwrs. Mae eraill wedi dewis dilyn astudiaeth bellach trwy wneud PhD, gan gyfrannu at y disgwrs academaidd parhaus yn eu gwahanol feysydd astudio. Ar yr un pryd, mae rhai graddedigion wedi symud yn ddidrafferth i swyddi yn y diwydiant meddalwedd, gan gymhwyso eu harbenigedd i heriau'r byd go iawn. Ac eto, i’r rhai sy’n dal i archwilio cyfleoedd cyflogaeth, mae’r daith yn parhau gyda’r addewid o orwelion newydd.

Mynegodd Dr Iestyn Pierce, pennaeth yr ysgol, ei falchder yn llwyddiannau’r myfyrwyr, gan ddweud, 

Rwy’n hynod falch o bob un o’n myfyrwyr am eu hymroddiad a’r hyn y maent wedi’i gyflawni. Wrth iddynt gymryd eu camau nesaf, dymunaf lwyddiant iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol, boed hynny wrth iddynt ymgymryd ag astudiaethau academaidd pellach, dechrau swyddi newydd cyffrous, neu ddilyn gyrfaoedd boddhaus. Rwy’n gwbl hyderus y bydd y graddedigion hyn o Brifysgol Bangor yn gwneud cyfraniadau sylweddol yn eu gwahanol feysydd.

Dr Iestyn Pierce,  Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg